2 Kings 16:5

5Yna dyma Resin, brenin Syria, a Pecach fab Remaleia, brenin Israel, yn dod i ryfela yn erbyn Jerwsalem. Dyma nhw'n gwarchae ar Ahas, ond roedden nhw'n methu ei goncro.

2 Chronicles 28:5-6

5Felly dyma'r Arglwydd yn gadael i frenin Syria ymosod arno a'i goncro. Cafodd llawer o'r bobl eu cymryd yn gaeth i Damascus. Wedyn dyma frenin Israel yn ei orchfygu hefyd, a cafodd llawer iawn o'i fyddin eu lladd. 6Lladdwyd 120,000 o filwyr Jwda mewn un diwrnod gan fyddin Pecach fab Remaleia, brenin Israel. Digwyddodd hyn i gyd am fod Jwda wedi troi cefn ar yr Arglwydd, Duw eu hynafiaid.
Copyright information for CYM