Deuteronomy 1:17

17Dwedais wrthyn nhw am beidio dangos ffafriaeth wrth farnu achos, ond gwrando ar bawb, beth bynnag fo'i statws. A ddylen nhw ddim ofni pobl. Duw sy'n gwneud y barnu. Ac os oedd achos yn rhy gymhleth iddyn nhw, gallen nhw ofyn i mi ddelio gydag e.

Deuteronomy 16:19

19Peidio gwyrdroi cyfiawnder a dangos ffafriaeth. Peidio derbyn breib. Mae breib yn dallu pobl ddoeth a troi pobl onest yn gelwyddog.

Proverbs 24:23

23Dyma fwy o eiriau'r doethion:

Dydy dangos ffafriaeth wrth farnu ddim yn beth da.

Proverbs 28:21

21Dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth da;
ond mae rhai pobl yn fodlon gwneud drwg am damaid o fara!
Copyright information for CYM