Deuteronomy 30:1-5

1“Pan fyddwch chi wedi profi'r holl fendithion a melltithion yma dw i'n eu gosod o'ch blaen chi, byddwch chi'n meddwl eto am beth ddywedais i, pan fyddwch yn y gwledydd lle bydd yr Arglwydd eich Duw wedi eich gyrru chi. 2Wedyn os byddwch chi a'ch disgynyddion yn troi'n ôl at yr Arglwydd eich Duw, ac yn bod yn ufudd iddo â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, fel dw i'n gorchymyn i chi heddiw. 3Bydd yr Arglwydd yn teimlo trueni drosoch chi ac yn gadael i chi lwyddo eto. Bydd yn eich casglu chi oddi wrth y bobl roedd e wedi eich gwasgaru chi i'w canol nhw. 4Hyd yn oed os byddwch chi wedi cael eich gyrru i ben draw'r byd, bydd yr Arglwydd eich Duw yn dod â chi yn ôl. 5Bydd e'n dod â chi i gymryd yn ôl y wlad wnaeth eich hynafiaid ei meddiannu. Byddwch yn fwy llwyddiannus, a bydd mwy ohonoch chi nag oedd bryd hynny!
Copyright information for CYM