Exodus 22:25

25Os wyt ti'n benthyg arian i un o'm pobl Israel sydd mewn angen, paid bod fel y benthycwyr sy'n codi llog arnyn nhw.

Leviticus 25:36-37

36Peidiwch cymryd mantais ohono neu ddisgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad. Rhaid i chi ddangos parch at Dduw drwy adael i'r person ddal i fyw yn eich plith chi. 37Peidiwch disgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad, a peidiwch gwneud elw wrth werthu bwyd iddo.

Deuteronomy 23:19

19Peidiwch codi llog ar fenthyciad i gyd-Israeliaid – llog ar arian, ar fwyd, neu unrhyw beth arall sydd wedi ei fenthyg.
Copyright information for CYM