Exodus 25:18-22

18Yna gwneud dau geriwb o aur wedi ei guro (gwaith morthwyl) – un bob pen i'r caead, yn un darn gyda'r caead ei hun. 20Mae'r ceriwbiaid i fod yn wynebu ei gilydd, yn edrych i lawr ar y caead, ac yn estyn eu hadenydd dros yr Arch. 21Mae'r caead i'w osod ar yr arch, a Llechi'r Dystiolaeth i'w gosod y tu mewn iddi. 22Dyma ble bydda i'n dy gyfarfod di. Rhwng y ddau geriwb sydd uwch ben caead yr Arch, bydda i'n siarad â ti, ac yn dweud beth dw i eisiau i bobl Israel ei wneud.

Bwrdd y bara i'w gyflwyno i Dduw

(Exodus 37:10-16)

Copyright information for CYM