Exodus 7:17-19

17Felly mae'r Arglwydd yn dweud: “Dyma sut rwyt ti'n mynd i ddeall mai fi ydy'r Arglwydd: Dw i'n mynd i daro dŵr yr Afon Nil gyda'r ffon yma, a bydd yn troi yn waed. 18Bydd y pysgod yn marw, a bydd yr Afon Nil yn drewi. Fydd pobl yr Aifft ddim yn gallu yfed dŵr ohoni.”’”

19Yna dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Dywed wrth Aaron am estyn ei ffon dros ddyfroedd yr Aifft – yr afonydd, y camlesi, y corsydd a'r dŵr sydd wedi ei gasglu – er mwyn i'r cwbl droi'n waed. Bydd gwaed drwy'r wlad i gyd, hyd yn oed yn y bwcedi pren a'r cafnau carreg.”

Copyright information for CYM