Ezekiel 23:2-27

2“Ddyn, roedd yna ddwy wraig oedd yn ferched i'r un fam. 3Pan oedden nhw'n ifanc iawn dyma nhw'n dechrau actio fel puteiniaid yn yr Aifft. Roedden nhw'n gadael i ddynion afael yn eu bronnau ac anwesu eu cyrff. 4Enw'r chwaer hynaf oedd Ohola, ac enw'r ifancaf oedd Oholiba. Roeddwn i wedi eu priodi nhw, a dyma nhw'n cael plant i mi. (Samaria ydy Ohola, a Jerwsalem ydy Oholiba.)

5“Roedd Ohola yn actio fel putain pan oedd hi hefo fi, ac yn ysu am gael rhyw gyda'i chariadon – swyddogion milwrol Asyria 6yn eu lifrai porffor, capteiniaid a swyddogion eraill; dynion golygus i gyd, yn farchogion yn y cafalri. 7Roedd hi'n rhoi ei hun iddyn nhw – dynion ifanc gorau Asyria i gyd. Roedd hi'n halogi ei hun yn addoli eu heilun-dduwiau nhw ac yn rhoi ei hun iddyn nhw. 8Roedd hi'n dal ati i buteinio fel roedd hi'n gwneud pan yn ferch ifanc yn yr Aifft, yn gadael i ddynion gael rhyw gyda hi, anwesu ei bronnau, a gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau. 9Felly dyma fi'n gadael i'w chariadon, yr Asyriaid, ei chael hi – dyna oedd hi eisiau. 10Dyma nhw'n rhwygo ei dillad oddi arni, cymryd ei meibion a'i merched yn gaethion ac yna ei lladd hi. Roedd ei henw'n warth. Roedd y merched i gyd yn meddwl ei bod hi wedi cael beth roedd yn ei haeddu.

11“Er fod Oholiba, ei chwaer, wedi gweld hyn i gyd, dyma hi'n ymddwyn yn waeth fyth! Roedd hi'n hollol wyllt – fel hwren hollol lac ei moesau! 12Roedd hi'n ysu am gael rhyw gyda'r Asyriaid; swyddogion a chapteiniaid, milwyr yn eu lifrai gwych, a marchogion yn y cafalri – dynion ifanc golygus i gyd. 13Ro'n i'n gweld ei bod wedi halogi ei hun, a mynd yr un ffordd â'i chwaer.

14“Ond aeth hi ymlaen i wneud pethau llawer gwaeth na'i chwaer! Dyma hi'n gweld lluniau o ddynion Babilon wedi eu cerfio'n goch llachar ar waliau. 15Roedd pob un gyda sash am ei ganol, a twrban hardd ar ei ben. Roedden nhw'n edrych fel swyddogion milwrol; dynion Babilon, o'r wlad oedd yn cael ei galw yn Caldea.
23:15,23 Caldea Hen enw ar ddeheudir gwlad Babilon
16Pan welodd hi'r lluniau roedd hi'n ysu i'w cael nhw, a dyma hi'n anfon gwahoddiad iddyn nhw ddod ati. 17Felly dyma'r Babiloniaid yn dod ac yn neidio i'r gwely gyda hi. Dyma nhw'n ei halogi a'i threisio hi, nes iddi hi wedyn droi yn eu herbyn nhw am beidio dangos parch ati.

18“A dyna sut wnes i ymateb iddi hi, am orwedd yn ôl a chynnig ei hun iddyn nhw mor agored! Roeddwn i wedi ymateb yr un fath i'w chwaer. 19Ond doedd hi'n poeni dim! Aeth o ddrwg i waeth! Roedd hi'n dal i actio fel y butain yn yr Aifft pan oedd hi'n eneth ifanc! 20Roedd ganddi hiraeth am ei chariadon Eifftaidd oedd â pidynnau fel asynnod, ac yn bwrw had fel stalwyni. 21Dyna sut roedd hi'n cofio'i hymddygiad yn eneth ifanc, gyda dynion yr Aifft yn anwesu ei chorff ac yn gafael yn ei bronnau.

22“Felly, Oholiba,
23:22 Oholiba sef, Jerwsalem (gw. adnod 4).
dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i wneud i'r cariadon
23:22 cariadon Mae'r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair.
wnest ti droi yn eu herbyn nhw godi yn dy erbyn di. Byddan nhw'n ymosod arnat ti o bob cyfeiriad –
23y Babiloniaid a pobl Caldea i gyd, llwythau Pecod, Shoa a Coa, a'r Asyriaid i gyd. Dynion ifanc golygus, yn swyddogion a chapteiniaid, cadfridogion ac arwyr milwrol – i gyd yn y cafalri. 24Byddan nhw'n ymosod arnat ti gyda'i cerbydau, wagenni, a byddin enfawr. Byddan nhw'n trefnu eu hunain yn rhengoedd o dy gwmpas di, gyda'i tariannau bach a mawr ac yn gwisgo'u helmedau. Bydda i'n gadael iddyn nhw dy gosbi di yn ôl eu safonau eu hunain.

25“Dw i wedi cynhyrfu, a dw i'n mynd i ddangos i ti mor wyllt ydw i! Bydd y fyddin sy'n ymosod arnat ti yn dy drin di'n gwbl farbaraidd! Byddan nhw'n torri trwynau a chlustiau pobl i ffwrdd, ac yn lladd pawb yn gwbl ddidrugaredd. Byddan nhw'n cymryd dy blant yn gaethion, a bydd pawb sydd ar ôl yn cael eu llosgi'n fyw. 26Byddan nhw'n tynnu dillad pobl oddi arnyn nhw, ac yn dwyn eu tlysau hardd. 27Dw i'n mynd i roi stop ar dy ymddygiad anweddus di, a'r holl buteinio ddechreuodd yn yr Aifft! Fyddi di ddim yn edrych yn ôl yn hiraethus ar y dyddiau yna byth eto!

Copyright information for CYM