Genesis 14:18-20

18A dyma Melchisedec, brenin Salem, yn mynd â bwyd a gwin iddo. Roedd Melchisedec yn offeiriad i'r Duw Goruchaf, 19a dyma fe'n bendithio Abram fel hyn:

“Boed i'r Duw Goruchaf,
sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear,
dy fendithio Abram.
20A boed i'r Duw Goruchaf gael ei foli,
am ei fod wedi gwneud i ti goncro dy elynion!”

Yna dyma Abram yn rhoi iddo un rhan o ddeg o'r cwbl oedd ganddo.

Copyright information for CYM