Genesis 19:23-29

23Erbyn i Lot gyrraedd Soar roedd hi wedi dyddio. 24A dyma'r Arglwydd yn gwneud i dân a brwmstan syrthio o'r awyr ar Sodom a Gomorra. 25Cafodd y ddwy dref eu dinistrio'n llwyr, a phawb a phopeth yn y dyffryn, hyd yn oed y planhigion. 26A dyma wraig Lot yn edrych yn ôl a syllu ar beth oedd yn digwydd, a cafodd ei throi yn golofn o halen.

27Yn gynnar y bore wedyn aeth Abraham i'r man lle buodd e'n sefyll o flaen yr Arglwydd. 28Edrychodd i lawr ar y dyffryn ac i gyfeiriad Sodom a Gomorra a gweld y mwg yn codi o'r tir fel mwg o ffwrnais. 29Ond pan ddinistriodd Duw drefi'r dyffryn, roedd wedi cofio beth oedd wedi ei addo i Abraham. Roedd wedi achub Lot o ganol y dinistr.

Lot a'i ferched

Copyright information for CYM