Isaiah 55:3

3Gwrandwch arna i, a dewch yma.
Os gwnewch chi wrando, cewch fyw!
Bydda i'n gwneud ymrwymiad hefo chi
fydd yn para am byth a
fel y bendithion sicr wnes i eu haddo i Dafydd. b

Jeremiah 31:31

31“Mae'r amser yn dod,” meddai'r Arglwydd, “pan fydda i'n gwneud ymrwymiad newydd gyda phobl Israel a Jwda.

Ezekiel 16:60

60Na, dw i'n cofio'r ymrwymiad wnes i gyda ti pan oeddet ti'n ifanc, a bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda ti fydd yn para am byth. c

Ezekiel 37:26

26Bydda i'n gwneud ymrwymiad i roi heddwch iddyn nhw – ymrwymiad fydd yn para am byth. d Bydda i'n eu setlo nhw yn y tir, yn gwneud i'r boblogaeth dyfu eto, a gosod y deml yn eu canol nhw am byth.
Copyright information for CYM