Leviticus 18:21

21“Paid rhoi un o dy blant i'w losgi'n fyw i'r duw Molech. Mae gwneud peth felly yn sarhau enw Duw. Fi ydy'r Arglwydd.

Leviticus 20:2-5

2“Dywed wrth bobl Israel:

Os ydy unrhyw un o bobl Israel, neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw, yn aberthu un o'i blant i'r duw Molech, y gosb ydy marwolaeth. Rhaid i bobl daflu cerrig ato nes bydd wedi marw. 3Bydda i'n troi yn erbyn person felly. Bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw, am roi ei blentyn i Molech, llygru'r cysegr, a sarhau fy enw sanctaidd i. 4Os bydd pobl y wlad yn diystyru'r peth pan mae rhywun yn rhoi ei blentyn i Molech, a ddim yn ei roi i farwolaeth, 5bydda i fy hun yn troi yn erbyn y dyn hwnnw a'i deulu. Byddan nhw'n cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw. Dyna fydd yn digwydd iddo, ac i bawb arall sy'n gwneud yr un fath ac yn puteinio drwy addoli'r duw Molech.

Deuteronomy 12:31

31Dych chi ddim i addoli'r Arglwydd eich Duw yn y ffyrdd roedden nhw'n addoli. Roedden nhw'n gwneud pethau sy'n hollol ffiaidd gan yr Arglwydd wrth addoli – pethau mae e'n eu casáu! Roedden nhw hyd yn oed yn llosgi eu plant yn aberth i'w duwiau!

Copyright information for CYM