Leviticus 26:14-16

14“Ond os byddwch chi'n anufudd ac yn gwrthod gwneud beth dw i'n ddweud, byddwch chi'n cael eich cosbi. 15Os byddwch chi'n gwrthod cadw fy rheolau i ac yn torri'r ymrwymiad wnes i gyda chi, 16dyma fydda i'n ei wneud: Bydda i'n dod â trychineb sydyn arnoch chi – afiechydon ellir mo'i gwella, gwres uchel, colli'ch golwg a cholli archwaeth am fwyd. Byddwch yn hau eich had i ddim byd achos bydd eich gelynion yn bwyta'r cnwd.

Deuteronomy 28:25

25Bydd yr Arglwydd yn gadael i'ch gelynion eich trechu chi. Byddwch chi'n ymosod arnyn nhw o un cyfeiriad, ond yn gorfod dianc i bob cyfeiriad! Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn ddychryn i wledydd y byd i gyd.
Copyright information for CYM