Numbers 18:2-6

2Gad i dy berthnasau, o lwyth Lefi, dy helpu di a dy feibion wrth i chi gyflawni eich gwaith o flaen pabell y dystiolaeth. 3Maen nhw i'ch helpu chi i ofalu am y Tabernacl. Ond rhaid iddyn nhw beidio mynd yn agos at unrhyw offer cysegredig na'r allor, neu byddan nhw a chi yn marw. 4Maen nhw i'ch helpu chi i ofalu am Babell Presenoldeb Duw, ac i wneud eich gwaith yn y Tabernacl. Ond does neb o'r tu allan i gael dod yn agos. 5Chi fydd yn gyfrifol am y cysegr a'r allor, fel bod yr Arglwydd ddim yn gwylltio hefo pobl Israel eto. 6Fi sydd wedi dewis dy berthnasau di o lwyth Lefi i wneud y gwaith yma. Mae'n nhw'n anrheg i ti gan yr Arglwydd, i weithio yn y Tabernacl.
Copyright information for CYM