Psalms 74

Gweddi ar i Dduw achub y genedl

 Mascîl gan Asaff.

1O Dduw, pam wyt ti'n ddig gyda ni drwy'r amser?
Pam mae dy ffroenau'n mygu yn erbyn defaid dy borfa?
2Cofia'r criw o bobl gymeraist ti i ti dy hun mor bell yn ôl;
y bobl ollyngaist yn rhydd i fod yn llwyth sbesial i ti!
Dyma Fynydd Seion ble rwyt ti'n byw!
3Brysia! Edrych ar yr adfeilion diddiwedd yma,
a'r holl niwed mae'r gelyn wedi ei wneud i dy deml!
4Mae'r gelyn wedi rhuo wrth ddathlu eu concwest yn dy gysegr;
a gosod eu harwyddion a'u symbolau eu hunain yno.
5Roedden nhw fel dynion yn chwifio bwyeill
wrth glirio drysni a choed;
6yn dryllio'r holl waith cerfio cywrain
gyda bwyeill a morthwylion.
7Yna rhoi dy gysegr ar dân;
a dinistrio'n llwyr y deml lle roeddet ti'n aros.
8“Gadewch i ni ddinistrio'r cwbl!” medden nhw.
A dyma nhw'n llosgi pob cysegr i Dduw yn y tir.
9Does dim arwydd o obaith i'w weld!
Does dim proffwyd ar ôl;
neb sy'n gwybod am faint mae hyn yn mynd i bara.
10O Dduw, am faint mwy mae'r gelyn yn mynd i wawdio?
Ydy e'n mynd i gael sarhau dy enw di am byth?
11Pam wyt ti ddim yn gwneud rhywbeth?
Pam wyt ti'n dal yn ôl? Plîs gwna rywbeth!
12O Dduw, ti ydy fy Mrenin i o'r dechrau!
Ti ydy'r Duw sy'n gweithredu ac yn achub ar y ddaear!
13Ti, yn dy nerth, wnaeth hollti'r môr. a
Ti ddrylliodd bennau y ddraig yn y dŵr.
14Ti sathrodd bennau Lefiathan,
74:13,14 môr … y ddraig … Lefiathan tri symbol o anhrefn yn mytholeg y Dwyrain Canol. Mae Duw yn gryfach na'r grymoedd yma.

a'i adael yn fwyd i greaduriaid yr anialwch.
15Ti agorodd y ffynhonnau a'r nentydd,
a sychu llif yr afonydd.
16Ti sy'n rheoli'r dydd a'r nos;
ti osododd y lleuad a'r haul yn eu lle.
17Ti roddodd dymhorau i'r ddaear;
haf a gaeaf – ti drefnodd y cwbl!
18Cofia fel mae'r gelyn wedi dy wawdio di, Arglwydd;
fel mae pobl ffôl wedi dy sarhau di.
19Paid rhoi dy golomen i'r bwystfil!
Paid anghofio dy bobl druan yn llwyr.
20Cofia'r ymrwymiad wnest ti!
Mae lleoedd tywyll sy'n guddfan i greulondeb ym mhobman.
21Paid gadael i'r bobl sy'n dioddef droi'n ôl yn siomedig.
Gad i'r tlawd a'r anghenus foli dy enw.
22Cod, O Dduw, a dadlau dy achos!
Cofia fod ffyliaid yn dy wawdio drwy'r adeg.
23Paid diystyru twrw'r gelynion,
a bloeddio diddiwedd y rhai sy'n dy wrthwynebu di.

Psalms 79

Gweddi i achub y genedl

Salm gan Asaff.

1O Dduw, mae'r gwledydd paganaidd wedi cymryd dy dir.
Maen nhw wedi halogi dy deml sanctaidd
a troi Jerwsalem yn bentwr o gerrig.
2Maen nhw wedi gadael cyrff dy weision
yn fwyd i'r adar;
a chnawd dy bobl ffyddlon i anifeiliaid gwylltion.
3Mae gwaed dy bobl yn llifo
fel dŵr o gwmpas Jerwsalem,
a does neb i gladdu'r cyrff.
4Dŷn ni'n gyff gwawd i'n cymdogion;
ac yn destun sbort a dirmyg i bawb o'n cwmpas.
5Am faint mwy, O Arglwydd?
Fyddi di'n ddig am byth?
Fydd dy eiddigedd, sy'n llosgi fel tân, byth yn diffodd?
6Tywallt dy lid ar y bobloedd sydd ddim yn dy nabod
a'r teyrnasoedd hynny sydd ddim yn dy addoli!
7Nhw ydy'r rhai sydd wedi llarpio Jacob
a dinistrio ei gartref.
8Aethon ni ar gyfeiliorn, ond paid dal hynny yn ein herbyn.
Brysia! Dangos dosturi aton ni,
achos dŷn ni mewn trafferthion go iawn!
9Helpa ni, O Dduw ein hachubwr,
er mwyn dy enw da.
Achub ni a maddau ein pechodau,
er mwyn dy enw da.
10Pam ddylai'r paganiaid gael dweud,
“Ble mae eu Duw nhw?”
Gad i ni dy weld di'n rhoi gwers i'r cenhedloedd,
a talu'n ôl iddyn nhw am dywallt gwaed dy weision.
11Gwrando ar y carcharorion rhyfel yn griddfan!
Defnyddia dy nerth i arbed
y rhai sydd wedi eu condemnio i farwolaeth!
12Tala yn ôl yn llawn i'n cymdogion!
Maen nhw wedi dy enllibio di, Feistr.
13Yna byddwn ni, dy bobl
a phraidd dy borfa,
yn ddiolchgar i ti am byth
ac yn dy foli di ar hyd y cenedlaethau!
Copyright information for CYM