1 Chronicles 17

Addewid Duw i Dafydd

(2 Samuel 7:1-17)

Pan oedd Dafydd wedi setlo i lawr yn ei balas, dyma fe'n dweud wrth y proffwyd Nathan, “Edrych! Dw i'n byw yma mewn palas crand o goed cedrwydd, tra mae Arch yr  Arglwydd yn dal mewn pabell.” A dyma Nathan yn ateb, “Mae Duw gyda ti. Gwna beth bynnag wyt ti'n feddwl sy'n iawn.”

Ond y noson honno dyma Duw yn dweud wrth Nathan, “Dos i ddweud wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r  Arglwydd yn ei ddweud: Dwyt ti ddim yn mynd i adeiladu teml i mi fyw ynddi. Dw i erioed wedi byw mewn teml, o'r diwrnod pan ddes i â phobl Israel allan o'r Aifft hyd heddiw. Dw i wedi bod yn mynd o babell i babell. Ble bynnag roeddwn i'n teithio gyda phobl Israel, wnes i erioed gwyno i'r arweinwyr oedd yn gofalu am bobl Israel, “Pam dych chi ddim wedi adeiladu teml o goed cedrwydd i mi?”’

“Felly, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r  Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud: Fi wnaeth dy gymryd di o'r caeau lle roeddet yn bugeilio defaid, a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel. Dw i wedi bod gyda ti ble bynnag rwyt ti wedi mynd, ac wedi dinistrio dy elynion o dy flaen di. Dw i'n mynd i dy wneud di'n enwog go iawn drwy'r byd i gyd. Dw i'n mynd i roi lle i fy mhobl Israel fyw. Byddan nhw'n setlo yno, a fydd neb yn tarfu arnyn nhw. Fydd dynion creulon ddim yn achosi helynt iddyn nhw fel o'r blaen, 10 pan oeddwn i wedi penodi barnwyr i'w harwain nhw. Bellach, dw i'n mynd i drechu dy elynion di. Dw i'n dweud fod yr  Arglwydd yn mynd i adeiladu tŷ i ti – llinach frenhinol!

11 Ar ôl i ti farw a chael dy gladdu,
bydda i'n codi un o dy linach di yn dy le – mab i ti.
A bydda i'n gwneud ei deyrnas e yn gadarn.
12 Bydd e yn adeiladu teml i mi,
A bydda i'n gwneud iddo deyrnasu am byth.
13 Bydda i yn dad iddo, a bydd e'n fab i mi.
Fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo fe,
yn wahanol i'r un o dy flaen di.
14 Bydda i'n gwneud iddo deyrnasu am byth.
Bydd ei orsedd yn gadarn fel y graig.’”

15 Dyma Nathan yn mynd a dweud y cwbl wrth Dafydd.

Gweddi Dafydd

(2 Samuel 7:18-29)

16 A dyma'r Brenin Dafydd yn mynd i mewn i eistedd o flaen yr  Arglwydd. “O  Arglwydd Dduw, pwy ydw i? Dw i a'm teulu yn neb. Ac eto ti wedi dod â fi mor bell! 17 Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, O Dduw, ti wedi siarad am y dyfodol pell yn llinach dy was! Ti'n delio gyda mi fel petawn i'n rhywun pwysig, o  Arglwydd Dduw. 18 Beth alla i ddweud? Ti wedi rhoi anrhydedd i dy was, ac yn gwybod sut un ydw i. 19  Arglwydd, am dy fod wedi addo gwneud, ac am mai dyna oedd dy fwriad, ti wedi gwneud y pethau mawr yma i ddangos mor fawr wyt ti.

20  Arglwydd, does neb tebyg i ti! Does yna ddim duw arall heblaw ti. Dŷn ni wedi clywed am neb yr un fath â ti! 21 A pwy sy'n debyg i dy bobl di, Israel? Mae hi'n wlad unigryw ar y ddaear. Aeth Duw i'w gollwng yn rhydd, a'u gwneud yn bobl iddo'i hun. Ti'n enwog am wneud pethau rhyfeddol pan wnest ti achub dy bobl o'r Aifft a gyrru'r cenhedloedd paganaidd allan o'r tir oedd gen ti ar eu cyfer nhw.

22 “Ti wedi gwneud Israel yn bobl i ti dy hun am byth. Rwyt ti,  Arglwydd, wedi dod yn Dduw iddyn nhw. 23 Felly,  Arglwydd, tyrd a'r addewid yma amdana i a'm teulu yn wir. Gwna fel ti wedi addo. 24 Wedyn byddi'n sicr yn enwog am byth. Bydd pobl yn dweud, ‘yr  Arglwydd holl-bwerus ydy Duw Israel.’ A bydd llinach dy was Dafydd yn gadarn fel y graig, 25 am dy fod ti, Dduw Israel, wedi addo y byddi'n adeiladu tŷ i mi. A dyna pam mae dy was yn meiddio gweddïo arnat ti. 26 Nawr,  Arglwydd, ti ydy'r Duw go iawn. Rwyt ti wedi addo gwneud y peth da yma i dy was. 27 Felly, bendithia linach dy was, iddi aros yn gadarn gyda thi am byth.  Arglwydd, rwyt wedi ei bendithio, a bydd dy fendith yn aros am byth.”

Copyright information for CYM