1 Corinthians 14

Doniau proffwydo a siarad ieithoedd dieithr

Rhowch y flaenoriaeth i gariad, ond ceisiwch yn frwd beth sy'n dod o'r Ysbryd, yn arbennig y ddawn o broffwydo. Siarad â Duw mae rhywun sy'n siarad ieithoedd dieithr, nid siarad â phobl. Does neb arall yn deall beth sy'n cael ei ddweud, am mai pethau dirgel sy'n cael eu dweud yn yr Ysbryd. Ond mae'r person sy'n proffwydo, ar y llaw arall, yn siarad gyda phobl. Mae'n eu helpu nhw i dyfu'n ysbrydol, yn eu hannog nhw ac yn eu cysuro nhw. Mae siarad ieithoedd dieithr yn help i'r un sy'n siarad, ond mae proffwydo yn helpu cymdeithas yr eglwys. Dw i'n falch dros bob un ohonoch chi sy'n gallu siarad mewn ieithoedd dieithr, ond byddai'n well gen i eich cael chi i broffwydo. Am eu bod nhw'n helpu'r eglwys, mae'r rhai sy'n proffwydo yn gwneud peth gwell na'r rhai sy'n siarad mewn ieithoedd dieithr (oni bai fod rhywun yn esbonio beth sy'n cael ei ddweud!)

Ffrindiau annwyl, taswn i wedi dod atoch chi yn siarad mewn ieithoedd dieithr, fyddai hynny'n dda i ddim. Byddai'n llawer gwell i mi rannu rhywbeth sydd wedi ei ddatguddio i mi, neu air o wybodaeth neu broffwydoliaeth neu neges fydd yn dysgu rhywbeth i chi. Mae'r un fath ag offerynnau cerdd: mae ffliwt neu delyn yn gallu gwneud sŵn, ond sut mae disgwyl i rywun nabod yr alaw oni bai fod nodau gwahanol? Neu meddyliwch am utgorn yn canu – os ydy'r sain ddim yn glir, pwy sy'n mynd i baratoi i fynd i ryfel? Mae'r un fath gyda chi. Os ydy beth dych chi'n ei ddweud ddim yn gwneud sens, pa obaith sydd i unrhyw un ddeall? Byddwch yn siarad gyda'r gwynt! 10 Mae pob math o ieithoedd yn y byd, ac maen nhw i gyd yn gwneud sens i rywun. 11 Ond os ydw i ddim yn deall beth mae rhywun yn ei ddweud, dw i a'r un sy'n siarad yn estroniaid
14:11 estroniaid: Groeg, “barbariaid” (gw. Rhufeiniaid 1:14; Colosiaid 3:11).
i'n gilydd!
12 Dyna fel mae hi gyda chi! Os dych chi'n frwd i brofi beth mae'r Ysbryd yn ei roi, gofynnwch am fwy o'r pethau hynny sy'n adeiladu cymdeithas yr eglwys.

13 Felly, dylai'r person sy'n siarad mewn iaith ddieithr weddïo am y gallu i esbonio beth mae'n ei ddweud. 14 Os dw i'n siarad mewn iaith ddieithr, dw i'n gweddïo'n ddwfn yn fy ysbryd, ond mae fy meddwl yn ddiffrwyth. 15 Felly beth wna i? Gweddïo o ddyfnder fy ysbryd, a gweddïo gyda'r meddwl hefyd; canu mawl o waelod fy ysbryd, a chanu mawl gyda'r meddwl hefyd. 16 Os mai dim ond yn dy ysbryd rwyt ti'n moli Duw, sut mae pobl eraill i fod i ddeall a dweud “Amen” i beth rwyt ti'n diolch amdano? – dŷn nhw ddim yn gwybod beth rwyt ti'n ddweud! 17 Mae'n siŵr bod dy ddiolch di'n ddigon didwyll, ond dydy e'n gwneud dim lles i neb arall.

18 Mae gen i'r ddawn i siarad ieithoedd dieithr fwy na neb ohonoch chi, diolch i Dduw. 19 Ond lle mae pobl wedi dod at ei gilydd yn yr eglwys byddai'n well gen i siarad pum gair mae pobl yn eu deall, er mwyn dysgu rhywbeth iddyn nhw, na miloedd ar filoedd o eiriau mewn iaith ddieithr.

20 Frodyr a chwiorydd annwyl, stopiwch ymddwyn fel plant bach! Byddwch yn ddiniwed fel babis bach lle mae drygioni'n y cwestiwn. Ond, fel arall, dw i eisiau i chi feddwl ac ymddwyn fel oedolion. 21 Mae wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith:

“Bydda i'n siarad â'r bobl yma
mewn ieithoedd dieithr,
trwy'r hyn fydd pobl estron yn ei ddweud –
ond fyddan nhw ddim yn gwrando arna i wedyn,” b  meddai'r Arglwydd.

22 Rhybudd o farn i bobl sydd ddim yn credu ydy ieithoedd dieithr, nid i'r rhai sy'n credu. Ond mae proffwydoliaeth yn arwydd i'r rhai sy'n credu, nid i'r rhai sydd ddim yn credu. 23 Felly, os ydy pawb yn siarad mewn ieithoedd dieithr pan mae'r eglwys yn cyfarfod, a phobl sydd ddim yn credu nac yn deall beth sy'n mynd ymlaen yn dod i mewn, byddan nhw'n meddwl eich bod chi'n hollol wallgof! 24 Ond os dych chi i gyd yn proffwydo pan mae rhywun sydd ddim yn credu nac yn deall yn dod i mewn, byddan nhw'n cael eu hargyhoeddi eu bod yn wynebu barn. 25 Bydd y gwir amdanyn nhw yn dod i'r wyneb, a byddan nhw'n syrthio i lawr ac yn addoli Duw, a gweiddi, “Mae'n wir! – mae Duw yn eich plith chi!”

Addoliad trefnus

26 Beth dw i'n ei ddweud felly, ffrindiau annwyl? Pan fyddwch yn cyfarfod gyda'ch gilydd, mae gan bawb rywbeth i'w rannu – cân, rhywbeth i'w ddysgu i eraill, rhyw wirionedd sydd wedi ei ddatguddio, siarad iaith ddieithr neu'r gallu i esbonio beth sy'n cael ei ddweud. Dylai popeth gael ei wneud mewn ffordd fydd yn cryfhau cymdeithas yr eglwys. 27 Os oes siarad mewn ieithoedd dieithr i fod, dim ond dau – neu dri ar y mwya – ddylai siarad; pob un yn ei dro. A rhaid i rywun esbonio beth sy'n cael ei ddweud. 28 Os nad oes neb i esbonio beth sy'n cael ei ddweud, dylai'r rhai sy'n siarad ieithoedd dieithr aros yn dawel yn y cyfarfod, a chadw'r peth rhyngddyn nhw a Duw.

29 Dylid rhoi cyfle i ddau neu dri o broffwydi siarad, a dylai pawb arall bwyso a mesur yn ofalus y cwbl gafodd ei ddweud. 30 Ac os ydy rhywbeth yn cael ei ddatguddio i rywun arall sy'n eistedd yno, dylai'r un sy'n siarad ar y pryd dewi. 31 Gall pob un ohonoch chi broffwydo yn eich tro, er mwyn i bawb gael eu dysgu a'u hannog. 32 Mae ysbryd y proffwydi dan reolaeth y proffwydi. 33 Duw'r heddwch ydy Duw, dim Duw anhrefn! Dyna sut mae hi i fod ym mhob un o'r eglwysi.

34 “Dylai gwragedd gadw'n ddistaw yn y cyfarfodydd. Does ganddyn nhw ddim hawl i siarad. Eu lle nhw ydy derbyn y drefn, fel mae'r Gyfraith yn dweud. 35 Os ydyn nhw eisiau holi am rywbeth, maen nhw'n gallu gofyn i'w gwŷr ar ôl mynd adre; mae'n beth gwarthus i weld gwraig yn siarad yn yr eglwys.”

36 Beth? Ai oddi wrthoch chi ddaeth neges Duw gyntaf? Neu ai chi ydy'r unig bobl y mae neges Duw wedi dod atyn nhw? 37 Os oes rhai ohonoch chi'n meddwl eich bod chi'n broffwydi neu'n ‛bobl yr Ysbryd‛, dylech chi gydnabod fod beth dw i'n ei ysgrifennu yn orchymyn oddi wrth Dduw. 38 Bydd y rhai sy'n diystyru hyn yn cael eu diystyru eu hunain!

39 Felly, ffrindiau annwyl, byddwch yn frwd i broffwydo, ond peidiwch rhwystro pobl rhag siarad mewn ieithoedd dieithr. 40 Ond dylai popeth gael ei wneud mewn ffordd sy'n weddus ac yn drefnus.

Copyright information for CYM