1 Kings 13

Proffwyd yn ceryddu Jeroboam

Pan oedd Jeroboam yn sefyll wrth yr allor yn Bethel yn llosgi arogldarth, dyma broffwyd
13:1 broffwyd Hebraeg, “dyn Duw”
yn cyrraedd yno o Jwda, wedi ei anfon gan yr  Arglwydd.
Dyma fe'n cyhoeddi neges gan yr  Arglwydd yn erbyn yr allor: “O allor, allor!” meddai, “Dyma mae'r  Arglwydd yn ei ddweud. ‘Bydd plentyn yn cael ei eni i deulu Dafydd. Joseia fydd ei enw. Bydd e'n lladd offeiriaid yr allorau lleol sy'n dod yma i losgi arogldarth! Bydd esgyrn dynol yn cael eu llosgi arnat ti! Ac mae'r  Arglwydd yn rhoi arwydd yma heddiw. Bydd yr allor yn cael ei dryllio, a'r lludw sydd arni'n syrthio ar lawr.’”

Pan glywodd y brenin beth ddwedodd y proffwyd am yr allor yn Bethel, dyma fe'n estyn ei law allan dros yr allor. “Arestiwch e!” meddai. A dyma'r fraich oedd wedi ei hestyn allan yn cael ei pharlysu. Doedd e ddim yn gallu ei thynnu'n ôl. Ac yna dyma'r allor yn dryllio a'r lludw arni yn syrthio ar lawr, yn union fel roedd y proffwyd wedi dweud wrth gyhoeddi neges yr  Arglwydd.

Yna dyma'r brenin yn pledio ar y proffwyd, “Gweddïa ar yr  Arglwydd dy Dduw, a gofyn iddo wella fy mraich i.” A dyma'r proffwyd yn gweddïo ar yr  Arglwydd, a dyma fraich y brenin yn cael ei gwneud yn iawn fel o'r blaen. Yna dyma'r brenin yn dweud wrth y proffwyd, “Tyrd adre gyda mi i gael rhywbeth i'w fwyta. Dw i eisiau rhoi anrheg i ti.” Ond dyma'r proffwyd yn ei ateb, “Hyd yn oed petaet ti'n rhoi hanner dy eiddo i mi, fyddwn ni ddim yn mynd gyda ti i fwyta dim nac i yfed dŵr yn y lle yma. Achos dwedodd y  Arglwydd yn glir wrtho i, ‘Paid bwyta nac yfed dim yno, a paid mynd adre'r ffordd aethost ti yno.’” 10 Felly dyma fe'n troi am adre ar hyd ffordd wahanol i'r ffordd ddaeth e i Fethel.

11 Roedd yna broffwyd arall, dyn hen iawn, yn byw yn Bethel. Dyma'i feibion yn dweud yr hanes wrtho – beth oedd wedi digwydd yn Bethel y diwrnod hwnnw, a beth oedd y proffwyd wedi ei ddweud wrth y brenin. 12 A dyma fe'n eu holi, “Pa ffordd aeth e?” Esboniodd ei feibion pa ffordd oedd y proffwyd o Jwda wedi mynd. 13 Yna dyma fe'n gofyn iddyn nhw gyfrwyo asyn iddo. Dyma nhw'n gwneud hynny, ac aeth ar ei gefn 14 a mynd ar ôl y proffwyd.

Daeth o hyd iddo yn eistedd o dan goeden dderwen, a gofynnodd iddo, “Ai ti ydy'r proffwyd ddaeth o Jwda?”

A dyma hwnnw'n ateb, “Ie.”

15 Yna dyma fe'n dweud wrtho, “Tyrd adre gyda mi am damaid o fwyd.” 16 Ond dyma'r proffwyd yn ateb, “Alla i ddim mynd yn ôl gyda ti, na bwyta ac yfed dim yn y lle yma. 17 Achos dwedodd yr  Arglwydd yn glir wrtho i, ‘Paid bwyta dim nac yfed dŵr yno, a paid mynd adre'r ffordd aethost ti yno.’” 18 Ond dyma'r hen broffwyd yn dweud, “Dw i hefyd yn broffwyd fel ti. Mae angel wedi rhoi neges i mi gan yr  Arglwydd yn dweud wrtho i am fynd â ti yn ôl adre gyda mi i ti gael rhywbeth i'w fwyta a'i yfed.” Ond dweud celwydd oedd e. 19 Felly dyma'r proffwyd o Bethel yn mynd yn ôl gydag e i gael bwyd a diod yn ei dŷ.

20 Tra roedden nhw'n bwyta dyma'r hen broffwyd oedd wedi ei ddenu'n ôl yn cael neges gan yr  Arglwydd, ac 21 yn dweud wrth y proffwyd o Jwda, “Dyma mae'r  Arglwydd yn ei ddweud: ‘Ti wedi bod yn anufudd, a ddim wedi gwrando ar y gorchymyn roddodd yr  Arglwydd dy Dduw i ti. 22 Ti wedi dod yn ôl i fwyta ac yfed yn y lle yma, er ei fod wedi dweud wrthot ti am beidio gwneud hynny. Felly fydd dy gorff di ddim yn cael ei gladdu ym medd dy deulu.’” 23 Ar ôl iddo orffen bwyta, dyma'r hen broffwyd o Bethel yn cyfrwyo ei asyn i'r proffwyd o Jwda. 24 Pan oedd ar ei ffordd, dyma lew yn ymosod arno a'i ladd. Dyna lle roedd ei gorff yn gorwedd ar ochr y ffordd, a'r asyn a'r llew yn sefyll wrth ei ymyl.

25 Dyma ryw bobl oedd yn digwydd mynd heibio yn gweld y corff ar ochr y ffordd a'r llew yn sefyll wrth ei ymyl. A dyma nhw'n sôn am y peth yn y dre lle roedd yr hen broffwyd yn byw. 26 Pan glywodd yr hen broffwyd am y peth, dyma fe'n dweud, “Y proffwyd fuodd yn anufudd i'r  Arglwydd ydy e. Mae'r  Arglwydd wedi gadael i lew ei larpio a'i ladd, yn union fel gwnaeth e ddweud.”

27 Dyma fe'n gofyn i'w feibion gyfrwyo ei asyn iddo. Wedi iddyn nhw wneud hynny 28 dyma fe'n mynd a dod o hyd i'r corff ar ochr y ffordd, gyda'r llew a'r asyn yn sefyll wrth ei ymyl. (Doedd y llew ddim wedi bwyta'r corff nag ymosod ar yr asyn.)

29 Dyma'r hen broffwyd yn codi'r corff ar yr asyn a mynd yn ôl i'r dre i alaru drosto a'i gladdu. 30 Rhoddodd y corff yn ei fedd ei hun, a galaru a dweud, “O, fy mrawd!”

31 Wedi iddo ei gladdu, dyma fe'n dweud wrth ei feibion, “Pan fydda i'n marw, claddwch fi yn yr un bedd â'r proffwyd, a gosod fy esgyrn i wrth ymyl ei esgyrn e. 32 Bydd y neges roddodd yr  Arglwydd iddo i'w chyhoeddi, yn erbyn allor Bethel a holl demlau lleol Samaria, yn siŵr o ddod yn wir.”

33 Ond hyd yn oed ar ôl i hyn ddigwydd, wnaeth Jeroboam ddim stopio gwneud pethau drwg. Roedd yn dal i wneud pob math o bobl yn offeiriad i'w allorau. Roedd yn apwyntio pwy bynnag oedd yn ffansïo'r job. 34 Y pechod yma oedd y rheswm pam gafodd teulu brenhinol Jeroboam ei chwalu a'i ddileu oddi ar wyneb y ddaear.

Copyright information for CYM