1 Kings 17

Elias yn cyhoeddi y byddai dim glaw

Dyma Elias, o Tishbe yn Gilead, yn dweud wrth Ahab, “Mor sicr â bod yr  Arglwydd, Duw Israel, yn fyw (y Duw dw i'n ei addoli), fydd yna ddim gwlith na glaw y blynyddoedd nesaf yma nes i mi ddweud yn wahanol.”

A dyma'r  Arglwydd yn dweud wrtho, “Dos i ffwrdd i'r dwyrain. Dos i guddio wrth ymyl Nant Cerith yr ochr arall i'r Afon Iorddonen. Cei ddŵr i'w yfed o'r nant, a dw i wedi dweud wrth y cigfrain am ddod â bwyd i ti yno.”

Dyma Elias yn gwneud fel roedd yr  Arglwydd wedi dweud, a mynd i fyw wrth Nant Cerith yr ochr arall i'r Afon Iorddonen. Roedd cigfrain yn dod â bara a chig iddo bob bore a gyda'r nos, ac roedd yn yfed dŵr o'r nant.

Elias a'r wraig weddw yn Sareffath

Ond ar ôl peth amser dyma'r nant yn sychu am ei bod hi heb fwrw glaw yn y wlad o gwbl. A dyma'r  Arglwydd yn dweud wrtho, “Cod, a dos i fyw i Sareffath
17:9 Sareffath Tref ar arfordir Môr y Canoldir, tua 10 milltir i'r de o Sidon.
yn ardal Sidon. Dw i wedi dweud wrth wraig weddw sy'n byw yno i roi bwyd i ti.”

10 Felly dyma Elias yn mynd i Sareffath. Pan gyrhaeddodd giatiau'r dref gwelodd wraig weddw yn casglu coed tân. Dyma fe'n galw arni, “Plîs wnei di roi ychydig o ddŵr i mi i'w yfed.”

11 Wrth iddi fynd i nôl peth dyma fe'n galw ar ei hôl, “Wnei di ddod â rhywbeth bach i mi i'w fwyta hefyd?”

12 Ond dyma hi'n ateb, “Wir i ti, mor sicr â bod yr  Arglwydd dy Dduw yn fyw, does gen i ddim byd. Llond dwrn o flawd mewn potyn ac ychydig o olew olewydd mewn jwg sydd gen i ar ôl. Roeddwn i wrthi'n casglu ychydig o goed tân i wneud un pryd bwyd olaf i mi a'm mab. Ar ôl i ni fwyta hwnnw byddwn ni'n llwgu.”

13 Ond dyma Elias yn dweud wrthi, “Paid bod ag ofn. Dos i wneud hynny. Ond gwna fymryn o fara i mi gyntaf, a tyrd ag e allan yma. Cei baratoi rhywbeth i ti a dy fab wedyn. 14 Achos dyma mae'r  Arglwydd, Duw Israel, yn ei ddweud: Ddaw'r blawd yn y potyn ddim i ben, a fydd yr olew yn y jar ddim yn darfod nes bydd yr  Arglwydd wedi anfon glaw unwaith eto.”

15 Felly dyma hi'n mynd a gwneud fel roedd Elias wedi dweud wrthi. Ac roedd digon o fwyd bob dydd i Elias ac iddi hi a'i theulu. 16 Ddaeth y blawd yn y potyn ddim i ben, a wnaeth yr olew yn y jar ddim darfod, yn union fel roedd yr  Arglwydd wedi addo trwy Elias.

17 Beth amser wedyn dyma fab y wraig oedd biau'r tŷ yn cael ei daro'n wael. Aeth o ddrwg i waeth, nes yn y diwedd iddo stopio anadlu. 18 A dyma'r wraig yn dweud wrth Elias, “Pa ddrwg dw i wedi ei wneud i ti, broffwyd Duw? Wyt ti wedi dod yma i'm cosbi i am fy mhechod a lladd fy mab?”

19 Dyma Elias yn ateb, “Rho dy fab i mi.” A dyma fe'n cymryd y bachgen o'i breichiau, a'i gario i fyny i'r llofft lle roedd yn aros, a'i roi i orwedd ar y gwely. 20 Yna dyma fe'n galw ar yr  Arglwydd, “O  Arglwydd fy Nuw, wyt ti wir am wneud drwg i'r weddw yma sydd wedi rhoi llety i mi, drwy ladd ei mab hi?”

21 A dyma fe'n ymestyn ei hun dros y bachgen dair gwaith, a galw ar yr  Arglwydd: “O  Arglwydd, fy Nuw, plîs tyrd â'r bachgen yma yn ôl yn fyw!” 22 A dyma'r  Arglwydd yn gwrando ar weddi Elias, a dyma'r bachgen yn dechrau anadlu eto. Roedd yn fyw!

23 Dyma Elias yn codi'r bachgen a mynd ag e i lawr y grisiau yn ôl i'w fam, a dweud wrthi, “Edrych, mae dy fab yn fyw!”

24 A dyma'r wraig yn dweud wrth Elias, “Nawr dw i'n gwybod dy fod ti'n broffwyd
17:24 broffwyd Hebraeg, “dyn Duw”
go iawn, a bod yr  Arglwydd wir yn siarad trwot ti.”

Copyright information for CYM