1 Kings 18

Elias yn cyfarfod Obadeia, gwas y brenin Ahab

Ar ôl amser hir, yn ystod y drydedd flwyddyn o sychder, dyma'r  Arglwydd yn dweud wrth Elias. “Dos, a dangos dy hun i Ahab. Dw i'n mynd i anfon glaw ar y tir.”

Felly dyma Elias yn mynd i weld Ahab.

Roedd y newyn yn ddrwg iawn yn Samaria ar y pryd. Felly dyma Ahab yn galw Obadeia, y swyddog oedd yn gyfrifol am redeg y palas. (Roedd Obadeia yn ddyn oedd yn addoli'r  Arglwydd yn ffyddlon. Pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r  Arglwydd, roedd Obadeia wedi cymryd cant o broffwydi a'u cuddio nhw fesul pum deg mewn dwy ogof. Ac roedd yn rhoi bwyd iddyn nhw, a dŵr i'w yfed.)

Dyma Ahab yn dweud wrth Obadeia, “Rhaid i ni fynd trwy'r wlad i gyd, at bob ffynnon a nant. Falle y down ni o hyd i ychydig borfa i gadw'r ceffylau a'r mulod yn fyw, yn lle bod rhaid i ni golli pob un anifail.”

Dyma nhw'n rhannu'r wlad gyfan rhyngddyn nhw. A dyma Ahab yn mynd i un cyfeiriad ac Obadeia yn mynd y ffordd arall.

Wrth i Obadeia fynd ar ei ffordd dyma Elias yn dod i'w gyfarfod. Dyma Obadeia'n nabod Elias, a dyma fe'n plygu ar ei liniau o'i flaen a dweud, “Ai ti ydy e go iawn, fy meistr, Elias?”

“Ie, fi ydy e,” meddai Elias. “Dos i ddweud wrth dy feistr fy mod i yn ôl.”

Ond dyma Obadeia'n dweud, “Beth dw i wedi'i wneud o'i le? Wyt ti eisiau i Ahab fy lladd i? 10 Mor sicr â bod yr  Arglwydd dy Dduw yn fyw, mae fy meistr wedi anfon i bob gwlad a theyrnas i chwilio amdanat ti! Os dŷn nhw'n dweud dy fod ti ddim yno, mae'n gwneud iddyn dyngu llw eu bod nhw heb ddod o hyd i ti. 11 A dyma ti'n dweud wrtho i, ‘Dos i ddweud wrth dy feistr, “Mae Elias yn ôl”!’ 12 Y funud bydda i'n dy adael di, bydd Ysbryd yr  Arglwydd yn dy gario di i ffwrdd i rywle, a fydd gen i ddim syniad i ble. Os gwna i ddweud wrth Ahab fy mod wedi dy weld di, ac yntau wedyn yn methu dod o hyd i ti, bydd e'n fy lladd i! Dw i wedi addoli'r  Arglwydd yn ffyddlon ers pan oeddwn i'n fachgen. 13 Oes neb wedi dweud wrthot ti beth wnes i pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r  Arglwydd? Gwnes i guddio cant o'r broffwydi, fesul pum deg, mewn dwy ogof, a rhoi bwyd iddyn nhw, a dŵr i'w yfed. 14 A nawr, dyma ti'n gofyn i mi fynd i ddweud wrth Ahab ‘Mae Elias yn ôl’! Bydd e'n fy lladd i!”

15 Ond dyma Elias yn addo iddo, “Mor sicr â bod yr  Arglwydd holl-bwerus yn fyw (y Duw dw i'n ei wasanaethu), bydda i'n cyfarfod Ahab heddiw.”

Elias yn cyfarfod y brenin Ahab

16 Felly dyma Obadeia'n mynd i ddweud wrth Ahab. A dyma Ahab yn dod i gyfarfod Elias.

17 Pan welodd Ahab Elias dyma fe'n dweud, “Ai ti ydy e go iawn – yr un sy'n creu helynt i Israel?”

18 Dyma Elias yn ateb, “Nid fi sydd wedi creu helynt i Israel. Ti a theulu dy dad sydd wedi gwrthod gwneud beth mae'r  Arglwydd yn ei ddweud, a ti wedi addoli delwau o Baal!

19 “Dw i eisiau i ti gasglu pobl Israel i gyd at ei gilydd wrth fynydd Carmel. Tyrd â'r holl broffwydi mae Jesebel yn eu cynnal yno – pedwar cant pum deg o broffwydi Baal a pedwar cant o broffwydi'r dduwies Ashera.”

20 Felly dyma Ahab yn anfon neges at holl bobl Israel, a dod â'r proffwydi i gyd at ei gilydd i fynydd Carmel.

Elias a proffwydi Baal ar fynydd Carmel

21 Dyma Elias yn sefyll o flaen y bobl i gyd a gofyn iddyn nhw, “Am faint mwy dych chi'n mynd i eistedd ar y ffens? Os mai'r  Arglwydd ydy'r Duw go iawn, dilynwch e, ond os mai Baal ydy e, dilynwch hwnnw!”

Ddwedodd neb yr un gair.

22 Felly dyma Elias yn dweud wrth y bobl, “Fi ydy'r unig un sydd ar ôl o broffwydi'r  Arglwydd, ond mae yna bedwar cant pum deg o broffwydi Baal yma. 23 Dewch â dau darw ifanc yma. Cân nhw ddewis un tarw, yna ei dorri'n ddarnau, a'i osod ar y coed. Ond dŷn nhw ddim i gynnau tân oddi tano. Gwna i yr un fath gyda'r tarw arall – ei osod ar y coed, ond dim cynnau tân oddi tano. 24 Galwch chi ar eich duw chi, a gwna i alw ar yr  Arglwydd. Bydd y duw sy'n anfon tân yn dangos mai fe ydy'r Duw go iawn.”

A dyma'r bobl yn ymateb, “Syniad da! Iawn!”

25 Yna dyma Elias yn dweud wrth broffwydi Baal, “Ewch chi gyntaf. Mae yna lawer ohonoch chi, felly dewiswch darw, a'i baratoi. Yna galwch ar eich duw, ond peidiwch cynnau tân.”

26 Felly dyma nhw'n cymryd y tarw roedden nhw wedi ei gael, a'i baratoi, a'i osod ar yr allor. A dyma nhw'n galw ar Baal drwy'r bore, nes oedd hi'n ganol dydd, “Baal, ateb ni!” Ond ddigwyddodd dim byd – dim siw na miw. Roedden nhw'n dawnsio'n wyllt o gwmpas yr allor roedden nhw wedi ei gwneud.

27 Yna tua canol dydd dyma Elias yn dechrau gwneud hwyl am eu pennau nhw. “Rhaid i chi weiddi'n uwch! Dewch, duw ydy e! Falle ei fod e'n myfyrio, neu wedi mynd i'r tŷ bach, neu wedi mynd ar daith i rywle. Neu falle ei fod e'n cysgu, a bod angen ei ddeffro!”

28 A dyma nhw'n gweiddi'n uwch, a dechrau torri eu hunain gyda chyllyll a gwaywffyn (dyna oedd y ddefod arferol). Roedd eu cyrff yn waed i gyd. 29 Buon nhw wrthi'n proffwydo'n wallgof drwy'r p'nawn nes ei bod yn amser offrymu aberth yr hwyr. Ond doedd dim byd yn digwydd, dim siw na miw – neb yn cymryd unrhyw sylw.

30 Yna dyma Elias yn galw'r bobl draw ato. Ar ôl iddyn nhw gasglu o'i gwmpas, dyma Elias yn trwsio allor yr  Arglwydd oedd wedi cael ei dryllio. 31 Cymerodd un deg dwy o gerrig – un ar gyfer pob un o lwythau Jacob (yr un roedd yr  Arglwydd wedi rhoi'r enw Israel iddo). 32 A dyma fe'n defnyddio'r cerrig i godi allor i'r  Arglwydd. Yna dyma fe'n cloddio ffos eithaf dwfn
18:32 eithaf dwfn Hebraeg, “digon dwfn i ddal dau fesur o had”
o gwmpas yr allor.
33 Wedyn gosododd y coed ar yr allor, torri'r tarw yn ddarnau a'i roi ar y coed. 34 Yna dyma fe'n dweud, “Ewch i lenwi pedwar jar mawr gyda dŵr, a'i dywallt ar yr offrwm ac ar y coed.”

Ar ôl iddyn nhw wneud hynny, dyma fe'n dweud, “Gwnewch yr un peth eto,” felly dyma nhw'n gwneud hynny.

“Ac eto,” meddai, a dyma nhw'n gwneud y drydedd waith. 35 Roedd yr allor yn socian, a'r dŵr wedi llenwi'r ffos o'i chwmpas.

36 Pan ddaeth hi'n amser i offrymu aberth yr hwyr, dyma Elias yn camu at yr allor, a dweud, “O  Arglwydd, Duw Abraham, Isaac ac Israel, gad i bawb wybod heddiw mai ti ydy Duw Israel, ac mai dy was di ydw i. Dangos fy mod i'n gwneud hyn am mai ti sydd wedi dweud wrtho i. 37 Ateb fi, O  Arglwydd, ateb fi, er mwyn i'r bobl yma wybod mai ti ydy'r Duw go iawn, a dy fod ti'n eu troi nhw'n ôl atat ti.”

38 Yn sydyn dyma dân yn disgyn oddi wrth yr  Arglwydd a llosgi'r offrwm, y coed, y cerrig a'r pridd, a hyd yn oed sychu'r dŵr oedd yn y ffos.

39 Pan welodd y bobl beth ddigwyddodd, dyma nhw'n syrthio ar eu gliniau a'u hwynebau ar lawr, a gweiddi, “Yr  Arglwydd ydy'r Duw go iawn! Yr  Arglwydd ydy'r Duw go iawn!”

40 Yna dyma Elias yn dweud, “Daliwch broffwydi Baal! Peidiwch gadael i'r un ohonyn nhw ddianc!” Ar ôl iddyn nhw gael eu dal, dyma Elias yn mynd â nhw i lawr at Afon Cison a'u lladd nhw i gyd yno.

Elias yn gweddïo am law

41 Yna dyma Elias yn dweud wrth Ahab, “Dos i fwyta ac yfed, achos mae yna sŵn glaw trwm yn dod.”

42 Felly dyma Ahab yn mynd i fwyta ac yfed, ond aeth Elias i fyny i gopa mynydd Carmel. Plygodd i lawr i weddïo, â'i wyneb ar lawr rhwng ei liniau. 43 A dyma fe'n dweud wrth ei was, “Dos i fyny i edrych allan dros y môr.” Dyma'r gwas yn mynd i edrych, a dweud “Does dim byd yna”. Saith gwaith roedd rhaid i Elias ddweud, “Dos eto”.

44 Yna'r seithfed tro dyma'r gwas yn dweud, “Mae yna gwmwl bach, dim mwy na dwrn dyn, yn codi o'r môr.”

A dyma Elias yn dweud, “Brysia i ddweud wrth Ahab, ‘Dringa i dy gerbyd a dos adre, rhag i ti gael dy ddal yn y storm.’”

45 Cyn pen dim roedd cymylau duon yn yr awyr, gwynt yn chwythu a glaw trwm. Roedd Ahab yn gyrru i fynd yn ôl i Jesreel. 46 A dyma'r  Arglwydd yn rhoi nerth goruwchnaturiol i Elias. Dyma fe'n rhwymo'i wisg am ei ganol a rhedeg o flaen cerbyd Ahab yr holl ffordd i Jesreel.

Copyright information for CYM