1 Samuel 19

Saul yn ceisio lladd Dafydd

Dyma Saul yn cyfadde i'w fab Jonathan, a'i swyddogion i gyd, ei fod eisiau lladd Dafydd. Ond roedd Jonathan yn hoff iawn iawn o Dafydd. Felly dyma Jonathan yn dweud wrth Dafydd, “Mae fy nhad Saul eisiau dy ladd di. Felly gwylia dy hun bore fory. Dos i guddio yn rhywle ac aros yno o'r golwg. Gwna i fynd allan a sefyll gyda dad yn agos i lle byddi di. Gwna i siarad gydag e ar dy ran di, a gweld beth fydd ei ymateb e. Gwna i adael i ti wybod.”

Felly dyma Jonathan yn siarad ar ran Dafydd gyda Saul, ei dad. Dwedodd wrtho, “Paid gwneud cam â dy was Dafydd, achos dydy e erioed wedi gwneud dim byd yn dy erbyn di. Mae popeth mae e wedi ei wneud wedi bod yn dda i ti. Mentrodd ei fywyd i ladd y Philistiad yna, a rhoddodd yr  Arglwydd fuddugoliaeth fawr i Israel. Roeddet ti'n hapus iawn pan welaist ti hynny. Pam mae'n rhaid i ti bechu drwy dywallt gwaed diniwed – lladd Dafydd am ddim rheswm?”

Dyma Saul yn gwrando ar gyngor Jonathan, ac addo ar lw, “Mor sicr â bod yr  Arglwydd yn fyw, wna i ddim ei ladd e!” Felly dyma Jonathan yn galw Dafydd a dweud wrtho beth ddigwyddodd. Aeth ag e at Saul, a cafodd Dafydd weithio iddo fel o'r blaen.

Roedd rhyfel unwaith eto, a dyma Dafydd yn mynd allan i ymladd y Philistiaid. Trechodd nhw'n llwyr nes iddyn nhw redeg i ffwrdd o'i flaen.

A dyma'r ysbryd drwg oddi wrth yr  Arglwydd yn dod ar Saul eto. Roedd yn eistedd yn ei dŷ a gwaywffon yn ei law, tra roedd Dafydd yn canu'r delyn. 10 A dyma Saul yn trïo trywanu Dafydd a'i hoelio i'r wal gyda'i waywffon. Ond dyma Dafydd yn llwyddo i'w hosgoi ac aeth y waywffon i'r wal, a rhedodd Dafydd i ffwrdd.

Michal yn achub bywyd Dafydd

Y noson honno
11 dyma Saul yn anfon dynion i wylio tŷ Dafydd er mwyn ei ladd yn y bore. Ond roedd Michal, gwraig Dafydd, wedi dweud wrtho, “Os gwnei di ddim dianc am dy fywyd heno, byddi wedi marw fory.” 12 A dyma Michal yn gollwng Dafydd allan drwy'r ffenest. A dyna sut wnaeth e ddianc. 13 Yna dyma Michal yn rhoi eilun-ddelw teuluol yn y gwely, rhoi carthen o flew geifr wrth ei ben, a rhoi dillad Dafydd drosto. 14 Pan ddaeth dynion Saul i arestio Dafydd, dyma hi'n dweud wrthyn nhw, “Mae e'n sâl.”

15 Ond dyma Saul yn anfon y dynion yn ôl i chwilio am Dafydd. “Dewch â fe yma ar ei wely os oes rhaid, i mi gael ei ladd e.” 16 Pan aethon nhw yn ôl, dyma nhw'n dod o hyd i'r eilun-ddelw yn y gwely a'r blew gafr lle byddai'r pen.

17 Dyma Saul yn rhoi pryd o dafod i Michal, “Pam wnest ti fy nhwyllo i fel yma? Ti wedi gadael i'm gelyn i ddianc!” A dyma hi'n ei ateb, “Dwedodd e wrtho i ‘Well i ti helpu fi i ddianc neu gwna i dy ladd di!’”

18 Roedd Dafydd wedi rhedeg i ffwrdd a dianc at Samuel i Rama. Dwedodd wrth Samuel beth oedd Saul wedi bod yn ei wneud iddo. Yna dyma fe a Samuel yn mynd i aros gyda'r gymuned o broffwydi. 19 Ond dwedodd rhywun wrth Saul fod Dafydd gyda'r gymuned yn Rama. 20 Felly dyma Saul yn anfon ei weision yno i arestio Dafydd. Ond pan gyrhaeddon nhw dyma nhw'n gweld grŵp o broffwydi yn proffwydo, a Samuel yn eu harwain nhw. A dyma Ysbryd Duw yn dod ar weision Saul, nes iddyn nhw hefyd ddechrau proffwydo.

21 Pan glywodd Saul beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n anfon gweision eraill. Ond dyma'r rheiny hefyd yn dechrau proffwydo. Dyma Saul yn anfon trydydd criw, a dyma'r un peth yn digwydd iddyn nhw hefyd.

22 Yna dyma Saul ei hun yn mynd i Rama. Pan ddaeth at y pydew mawr yn Sechw dyma fe'n holi ble roedd Samuel a Dafydd. “Yn aros gyda'r gymuned o broffwydi yn Rama,” meddai rhywun wrtho. 23 Pan oedd Saul ar ei ffordd yno daeth Ysbryd Duw arno – ie, arno fe hefyd! Aeth yn ei flaen yn proffwydo yr holl ffordd, nes iddo gyrraedd y gymuned yn Rama. 24 Yna dyma Saul hefyd yn tynnu ei ddillad i ffwrdd a proffwydo o flaen Samuel. Bu'n gorwedd yno'n noeth trwy'r dydd a'r nos. (Dyna o lle daeth y dywediad, “Ydy Saul hefyd yn un o'r proffwydi?” a )

Copyright information for CYM