1 Samuel 2

Gweddi Hanna

Dyma Hanna yn gweddïo fel hyn:

“Dw i mor falch o'r  Arglwydd.
Gallaf godi fy mhen
a chwerthin ar fy ngelynion,
am fy mod mor hapus dy fod wedi fy achub.
Does neb yn sanctaidd fel yr  Arglwydd.
Does neb tebyg i ti.
Does neb yn graig sy'n amddiffyn fel ein Duw ni.
Peidiwch brolio'ch hunain
a siarad mor snobyddlyd,
oherwydd mae'r  Arglwydd yn Dduw sy'n gwybod popeth,
ac mae'n barnu popeth sy'n cael ei wneud.
Bydd grym milwrol y rhai cryfion yn cael ei dorri,
ond bydd y rhai sy'n baglu yn cael nerth.
Bydd y rhai sydd ar ben eu digon yn gorfod gweithio i fwyta,
ond bydd y rhai sy'n llwgu yn cael eu llenwi.
Bydd y wraig sy'n methu cael plant yn cael saith,
ond yr un sydd â llawer yn llewygu.
Yr  Arglwydd sy'n lladd a rhoi bywyd. a 
Fe sy'n gyrru rhai i'r bedd ac yn achub eraill oddi yno.
Yr  Arglwydd sy'n gwneud rhai yn dlawd ac eraill yn gyfoethog;
fe sy'n tynnu rhai i lawr ac yn codi eraill i fyny.
Mae e'n codi pobl dlawd o'r baw,
a'r rhai sydd mewn angen o'r domen sbwriel
i eistedd gyda'r bobl fawr
ar y sedd anrhydedd.
Duw sy'n dal colofnau'r ddaear,
a fe roddodd y byd yn ei le arnyn nhw.
Mae e'n gofalu am y rhai sy'n ffyddlon iddo,
ond bydd y rhai drwg yn darfod yn y tywyllwch,
achos dydy pobl ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain.
10 Bydd gelynion yr  Arglwydd yn cael eu dryllio,
bydd e'n taranu o'r nefoedd yn eu herbyn.
Yr  Arglwydd sy'n barnu'r byd i gyd.
Mae'n rhoi grym i'w frenin,
a buddugoliaeth i'r un mae wedi ei ddewis.”

11 Yna aeth Elcana adre i Rama. Ond arhosodd y bachgen Samuel i wasanaethu'r  Arglwydd dan ofal Eli, yr offeiriad.

Meibion Eli

12 Roedd meibion Eli yn ddynion drwg. Doedden nhw ddim yn nabod yr  Arglwydd. 13 Beth oedd yr offeiriaid i fod i'w wneud pan oedd rhywun yn dod i offrymu aberth oedd hyn: Wrth iddyn nhw ferwi'r cig, byddai gwas yr offeiriaid yn dod hefo fforch â tair pig iddi yn ei law. 14 Byddai'n gwthio'r fforch i'r badell, y fasged neu'r crochan, a beth bynnag fyddai'r fforch yn ei godi, dyna oedd siâr yr offeiriad.

Ond beth oedd yn digwydd yn Seilo pan oedd pobl o bob rhan o Israel yn dod yno oedd hyn: 15 Roedd gwas yr offeiriad yn mynd atyn nhw cyn iddyn nhw hyd yn oed gael cyfle i losgi'r braster, a dweud wrth yr un oedd yn offrymu, “Rho beth o'r cig i'r offeiriad ei rostio. Does ganddo ddim eisiau cig wedi ei ferwi, dim ond cig ffres.” 16 Os oedd rhywun yn ateb, “Gad i'r braster gael ei losgi gynta, yna cei di gymryd beth bynnag wyt ti'n ei ffansïo,” byddai'r gwas yn dweud, “Na! rho fe i mi nawr. Os na wnei di, bydda i'n defnyddio grym.”

17 Roedd yr  Arglwydd yn ystyried hyn yn bechod difrifol. Doedd y dynion ifanc yma'n dangos dim parch at beth oedd i fod yn rhodd i'r  Arglwydd.

Samuel yn Seilo

18 Roedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu'r  Arglwydd, ac yn gwisgo effod o liain main. 19 Roedd ei fam yn arfer gwneud mantell fach iddo bob blwyddyn, ac yn dod â hi iddo pan fyddai hi a'i gŵr yn dod i fyny i gyflwyno eu haberth. 20 Byddai Eli yn bendithio Elcana a'i wraig, a dweud, “Boed i'r  Arglwydd roi plant i ti a Hanna yn lle yr un mae hi wedi ei fenthyg iddo.” Yna bydden nhw'n mynd yn ôl adre. 21 A dyma Duw yn gadael i Hanna gael mwy o blant. Cafodd dri o fechgyn a dwy ferch.

Yn y cyfamser roedd y bachgen Samuel yn tyfu o flaen yr  Arglwydd.

Eli yn ceryddu ei feibion

22 Roedd Eli wedi mynd yn hen iawn. Byddai'n clywed o hyd am bopeth roedd ei feibion yn ei wneud i bobl Israel (ac roedd e'n gwybod hefyd eu bod nhw'n cael rhyw gyda'r merched oedd yn gweini wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.) b  23 Byddai'n dweud wrthyn nhw, “Pam dych chi'n bihafio fel yma? Dw i'n clywed gan bawb am y pethau drwg dych chi'n eu gwneud. 24 Rhaid i chi stopio, fechgyn. Dydy'r straeon sy'n mynd o gwmpas amdanoch chi ddim yn dda. 25 Os ydy rhywun yn pechu yn erbyn person arall, gall droi at Dduw am help. Ond os ydy rhywun yn pechu yn erbyn yr  Arglwydd, pwy sy'n mynd i'w helpu?” Ond roedd meibion Eli yn gwrthod gwrando ar eu tad, achos roedd yr  Arglwydd wedi penderfynu eu lladd nhw.

26 Roedd y bachgen ifanc Samuel yn tyfu ac yn plesio'r  Arglwydd a phobl.

Rhybudd i deulu Eli

27 Daeth dyn oedd yn proffwydo
2:27 dyn oedd yn proffwydo Hebraeg, “dyn Duw”
at Eli a dweud wrtho, “Dyma mae'r  Arglwydd yn ei ddweud: ‘Gwnes i ddangos fy hun yn glir i dy hynafiaid di yn yr Aifft pan oedden nhw'n gaethweision i'r Pharo.
28 Gwnes i eich dewis chi, allan o holl lwythau Israel, i fod yn offeiriaid; i offrymu ar fy allor i, i losgi arogldarth ac i gario'r effod o'm blaen i. Chi gafodd y cyfrifoldeb o drin yr offrymau mae pobl Israel yn eu cyflwyno i'w llosgi i mi. 29 Felly, pam dych chi'n difrïo'r aberthau a'r offrymau dw i wedi rhoi gorchymyn amdanyn nhw. Pam wyt ti'n dangos mwy o barch at dy feibion nag ata i? Dych chi'n stwffio'ch hunain gyda'r darnau gorau o offrymau fy mhobl Israel!’

30 “Felly, dyma neges yr  Arglwydd, Duw Israel: ‘Do, gwnes i ddweud yn glir y byddai dy deulu di yn cael fy ngwasanaethu i am byth. Ond bellach fydd ddim o'r fath beth!’ Dyma neges yr  Arglwydd: ‘Dw i'n rhoi parch i'r rhai sy'n fy mharchu i, ac yn ddibris o'r rhai sy'n fy nghymryd i yn ysgafn. 31 Gwylia di, mae'r amser yn dod pan fydda i'n dy ddifa di a dy deulu. Fydd yna neb yn dy deulu di yn byw i fod yn hen! 32 Byddi'n gweld helynt yn fy nghysegr i. Bydd pethau da yn digwydd i Israel, ond fydd neb yn byw i fod yn hen yn dy deulu di. 33 Bydda i'n gadael un o dy deulu ar ôl i wasanaethu wrth fy allor, ond bydd hwnnw'n colli ei olwg ac yn torri ei galon. Bydd gweddill dy ddisgynyddion yn marw yn ddynion ifainc.

34 “‘A dyma'r arwydd i brofi i ti fod hyn yn wir: bydd dy ddau fab, Hoffni a Phineas, yn marw ar yr un diwrnod! 35 Wedyn bydda i'n dewis offeiriad sy'n ffyddlon i mi. Bydd e'n fy mhlesio i ac yn gwneud beth dw i eisiau. Bydda i'n rhoi llinach sefydlog iddo, a bydd e'n gwasanaethu'r un fydda i'n ei eneinio'n frenin am byth. 36 Bydd pwy bynnag fydd ar ôl o dy deulu di yn dod a plygu o'i flaen i ofyn am arian neu damaid i'w fwyta. Byddan nhw'n crefu am unrhyw fath o waith fel offeiriad, er mwyn cael rhywbeth i'w fwyta.’”

Copyright information for CYM