2 Chronicles 29
Heseceia yn frenin Jwda
(2 Brenhinoedd 18:1-3)
1 Daeth Heseceia yn frenin pan oedd yn ddau ddeg pum mlwydd oed, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Abeia
▼
▼
29:1 Hebraeg,
Abi, cf. 2 Cronicl 29:1
, merch Sechareia. 2 Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r Arglwydd. Heseceia yn ailagor y Deml
3 Yn syth ar ôl iddo ddod yn frenin, dyma Heseceia'n agor drysau teml yr Arglwydd a'u trwsio. 4 Dyma fe'n casglu'r offeiriad a'r Lefiaid at ei gilydd yn y sgwâr ar ochr ddwyreiniol y deml, 5 a'u hannerch, “Chi Lefiaid, gwrandwch arna i. Ewch trwy'r ddefod o buro eich hunan cyn mynd ati i gysegru teml yr Arglwydd, Duw eich hynafiaid. Taflwch bopeth sy'n aflan allan o'r Lle Sanctaidd. 6 Mae'n hynafiaid wedi bod yn anffyddlon a gwneud pethau oedd ddim yn plesio'r Arglwydd. Roedden nhw wedi troi cefn arno fe a'i deml. 7 Dyma nhw'n cau drysau'r cyntedd a diffodd y lampau. Doedden nhw ddim yn llosgi arogldarth na chyflwyno aberthau yn y lle yma gafodd ei gysegru i Dduw Israel. 8 Dyna pam roedd yr Arglwydd wedi digio gyda Jwda a Jerwsalem. Mae'n gwbl amlwg fod beth sydd wedi digwydd yn ofnadwy; mae'n achos dychryn a rhyfeddod i bobl. 9 Dyna pam cafodd dynion eu lladd yn y rhyfel, ac wedyn eu gwragedd a'u plant yn cael eu cymryd yn gaethion. 10 “Nawr, dw i eisiau gwneud ymrwymiad i'r Arglwydd, Duw Israel. Falle wedyn y bydd e'n stopio bod mor ddig gyda ni. 11 Felly, ffrindiau, peidiwch bod yn esgeulus. Mae'r Arglwydd wedi eich dewis chi i'w wasanaethu ac i losgi arogldarth iddo.” 12 A dyma'r Lefiaid yma yn codi i wneud beth roedd y brenin yn ei orchymyn: Disgynyddion Cohath: Machat fab Amasai a Joel fab Asareia
Disgynyddion Merari: Cish fab Afdi ac Asareia fab Jehalel-el
Disgynyddion Gershon: Ioach fab Simma ac Eden fab Ioach
13 Disgynyddion Elitsaffan: Shimri a Jeiel
Disgynyddion Asaff: Sechareia a Mataneia
14 Disgynyddion Heman: Iechiel a Shimei
Disgynyddion Iedwthwn: Shemaia ac Wssiel.
15 Yna dyma nhw'n casglu gweddill y Lefiaid at ei gilydd a mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain. A wedyn mynd ati i gysegru teml yr Arglwydd, fel roedd y brenin wedi dweud. Roedden nhw'n gwneud popeth yn union fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn. 16 Aeth yr offeiriaid i mewn i'r deml i'w phuro. A dyma nhw'n dod â phopeth oedd yn aflan allan i'r iard, cyn i'r Lefiaid fynd a'r cwbl allan i ddyffryn Cidron. 17 Roedd y gwaith glanhau wedi dechrau ar ddiwrnod cynta'r mis cyntaf. Mewn wythnos roedden nhw wedi cyrraedd cyntedd teml yr Arglwydd. Wedyn am wythnos arall buon nhw'n cysegru'r deml, a cafodd y gwaith ei orffen ar ddiwrnod un deg chwech o'r mis. Ailgysegru'r Deml
18 Yna dyma nhw'n mynd at y Brenin Heseceia a dweud, “Dŷn ni wedi cysegru teml yr Arglwydd i gyd, yr allor i losgi aberthau a'i hoffer i gyd, a'r bwrdd mae'r bara i'w osod yn bentwr arno gyda'i holl lestri. 19 Dŷn ni hefyd wedi cysegru'r holl lestri wnaeth y Brenin Ahas eu taflu allan pan oedd yn anffyddlon i Dduw. Maen nhw yn ôl o flaen yr allor.” 20 Yna'n gynnar y bore wedyn dyma Heseceia'n galw arweinwyr y ddinas at ei gilydd a mynd i deml yr Arglwydd. 21 Aethon nhw â saith tarw ifanc, saith hwrdd, saith oen a saith bwch gafr yn aberth dros bechod y deyrnas, y deml a gwlad Jwda. A dyma'r brenin yn gofyn i'r offeiriaid (disgynyddion Aaron) eu llosgi'n offrymau ar allor yr Arglwydd. 22 Felly dyma'r offeiriaid yn lladd y teirw a sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. Yna gwneud yr un peth gyda'r hyrddod a'r ŵyn. 23 Yna'n olaf dyma nhw'n dod â'r bwch geifr (oedd i fod yn offrwm i lanhau o bechod) at y brenin a'r bobl eraill oedd yno iddyn nhw osod eu dwylo ar ben y geifr. 24 Wedyn dyma'r offeiriaid yn eu lladd a rhoi'r gwaed ar yr allor yn offrwm dros bechodau Israel gyfan. Roedd y brenin wedi dweud fod yr offrymau i'w llosgi a'r aberthau dros bechodau Israel gyfan. 25 Yna dyma'r Brenin Heseceia yn gosod y Lefiaid yn eu lle yn nheml yr Arglwydd gyda symbalau, nablau a thelynau, fel roedd y brenin Dafydd wedi dweud. (Yr Arglwydd oedd wedi rhoi'r cyfarwyddiadau yma drwy Gad, proffwyd y brenin a'r proffwyd Nathan). 26 Felly roedd y Lefiaid yn sefyll gydag offerynnau'r Brenin Dafydd, a'r offeiriaid gydag utgyrn. 27 A dyma Heseceia'n rhoi'r gair iddyn nhw losgi'r offrymau ar yr allor. Wrth iddyn nhw ddechrau gwneud hynny dyma ddechrau canu mawl i'r Arglwydd i gyfeiliant yr utgyrn ac offerynnau Dafydd, brenin Israel. 28 Roedd y gynulleidfa gyfan yn plygu i lawr i addoli, y cantorion yn canu a'r utgyrn yn seinio nes i'r offrwm orffen llosgi. 29 Ar ôl llosgi'r offrwm dyma'r brenin a phawb oedd gydag e yn plygu i lawr ac addoli. 30 Yna dyma'r Brenin Heseceia yn dweud wrth y Lefiaid am foli'r Arglwydd drwy ganu'r caneuon ysgrifennodd y brenin Dafydd a'r proffwyd Asaff. Felly buon nhw wrthi'n canu'n llawen ac yn plygu i lawr ac yn addoli. 31 Yna dyma Heseceia'n dweud, “Nawr dych chi wedi rhoi eich hunain yn llwyr i'r Arglwydd. Dewch i aberthu ac i gyflwyno offrymau diolch iddo.” Felly dyma'r bobl yn dod ag aberthau ac offrymau diolch, ac roedd rhai yn awyddus i ddod ag anifeiliaid yn offrymau i'w llosgi hefyd. 32 Dyma faint o anifeiliaid gafodd eu rhoi gan y gynulleidfa: 70 tarw, 100 o hyrddod a 200 o ddefaid yn offrymau i'w llosgi. 33 Roedd 600 o deirw a 3,000 o ddefaid eraill wedi cael eu rhoi, 34 ond doedd dim digon o offeiriaid i'w blingo nhw i gyd. Felly roedd rhaid i'r Lefiaid eu helpu nhw i orffen y gwaith nes bod digon o offeiriaid wedi mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain. (Roedd y Lefiaid wedi bod yn fwy gofalus i fynd trwy'r defodau na'r offeiriaid.) 35 Yn ogystal â'r anifeiliaid i'w llosgi, roedd yna lawer iawn o fraster o'r offrymau diolch, a hefyd yr offrymau o ddiod oedd i fynd gyda pob offrwm i'w losgi. Felly dyma nhw'n ailddechrau addoli'r Arglwydd yn y deml. 36 Ac roedd Heseceia a'r bobl i gyd yn dathlu fod Duw wedi galluogi'r cwbl i ddigwydd mor gyflym.
Copyright information for
CYM