2 Chronicles 6

Solomon yn canmol yr  Arglwydd

(1 Brenhinoedd 8:12-21)

Yna dyma Solomon yn dweud:

“Mae'r  Arglwydd yn dweud
ei fod yn byw mewn cwmwl tywyll.
 Arglwydd, dyma fi wedi adeiladu teml wych i ti,
lle i ti fyw ynddo am byth.’”

Yna dyma'r brenin yn troi i wynebu'r gynulleidfa a bendithio holl bobl Israel oedd yn sefyll yno: “Bendith ar yr  Arglwydd, Duw Israel! Mae wedi gwneud y cwbl roedd wedi ei addo i Dafydd fy nhad. Roedd wedi dweud: ‘Ers i mi ddod â'm pobl allan o wlad yr Aifft, wnes i ddim dewis un ddinas arbennig o blith llwythau Israel i adeiladu teml i fyw ynddi. A wnes i ddim dewis dyn i arwain fy mhobl Israel chwaith. Ond nawr dw i wedi dewis Jerwsalem i aros yno, a Dafydd i arwain fy mhobl Israel.’ Roedd fy nhad, Dafydd, wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu'r  Arglwydd, Duw Israel. Ond dwedodd yr  Arglwydd wrtho, ‘Ti eisiau adeiladu teml i mi, ac mae'r bwriad yn un da. Ond nid ti fydd yn ei hadeiladu. Mab wedi ei eni i ti fydd yn adeiladu teml i mi.’ 10 A bellach mae'r  Arglwydd wedi gwneud beth roedd wedi ei addo. Dw i wedi dod yn frenin ar Israel yn lle fy nhad Dafydd, a dw i wedi adeiladu'r deml yma i anrhydeddu'r  Arglwydd, Duw Israel. 11 Dw i wedi gosod yno yr Arch sy'n dal yr ymrwymiad wnaeth yr  Arglwydd gyda phobl Israel.”

Gweddi Solomon yn y Gwasanaeth Cysegru

(1 Brenhinoedd 8:22-53)

12 Yna o flaen pawb, dyma fe'n mynd i sefyll o flaen yr Allor. Cododd ei ddwylo i'r awyr. 13 (Roedd Solomon wedi gwneud llwyfan o bres a'i osod yng nghanol yr iard. Roedd y llwyfan tua dwy fedr sgwâr, a dros fedr o uchder.) Safodd ar y llwyfan, yna mynd ar ei liniau o flaen pobl Israel i gyd a codi ei ddwylo i'r awyr, 14 a gweddïo,

“O  Arglwydd, Duw Israel, does dim Duw tebyg i ti yn y nefoedd na'r ddaear! Ti mor ffyddlon, yn cadw dy ymrwymiad i dy weision, y rhai sydd wir eisiau bod yn ufudd i ti.
15 Ti wedi cadw dy addewid i Dafydd fy nhad. Heddiw, yma, ti wedi gwneud beth wnest ti ei addo. 16 Nawr,  Arglwydd, Duw Israel, cadw'r addewid arall wnest ti i Dafydd, fy nhad. Dyma wnest ti ddweud: ‘Bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth, dim ond i dy ddisgynyddion di fod yn ofalus eu bod yn byw yn ffyddlon i'm cyfraith fel rwyt ti wedi gwneud.’ 17 Felly nawr, O  Arglwydd, Duw Israel, gad i'r hyn wnest ti ei ddweud wrth fy nhad, dy was Dafydd, ddod yn wir.
18 Wrth gwrs, dydy Duw ddim wir yn gallu byw gyda'r ddynoliaeth ar y ddaear! Dydy'r awyr i gyd a'r nefoedd uchod ddim digon mawr i dy ddal di! Felly pa obaith sydd i'r deml yma dw i wedi ei hadeiladu? 19 Ond plîs gwrando fy ngweddi yn gofyn am dy help di, O  Arglwydd fy Nuw. Ateb fi, wrth i mi weddïo'n daer arnat ti. 20 Cadw dy lygaid ar y deml yma nos a dydd. Gwnest ti ddweud y byddi di'n byw yma. Felly ateb weddi dy was dros y lle hwn.
21 Gwranda ar beth mae dy was a dy bobl Israel yn ei weddïo'n daer am y lle yma. Gwranda yn y nefoedd, lle rwyt ti'n byw. Clyw ni a maddau i ni.
22 Os ydy rhywun wedi cael ei gyhuddo o wneud drwg i'w gymydog ac yn mynnu ei fod yn ddieuog o flaen yr allor yn y deml yma, 23 yna gwrando di o'r nefoedd a gweithredu. Barna di rhyngon nhw. Cosba'r un sy'n euog, a gadael i'r dieuog fynd yn rhydd. Rho i'r ddau beth maen nhw'n ei haeddu.
24 Pan fydd dy bobl Israel yn cael eu concro gan y gelyn am bechu yn dy erbyn di. Os byddan nhw'n troi yn ôl atat ti, yn cydnabod pwy wyt ti ac yn gweddïo am dy help di yn y deml yma 25 yna gwrando di o'r nefoedd. Maddau bechod dy bobl Israel, a tyrd â nhw'n ôl i'r wlad wnest ti ei rhoi iddyn nhw a'u hynafiaid.
26 Pan fydd dim glaw yn disgyn, am fod y bobl wedi pechu yn dy erbyn di. Os byddan nhw'n troi at y lle yma i weddïo arnat ti, yn cydnabod pwy wyt ti, ac yn stopio pechu am dy fod yn eu cosbi nhw 27 yna gwrando di o'r nefoedd. Maddau i dy bob Israel. Dysga nhw beth ydy'r ffordd iawn i fyw, ac anfon law eto ar y wlad yma rwyt ti wedi ei rhoi i dy bobl ei chadw.
28 Pan fydd y wlad yn cael ei tharo gan newyn neu bla – am fod y cnydau wedi eu difetha gan ormod o wres neu ormod o law, neu am eu bod wedi cael eu difa gan locustiaid, neu am fod gelynion wedi ymosod ar y wlad ac yn gwarchae ar ei dinasoedd. Beth bynnag fydd yr helynt neu'r broblem, 29 gwrando di ar bob gweddi. Gwranda pan fydd unrhyw un o dy bobl Israel yn troi at y deml yma ac yn tywallt ei ofid o dy flaen di. 30 Gwranda yn y nefoedd lle rwyt ti'n byw, a maddau. Rho i bob un beth mae'n ei haeddu. (Ti ydy'r unig un sy'n gwybod yn iawn beth sydd ar galon pob person byw.) 31 Fel yna byddan nhw'n dy barchu di ac yn byw fel rwyt ti eisiau tra byddan nhw'n byw yn y wlad rwyt ti wedi ei roi i'w hynafiaid.
32 A bydd pobl o wledydd eraill yn dod yma i addoli ar ôl clywed amdanat ti – am dy enw da di, a'r ffaith dy fod ti'n gallu gwneud pethau mor anhygoel. Pan ddaw pobl felly i'r deml hon i weddïo, 33 gwrando yn y nefoedd lle rwyt ti'n byw. Gwna beth mae'r bobl hynny'n ei ofyn gen ti. Wedyn bydd pobl drwy'r byd i gyd yn dod i dy nabod di ac yn dy barchu di, yr un fath â phobl Israel. Byddan nhw'n gwybod fod y deml yma wedi ei hadeiladu i dy anrhydeddu di.
34 Hefyd pan fydd dy bobl yn mynd i ryfel yn erbyn eu gelynion, ble bynnag fyddi di'n eu hanfon nhw. Os byddan nhw'n troi tuag at y ddinas yma rwyt ti wedi ei dewis a'r deml dw i wedi ei hadeiladu i ti, ac yn gweddïo arnat ti, 35 yna gwrando o'r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a gweithredu ar eu rhan nhw.
36 Ond pan fydd dy bobl wedi pechu yn dy erbyn di (achos does neb sydd byth yn pechu!) a tithau'n wyllt gyda nhw, byddi'n gadael i'r gelyn eu dal nhw a'u cymryd yn gaeth i'w gwlad eu hunain, ble bynnag mae honno. 37 Yna, yn y wlad ble maen nhw'n gaeth, byddan nhw'n callio ac yn newid eu ffyrdd. Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti ac yn pledio'n daer gan ddweud, ‘Dŷn ni wedi pechu a bod yn anffyddlon a gwneud drwg.’ 38 Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti o ddifrif yn y wlad lle cawson nhw eu cymryd. Byddan nhw'n troi i weddïo tuag at eu gwlad a'r ddinas rwyt ti wedi ei dewis, a'r deml dw i wedi ei hadeiladu i ti. 39 Gwranda o'r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a'u cefnogi nhw. Maddau i dy bobl yr holl bechodau a'r pethau drwg maen nhw wedi eu gwneud yn dy erbyn di.
40 Felly, o Dduw, edrych a gwrando ar y gweddïau sy'n cael eu hoffrymu yn y lle yma. 41 A nawr, o  Arglwydd Dduw, dos i fyny i dy gartref – ti a dy Arch bwerus! Ac  Arglwydd Dduw, boed i dy offeiriaid brofi dy achubiaeth. A boed i'r rhai sy'n ffyddlon i ti lawenhau yn dy ddaioni. 42 O  Arglwydd Dduw, paid troi cefn ar yr un wyt wedi ei eneinio. Cofia'r bendithion gafodd eu haddo i dy was Dafydd.”
Copyright information for CYM