agw. 1 Corinthiaid 15:32
bgw. Actau 19:21
dgw. Actau 18:5

2 Corinthians 1

1Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw i fod yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. A gan y brawd Timotheus hefyd.

At eglwys Dduw yn Corinth, a'r holl Gristnogion sydd yn nhalaith Achaia:

2Dŷn ni'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.

Y Duw sy'n cysuro

3Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Fe ydy'r Tad sy'n tosturio a'r Duw sy'n cysuro. 4Mae'n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion, felly dŷn ni yn ein tro yn gallu cysuro pobl eraill. Dŷn ni'n eu cysuro nhw trwy rannu am y ffordd mae Duw'n ein cysuro ni. 5Po fwya dŷn ni'n rhannu profiad y Meseia, mwya dŷn ni'n cael ein cysuro ganddo. 6Dŷn ni'n gorfod wynebu trafferthion er mwyn i chi gael eich cysuro a'ch cadw'n saff. Pan dŷn ni'n cael ein cysuro, dylai hynny hefyd fod yn gysur i chi, a'ch helpu chi i ddal ati pan fyddwch chi'n dioddef yr un fath â ni. 7A dŷn ni'n sicr y byddwch chi, wrth ddioddef yr un fath â ni, yn cael eich cysuro gan Dduw yr un fath â ni hefyd.

8Dŷn ni eisiau i chi ddeall ffrindiau annwyl, mor galed mae pethau wedi bod arnon ni yn nhalaith Asia. Roedd y pwysau yn ormod o lawer i ni ei ddal yn ein nerth ein hunain. Roedd yn ein llethu ni! Roedden ni'n meddwl ei bod hi ar ben arnon ni, 9a'n bod ni wir yn mynd i farw. a  Ond pwrpas y cwbl oedd i ni ddysgu trystio Duw yn lle trystio ni'n hunain. Fe ydy'r Duw sy'n dod â'r meirw yn ôl yn fyw! 10Mae wedi'n hachub ni y tro yma, a bydd yn ein hachub ni eto. A dŷn ni'n gwbl hyderus y bydd yn dal ati i wneud hynny 11tra byddwch chi'n ein helpu ni drwy weddïo droson ni. Wedyn bydd lot fawr o bobl yn diolch i Dduw am fod mor garedig tuag aton ni, yn ateb gweddïau cymaint o'i bobl.

Paul yn newid ei gynlluniau

12Dŷn ni'n gallu dweud gyda chydwybod glir ein bod ni wedi bod yn gwbl agored ac yn ddidwyll bob amser. Mae'n arbennig o wir am y ffordd dŷn ni wedi delio gyda chi. Haelioni Duw sydd wrth wraidd y peth, nid doethineb bydol. 13Dw i wedi siarad yn blaen yn fy llythyrau atoch chi – does dim i'w ddarllen rhwng y llinellau. Dych chi'n gwybod ei fod yn wir. 14Dych chi wedi dechrau cydnabod hynny, a dw i'n gobeithio y byddwch yn dod i gydnabod y peth yn llawn. Wedyn pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl byddwch chi'n gallu bod yn falch ohonon ni a byddwn ni'n gallu bod yn falch ohonoch chi.

15Gan fy mod i mor siŵr eich bod chi wedi deall hyn, roeddwn i wedi bwriadu eich bendithio chi ddwy waith. 16Roeddwn i'n mynd i ymweld â chi ar fy ffordd i dalaith Macedonia a galw heibio eto ar y daith yn ôl. Wedyn byddech chi'n gallu fy helpu i fynd ymlaen i Jwdea. b 

17Ond wnes i ddim hynny, felly ydych chi'n dweud mod i'n chwit-chwat? Ydw i yr un fath ag mae pobl y byd mor aml, yn dweud ‛ie‛ un funud a ‛nage‛ y funud nesa? 18Nac ydw – mae Duw'n gwybod nad person felly ydw i. Dw i ddim yn dweud un peth ac wedyn yn gwneud rhywbeth arall. 19A doedd dim byd ansicr am y neges roeddwn i a Silas
1:19 Silas: Groeg, “Silfanws”, sef ffurf arall i'r un enw.
a Timotheus yn ei chyhoeddi yn eich plith chi chwaith – sef y neges am Iesu y Meseia, mab Duw. d  Fe ydy ‛ie‛ Duw i ni bob amser!
20Fe ydy'r un sy'n dod â'r cwbl mae Duw wedi ei addo yn wir! Dyna pam dŷn ni'n dweud “Amen” (sef “ie wir!”) wrth addoli Duw – o achos y cwbl wnaeth e! 21A Duw ydy'r un sy'n ein galluogi ni (a chithau hefyd!) i sefyll yn gadarn dros y Meseia. Dewisodd ni i weithio drosto, 22ac mae wedi'n marcio ni'n bobl iddo'i hun. Mae wedi rhoi ei Ysbryd y tu mewn i ni, yn flaendal o'r cwbl sydd i ddod.

23Dw i'n galw ar Dduw i dystio fy mod i'n dweud y gwir. Y rheswm pam wnes i ddim dod yn ôl i Corinth i'ch gweld chi wedi'r cwbl oedd fy mod i eisiau'ch arbed chi. 24Dŷn ni ddim eisiau'ch fforsio chi i gredu fel dŷn ni'n dweud. Dŷn ni eisiau gweithio gyda chi, i chi gael profi llawenydd go iawn, a sefyll yn gadarn am eich bod wedi credu drosoch eich hunain.

Copyright information for CYM