2 Kings 17

Hoshea, brenin Israel

Pan oedd Ahas wedi bod yn frenin ar Jwda am un deg dwy o flynyddoedd daeth Hoshea fab Ela yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am naw mlynedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr  Arglwydd, ond doedd e ddim mor ddrwg â'r brenhinoedd oedd wedi bod o'i flaen. Dyma Shalmaneser,
17:3 Shalmaneser, brenin Asyria Shalmaneser V oedd hwn, Mab Tiglath-Pileser III. Roedd yn frenin Asyria o 727 i 722 CC
brenin Asyria, yn ymosod arno. Felly dyma Hoshea yn dod yn was i frenin Assyria a dechrau talu trethi iddo.
Ond wedyn dyma frenin Asyria yn darganfod fod Hoshea yn cynllwynio yn ei erbyn. Roedd wedi anfon negeswyr at So
17:4 Osorcon IV (730–715 CC) o bosib.
, brenin yr Aifft, ac wedi gwrthod talu'r trethi blynyddol i Asyria. Y canlyniad oedd i frenin Asyria ei arestio a'i roi yn y carchar.

Diwedd Teyrnas Israel

Wedyn dyma frenin Asyria'n ymosod ar wlad Israel. Aeth i Samaria a bu'n gwarchae arni am bron ddwy flynedd
17:5 bron ddwy flynedd Hebraeg, “tair blynedd”, sy'n cyfrif yn y ffordd Hebreig. Gall olygu dim ond rhan fach o'r flwyddyn gyntaf a rhan fach o'r drydedd flwyddyn.
.
Roedd Hoshea wedi bod yn frenin am naw mlynedd pan gafodd Samaria ei choncro. Aeth brenin Asyria
17:6 brenin Asyria Sargon II, olynydd Shalmaneser, oedd brenin Asyria erbyn hyn. Buodd Shalmaneser farw ar ôl concro Samaria (722 CC) ond cyn i'r bobl gael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion (720 CC). Roedd Sargon II yn teyrnasu ar Asyria o 721 i 705 CC, ac mae llawysgrifau hynafol o Asyria yn dweud ei fod wedi caethgludo 27,290 o bobl.
â'r bobl yn gaethion i'w wlad ei hun. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan Afon Chabor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media.

Roedd hyn wedi digwydd am fod pobl Israel wedi bod yn anufudd i'r  Arglwydd eu Duw – y Duw oedd wedi eu rhyddhau nhw o afael y Pharo a dod â nhw allan o'r Aifft. Roedden nhw wedi troi i addoli duwiau eraill a dilyn arferion y bobloedd roedd yr  Arglwydd wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel. Roedden nhw wedi dilyn esiampl brenhinoedd Israel. Roedden nhw'n gwneud pethau o'r golwg oedd yn gwbl groes i ffordd yr  Arglwydd. Roedden nhw wedi adeiladu allorau lleol ym mhobman – yn y pentrefi bychain a'r trefi caerog mawr. 10 Roedden nhw hefyd yn codi colofnau cysegredig i Baal a pholion y dduwies Ashera wrth yr allorau lleol oedd ar y bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog. 11 Roedden nhw'n llosgi arogldarth ar yr allorau lleol, yn union fel y bobloedd roedd yr  Arglwydd wedi eu gyrru allan o'u blaenau nhw. Roedd y pethau drwg yma yn gwneud i'r  Arglwydd ddigio. 12 Roedden nhw'n addoli eilunod ffiaidd er bod yr  Arglwydd wedi dweud wrthyn nhw am beidio.

13 Roedd yr  Arglwydd wedi anfon proffwydi a'r rhai oedd yn cael gweledigaethau i rybuddio Israel a Jwda. Roedd wedi dweud, trwyddyn nhw, “Rhaid i chi droi cefn ar y drwg a chadw fy ngorchmynion i a'r rheolau sy'n y Gyfraith rois i i'ch hynafiaid chi. Dw i wedi anfon y proffwydi i'ch atgoffa chi ohonyn nhw.” 14 Ond doedden nhw ddim am wrando. Roedden nhw'n hollol benstiff, fel eu hynafiaid oedd yn gwrthod trystio'r  Arglwydd eu Duw. 15 Roedden nhw wedi gwrthod ei reolau a'r ymrwymiad roedd wedi ei wneud gyda'u hynafiaid. Wnaethon nhw ddim gwrando ar ei rybuddion, ond mynd ar ôl eilunod diwerth. Roedden nhw'n gwneud eu hunain yn ddiwerth, ac yn dynwared y gwledydd o'u cwmpas, er fod yr  Arglwydd wedi dweud wrthyn nhw am beidio gwneud hynny.

16 Roedden nhw wedi anwybyddu gorchmynion yr  Arglwydd eu Duw. Roedden nhw wedi gwneud delwau metel o ddau darw ifanc, a codi polyn i'r dduwies Ashera. Roedden nhw'n plygu i'r haul a'r lleuad a'r sêr, ac yn addoli Baal. 17 Roedden nhw hyd yn oed yn llosgi eu plant yn aberth, yn dewino ac yn darogan. Roedden nhw'n benderfynol o wneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr  Arglwydd, a'i bryfocio.

18 Roedd yr  Arglwydd yn wirioneddol flin gyda phobl Israel, a dyma fe'n eu gyrru nhw o'i olwg. Dim ond llwyth Jwda oedd ar ôl. 19 Ond doedd Jwda chwaith ddim yn cadw gorchmynion yr  Arglwydd eu Duw. Roedden nhw'n dilyn arferion Israel. 20 Roedd yr  Arglwydd wedi gwrthod pobl Israel i gyd, a'u cosbi nhw drwy adael i bobl eraill eu rheibio a'u dinistrio nhw. Gyrrodd nhw o'i olwg yn llwyr.

21 Pan wnaeth Duw rwygo Israel oddi wrth linach Dafydd dyma nhw'n gwneud Jeroboam fab Nebat yn frenin. A dyma fe'n arwain pobl Israel i ffwrdd oddi wrth yr  Arglwydd a gwneud iddyn nhw bechu'n ofnadwy. 22 Dyma'r bobl yn addoli eilunod Jeroboam, a wnaethon nhw ddim troi cefn arnyn nhw o gwbl. 23 Felly dyma'r  Arglwydd yn gyrru Israel allan o'i olwg fel roedd wedi rhybuddio y byddai'n gwneud trwy ei weision y proffwydi. Cafodd pobl Israel eu symud o'u gwlad eu hunain i Asyria. Maen nhw dal yno heddiw.

Brenin Asyria yn symud pobl o wledydd eraill i Israel

24 Dyma frenin Asyria yn cymryd pobl oedd yn byw yn Babilon, Cwtha, Afa, Chamath a Seffarfaîm, a'u symud nhw i fyw i drefi Samaria yn lle pobl Israel. Felly dyma nhw'n cymryd Samaria drosodd, a byw yn ei threfi.

25 Pan ddaethon nhw yno i ddechrau doedden nhw ddim yn addoli'r  Arglwydd. Felly dyma'r  Arglwydd yn anfon llewod atyn nhw, a dyma'r llewod yn lladd rhai pobl. 26 Dwedwyd wrth frenin Asyria, “Dydy'r bobloedd rwyt ti wedi eu symud i drefi Samaria ddim yn gwybod defodau duw'r wlad. Felly mae e wedi anfon llewod atyn nhw, ac mae'r rheiny yn eu lladd nhw.”

27 A dyma frenin Asyria yn gorchymyn: “Anfonwch un o'r offeiriaid gafodd eu cymryd oddi yno yn ôl. Bydd e'n gallu byw gyda nhw a'u dysgu nhw beth mae duw'r wlad yn ei ddisgwyl.” 28 Felly dyma un o'r offeiriaid oedd wedi cael ei gymryd o Samaria yn mynd yn ôl yno. Roedd yn byw yn Bethel ac yn dysgu'r bobl sut i barchu'r  Arglwydd.

29 Ac eto roedd y gwahanol bobloedd yno yn gwneud delwau o'u duwiau eu hunain hefyd, ac yn eu gosod nhw yn yr temlau lle roedd pobl Samaria wedi codi allorau lleol. Roedd pob un o'r gwahanol grwpiau o bobl yn gwneud hyn yn y trefi lle roedden nhw'n byw. 30 Dyma'r bobl o Babilon yn gwneud eilun o Swccoth-benoth, pobl Cwth yn gwneud Nergal, pobl Chamath yn gwneud Ashima 31 a'r Afiaid yn gwneud Nibchas a Tartac. Roedd pobl Seffarfaîm yn llosgi eu plant yn aberth i'w duwiau, Adram-melech ac Anam-melech. 32 Ond roedden nhw'n addoli'r  Arglwydd ar yr un pryd! Ac roedden nhw'n dewis pob math o bobl i fod yn offeiriad ac i arwain y defodau wrth yr allorau lleol yn y canolfannau hynny. 33 Felly roedden nhw'n addoli'r  Arglwydd ac yn gwasanaethu eu duwiau eu hunain ar yr un pryd – ac yn cadw defodau'r gwledydd o lle roedden nhw'n dod. 34 Maen nhw'n dal i ddilyn yr un hen arferion hyd heddiw. Dŷn nhw ddim wir yn parchu'r  Arglwydd, nac yn ufudd i'r rheolau, gorchmynion, deddfau a gofynion gafodd eu rhoi i ddisgynyddion Jacob, y dyn wnaeth Duw roi'r enw Israel iddo. 35 Roedd yr  Arglwydd wedi gwneud ymrwymiad gyda nhw, a rhoi'r gorchymyn yma iddyn nhw: “Peidiwch addoli duwiau eraill. Peidiwch plygu o'u blaen, eu gwasanaethu nac aberthu iddyn nhw. 36 Dim ond fi, yr  Arglwydd dych chi i'w addoli. Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft gyda nerth a grym mawr. Fi ydy'r un dych chi i'w addoli ac aberthu anifeiliaid iddo. 37 A dych chi i gadw y rheolau, gorchmynion, deddfau a gofynion wnes i eu hysgrifennu i chi. Peidiwch addoli duwiau eraill. 38 Peidiwch anghofio'r ymrwymiad wnes i gyda chi, a peidiwch addoli duwiau eraill. 39 Fi, yr  Arglwydd eich Duw dych chi i'w addoli, a bydda i'n eich achub chi oddi wrth eich gelynion i gyd.”

40 Ond doedden nhw ddim am wrando. Roedden nhw'n dal i ddilyn yr un hen arferion. 41 Roedd y gwahanol grwpiau o bobl yma i gyd yn addoli'r  Arglwydd ac yn gwasanaethu eu heilun-dduwiau ar yr un pryd. Ac mae eu plant a'u plant hwythau yn dal i wneud yr un fath â'u hynafiaid hyd heddiw.

Copyright information for CYM