2 Kings 4

Eliseus yn helpu gwraig weddw dlawd

Dyma wraig un oedd yn aelod o'r urdd o broffwydi yn dod at Eliseus a pledio am ei help. “Roedd fy ngŵr i yn un o dy ddynion di,” meddai, “ac fel ti'n gwybod, roedd e'n ddyn duwiol. Ond mae e wedi marw, a nawr mae rhywun roedd e mewn dyled iddo wedi dod i gasglu'r ddyled, ac mae am gymryd fy nau fab yn gaethweision.”

Dyma Eliseus yn ateb, “Be alla i wneud? Dywed wrtho i, be sydd gen ti yn y tŷ?”

“Does gen i ddim byd ond jar bach o olew, syr,” meddai. Yna dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Dos i fenthyg llestri gan dy gymdogion. Byddi angen casglu cymaint ag y medri o lestri gweigion. Yna dos i'r tŷ gyda dy feibion, a cau'r drws tu ôl i ti. Tywallt olew i bob un llestr a rhoi'r rhai llawn ar un ochr.”

Felly dyma hi'n mynd i wneud hynny, ac yn cau'r drws arni hi a'i dau fab. Wrth i'w meibion ddod â mwy a mwy o lestri iddi, roedd hi'n eu llenwi gyda'r olew. Pan oedd hi wedi llenwi'r llestri i gyd, dyma hi'n dweud wrth ei mab, “Tyrd â potyn arall i mi.”

Ond dyma fe'n ateb, “Does dim mwy ar ôl.” A dyma'r olew yn darfod.

Pan aeth hi i ddweud wrth y proffwyd beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n dweud wrthi, “Dos i werthu'r olew a talu dy ddyledion. Wedyn cei di a dy feibion fyw ar yr arian fydd dros ben.”

Y wraig gyfoethog o Shwnem a'i mab

Un tro roedd Eliseus yn pasio heibio Shwnem.
4:8 Shwnem Tref yn Israel, tua hanner ffordd rhwng Samaria a Mynydd Carmel. Roedd Shwnem tua 25 milltir i'r gogledd o Samaria.
Roedd yna wraig bwysig yn byw yno, ac dyma hi'n mynnu bod Eliseus yn bwyta gyda hi. Felly bob tro roedd Eliseus yn mynd heibio Shwnem roedd e'n arfer galw heibio am bryd o fwyd.

Roedd y wraig wedi bod yn siarad gyda'i gŵr, “Gwranda, dw i'n siŵr fod y dyn sy'n galw heibio yma o hyd yn broffwyd arbennig – yn ddyn sanctaidd iawn. 10 Gad i ni wneud llofft fach ar y to, a rhoi gwely a bwrdd a chadair a lamp yno. Wedyn pan fydd e'n galw heibio, bydd ganddo le i aros.”

11 Felly pan alwodd heibio'r tro wedyn, dyma Eliseus yn aros yn y llofft. 12 Dwedodd wrth Gehasi, ei was, am alw'r wraig. A dyma hi'n dod ato. 13 Roedd Eliseus wedi gofyn iddo ddweud wrthi, “Ti wedi mynd i'r holl drafferth yma. Be allwn ni ei wneud i ti? Alla i ddweud gair da ar dy ran di wrth y brenin, neu wrth bennaeth y fyddin?”

Ond dyma hi'n ateb, “Na, mae'r teulu o'm cwmpas i, ac mae gen i bopeth dw i angen.”

14 Felly dyma Eliseus yn gofyn i Gehasi, “Be allwn ni wneud drosti?”

A dyma Gehasi'n ateb, “Wel, does ganddi hi ddim mab, ac mae ei gŵr hi'n mynd yn hen.”

15 “Dywed wrthi am ddod yma,” meddai Eliseus. Felly dyma Gehasi yn ei galw hi, a dyma hi'n dod a sefyll wrth y drws.

16 A dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Yr adeg yma'r flwyddyn nesaf, bydd gen ti fab yn dy freichiau.”

A dyma hi'n ymateb, “Na, syr! Rwyt ti'n broffwyd Duw. Paid dweud celwydd wrtho i.”

17 Ond cyn hir roedd hi'n disgwyl babi, a tua'r un adeg y flwyddyn wedyn cafodd mab ei eni iddi, yn union fel roedd Eliseus wedi dweud.

18 Ychydig flynyddoedd wedyn pan oedd y bachgen ddigon hen, roedd wedi mynd allan at ei dad adeg y cynhaeaf. 19 Yn sydyn dyma fe'n gweiddi ar ei dad, “O, fy mhen! Mae fy mhen i'n brifo.”

Dyma'r tad yn dweud wrth un o'r gweision, “Dos ag e at ei fam.” 20 Dyma hwnnw'n ei gario yn ôl at ei fam, a bu'n eistedd ar ei glin drwy'r bore. Ond yna ganol dydd dyma fe'n marw. 21 Dyma hi'n ei gario i fyny i lofft y proffwyd, a'i roi i orwedd ar y gwely.

Yna dyma hi'n mynd allan 22 a galw ar ei gŵr, “Dw i angen mynd i weld y proffwyd. Gad i mi gael un o'r gweision ac asen i mi fynd i'w weld ar frys ac yna dod yn ôl.”

23 “Pam wyt ti angen mynd i'w weld e heddiw?” meddai'r gŵr. “Dydy hi ddim yn Ŵyl y lleuad newydd nac yn Saboth.”

“Paid poeni, mae popeth yn iawn,” meddai.

24 Ar ôl i'r asen gael ei chyfrwyo, dyma hi'n dweud wrth y gwas, “Tyrd, gad i ni fynd yn gyflym. Paid arafu oni bai fy mod i'n dweud wrthot ti.” 25 Ac i ffwrdd â hi i Fynydd Carmel i weld y proffwyd.
4:25 Ac i ffwrdd … i weld y proffwyd Taith o tua 25 milltir.

Gwelodd Eliseus hi'n dod o bell, a dyma fe'n dweud wrth Gehasi ei was, “Edrych, y wraig o Shwnem sydd acw. 26 Brysia, rhed i'w chyfarfod, a gofyn iddi os ydy popeth yn iawn gyda hi a'i gŵr, a'i phlentyn.”

“Ydy, mae popeth yn iawn,” oedd ei hateb i Gehasi. 27 Ond pan gyrhaeddodd hi'r proffwyd ar y mynydd dyma hi'n gafael yn ei draed.

Dyma Gehasi yn mynd ati gan feddwl ei symud, ond dyma'r proffwyd yn dweud wrtho, “Paid. Gad lonydd iddi. Mae rhywbeth mawr yn ei phoeni. Ond dydy'r  Arglwydd ddim wedi dweud wrtho i beth ydy e.”

28 Yna dyma hi'n dweud wrtho, “Syr, wnes i ofyn i ti am fab? Wnes i ddim pledio arnat ti i beidio dweud celwydd wrtho i?”

29 Dyma Eliseus yn dweud wrth Gehasi, “Clyma dy wisg am dy ganol, a dos. Cymer fy ffon i. Paid stopio i gyfarch neb ar y ffordd. Dos a cyffwrdd wyneb y bachgen gyda'r ffon.”

30 Ond dyma fam y plentyn yn dweud, “Mor sicr â bod yr  Arglwydd yn fyw, a tithau'n fyw, dw i ddim am fynd yn ôl hebot ti.” Felly dyma Eliseus yn mynd gyda hi.

31 Roedd Gehasi wedi mynd o'u blaenau nhw, ac wedi rhoi'r ffon ar wyneb y bachgen. Ond doedd yna dim ymateb o gwbl. Felly aeth yn ôl i'w cyfarfod a dweud, “Wnaeth y bachgen ddim deffro.”

32 Pan gyrhaeddodd Eliseus y tŷ, dyna lle roedd y bachgen yn gorwedd yn farw ar ei wely. 33 Dyma fe'n cau'r drws tu ôl iddo a gweddïo ar yr  Arglwydd. 34 Yna dyma fe'n mynd at y plentyn a gorwedd arno, gan roi ei geg ar geg y plentyn, ei lygaid ar ei lygaid a'i ddwylo ar ei ddwylo. Dyma fe'n ymestyn drosto nes i gorff y plentyn dwymo. 35 Yna dyma Eliseus yn codi ar ei draed a bu'n cerdded yn ôl a blaen yn y tŷ. Wedyn aeth e'n ôl a gorwedd ar gorff y bachgen eto, a dyma'r bachgen yn tisian saith gwaith ac yn agor ei lygaid.

36 Dyma Eliseus yn galw Gehasi a dweud wrtho, “Gofyn i fam y bachgen ddod yma.” Dyma Gehasi'n ei galw, a pan ddaeth hi dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Cymer dy fab.” 37 Dyma hi'n syrthio ar ei gliniau wrth ei draed. Yna dyma hi'n codi ei mab a mynd allan.

Dwy wyrth arall

38 Aeth Eliseus yn ôl i Gilgal, ac roedd yna newyn yn y wlad. Roedd aelodau'r urdd o broffwydi yn ymweld ag Eliseus, a dyma fe'n dweud wrth ei was, “Rho grochan mawr ar y tân i ferwi cawl iddyn nhw.” 39 Dyma un o'r proffwydi yn mynd allan i gasglu llysiau. Daeth ar draws rhyw blanhigyn gwyllt tebyg i winwydden, a chasglu cymaint o'r ffrwyth ag y gallai ei gario yn ei glogyn. Daeth yn ôl a'u torri'n fân ac yna eu taflu i'r crochan cawl, er nad oedd yn gwybod beth oedden nhw.

40 Dyma godi'r cawl a'i rannu i'r dynion. Ond wrth ei flasu dyma nhw'n gweiddi, “Broffwyd Duw, mae'r cawl yma'n wenwynig!” Allen nhw ddim ei fwyta.

41 “Dewch â blawd i mi,” meddai Eliseus. Yna dyma fe'n taflu'r blawd i'r crochan, a dweud, “Iawn, gallwch ei rannu nawr, i'r dynion gael bwyta”. A doedd dim byd drwg yn y crochan.

42 Dyma ddyn o Baal-shalisha yn dod â bara wedi ei wneud o ffrwyth cynta'r cynhaeaf i'r proffwyd – dau ddeg torth haidd a tywysennau o rawn aeddfed. Dyma Eliseus yn dweud, “Rhowch nhw i'r dynion gael bwyta.” 43 Ond dyma'r un oedd yn gweini yn dweud, “Sut alla i fwydo cant o ddynion gyda hyn?”

“Rho fe iddyn nhw,” meddai Eliseus, “achos mae'r  Arglwydd wedi dweud y byddan nhw'n bwyta, a bydd peth dros ben.”

44 Felly dyma fe'n rhoi'r bara iddyn nhw, ac roedd peth dros ben, fel roedd yr  Arglwydd wedi dweud.

Copyright information for CYM