2 Samuel 22

Cân o fawl i'r  Arglwydd

(Salm 18)

Dyma eiriau'r gân wnaeth Dafydd ei chanu i'r  Arglwydd ar ôl i'r  Arglwydd ei achub o ddwylo ei holl elynion ac o afael Saul: a 

Mae'r  Arglwydd fel craig i mi,
yn gastell ac yn achubwr.
Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani;
yn darian, yn gryfder ac yn hafan ddiogel.
Mae'n fy achub i rhag trais.
Gelwais ar yr  Arglwydd sy'n haeddu ei foli,
ac achubodd fi oddi wrth fy ngelynion.
Roeddwn i'n boddi dan donnau marwolaeth;
roedd llifogydd dinistr yn fy llethu.
Roedd rhaffau byd y meirw o'm cwmpas,
a maglau marwolaeth o'm blaen.
Gelwais ar yr  Arglwydd o ganol fy helynt,
a gweiddi ar fy Nuw.
Roedd yn ei deml, a clywodd fy llais;
gwrandawodd arna i'n galw.
Yna dyma'r ddaear yn symud a crynu.
Roedd sylfeini'r nefoedd yn crynu
ac yn ysgwyd, am ei fod wedi digio.
Daeth mwg allan o'i ffroenau,
a thân dinistriol o'i geg;
roedd marwor yn tasgu ohono.
10 Agorodd yr awyr fel llenni a daeth i lawr.
Roedd cwmwl trwchus dan ei draed.
11 Marchogai ar geriwbiaid yn hedfan;
a codi ar adenydd y gwynt.
12 Gwisgodd dywyllwch drosto –
cymylau duon stormus;
a gwnaeth gymylau trwchus yr awyr
yn ffau o'i gwmpas.
13 Roedd golau disglair o'i flaen
a'r mellt fel marwor tanllyd.
14 Yna taranodd yr  Arglwydd o'r awyr –
sŵn llais y Goruchaf yn galw.
15 Taflodd ei saethau a chwalu'r gelyn;
roedd ei folltau mellt yn eu gyrru ar ffo.
16 Daeth gwely'r môr i'r golwg;
ac roedd sylfeini'r ddaear yn noeth
wrth i'r  Arglwydd ruo,
a chwythu anadl o'i ffroenau.
17 Estynnodd i lawr o'r uchelder
a gafael ynof fi;
tynnodd fi allan o'r dŵr dwfn.
18 Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig –
y rhai sy'n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi.
19 Dyma nhw'n ymosod pan roeddwn mewn helbul,
ond dyma'r  Arglwydd yn fy helpu i.
20 Daeth â fi allan i ryddid!
Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi.
21 Mae'r  Arglwydd wedi bod yn deg â mi.
Dw i wedi byw'n gyfiawn;
mae fy nwylo'n lân,
ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi.
22 Do, dw i wedi dilyn yr  Arglwydd yn ffyddlon,
heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg.
23 Dw i wedi cadw ei ddeddfau'n ofalus;
dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau.
24 Dw i wedi bod yn ddi-fai
ac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn.
25 Mae'r  Arglwydd wedi rhoi fy ngwobr i mi.
Dw i wedi byw'n gyfiawn,
ac mae e wedi gweld bod fy nwylo'n lân.
26 Ti'n ffyddlon i'r rhai sy'n ffyddlon,
ac yn deg â'r rhai di-euog.
27 Mae'r rhai di-fai yn dy brofi'n ddi-fai,
ond rwyt ti'n fwy craff na'r rhai anonest.
28 Ti'n achub pobl sy'n dioddef,
ond yn torri crib y rhai balch.
29 Ie, ti ydy fy lamp i, o  Arglwydd,
ti'n rhoi golau i mi yn y tywyllwch.
30 Gyda ti gallaf ruthro allan i'r frwydr;
gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw!
31 Mae Duw yn gwneud beth sy'n iawn;
mae'r  Arglwydd yn dweud beth sy'n wir.
Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy'n troi ato.
32 Oes duw arall ond yr  Arglwydd?
Oes craig arall ar wahân i'n Duw ni?
33 Fe ydy'r Duw sy'n fy amddiffyn â'i nerth –
mae'n symud pob rhwystr o'm blaen.
34 Mae'n rhoi coesau fel carw i mi;
fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel.
35 Dysgodd fi sut i ymladd –
dw i'n gallu plygu bwa o bres!
36 Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian.
Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo.
37 Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaen
a wnes i ddim baglu.
38 Es ar ôl fy ngelynion, a'u difa nhw;
wnes i ddim troi'n ôl nes roedden nhw wedi darfod.
39 Bydda i'n eu dinistrio a'u taro,
nes byddan nhw'n methu codi;
bydda i'n eu sathru nhw dan draed.
40 Ti roddodd y nerth i mi ymladd;
ti wnaeth i'r gelyn blygu o'm blaen;
41 Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl.
Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr.
42 Roedden nhw'n edrych am help,
ond doedd neb i'w hachub!
Roedden nhw'n troi at yr  Arglwydd hyd yn oed!
Ond wnaeth e ddim ateb.
43 Dyma fi'n eu malu nhw fel llwch ar lawr;
a'u sathru dan draed fel baw ar y strydoedd.
44 Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn.
Gwnest fi'n bennaeth ar y gwledydd.
Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhw
yn derbyn fy awdurdod.
45 Mae estroniaid yn crynu o'm blaen.
Maen nhw'n plygu wrth glywed amdana i!
46 Mae pobloedd estron wedi colli pob hyder,
ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau.
47 Ydy, mae'r  Arglwydd yn fyw!
Bendith ar y graig sy'n fy amddiffyn i!
Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu!
48 Fe ydy'r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i,
a gwneud i bobloedd blygu o'm blaen.
49 Fe ydy'r Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion,
a'm cipio o afael y rhai sy'n fy nghasáu.
Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar.
50 Felly, O  Arglwydd,
bydda i'n dy foli di o flaen y cenhedloedd
ac yn canu mawl i dy enw:
51 Mae'n rhoi buddugoliaeth i'w frenin –
un fuddugoliaeth fawr ar ôl y llall!
Mae'n aros yn ffyddlon i'w eneiniog –
i Dafydd, ac i'w ddisgynyddion am byth.
Copyright information for CYM