2 Samuel 24

Dafydd yn pechu drwy gynnal cyfrifiad

(1 Cronicl 21:1-27)

Dro arall roedd yr  Arglwydd wedi digio'n lân gydag Israel. Dyma fe'n gwneud i Dafydd achosi trwbwl iddyn nhw trwy ddweud wrtho am gyfri pobl Israel a Jwda. Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Joab, pennaeth ei fyddin, “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o holl lwythau Israel, o Dan yn y gogledd i Beersheba
24:2 Dan … Beersheba Roedd Dan wrth droed Mynydd Hermon yn y gogledd ar y llwybr masnach i Damascus. Roedd Beersheba 23 milltir i'r de-orllewin o Hebron ar y prif lwybr masnach i'r Aifft.
yn y de, i mi gael gwybod maint y fyddin sydd gen i.”
Ond dyma Joab yn ateb y brenin, “O na fyddai'r  Arglwydd dy Dduw yn gadael i ti fyw i weld byddin ganwaith fwy nag sydd gen ti! Ond syr, pam fyddet ti eisiau gwneud y fath beth?”

Ond roedd y brenin yn benderfynol, er gwaetha gwrthwynebiad Joab a chapteiniaid y fyddin. Felly dyma nhw'n mynd ati i gyfri pobl Israel, fel roedd y brenin wedi dweud.

Dyma nhw'n croesi Afon Iorddonen, ac yn dechrau yn Aroer, i'r de o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn. Yna dyma nhw'n mynd i'r sychnant ar diriogaeth Gad, ac i dref Iaser. Ymlaen wedyn i ardal Gilead, a tref Cadesh ar dir yr Hethiaid, yna Dan ac Ïon, a rownd i Sidon. Yna i lawr i dref gaerog Tyrus a holl drefi'r Hefiaid a'r Canaaneaid, ac ymlaen i gyfeiriad y de nes cyrraedd yr holl ffordd i Beersheba yn anialwch Jwda. Cymerodd naw mis a tair wythnos cyn iddyn nhw gyrraedd yn ôl yn Jerwsalem, ar ôl teithio trwy'r wlad i gyd.

Yna dyma Joab yn rhoi canlyniadau'r cyfrifiad i'r brenin. Roedd yna wyth can mil o ddynion dewr Israel allai ymladd yn y fyddin, a pum can mil yn Jwda.

10 Ond wedi iddo gyfri'r bobl, roedd cydwybod Dafydd yn ei boeni. A dyma fe'n dweud wrth yr  Arglwydd, “Dw i wedi pechu'n ofnadwy drwy wneud hyn. Plîs wnei di faddau i mi  Arglwydd? Dw i wedi gwneud peth gwirion.”

11 Erbyn i Dafydd godi'r bore wedyn roedd yr  Arglwydd wedi rhoi neges i Gad, proffwyd y llys: 12 “Dos i ddweud wrth Dafydd, ‘Dyma mae'r  Arglwydd yn ei ddweud: Dw i'n rhoi tri dewis i ti. Dewis pa un wyt ti am i mi ei wneud.’”

13 Felly dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud, “Pa un wnei di ddewis? Tair blynedd o newyn yn y wlad? Neu tri mis o ffoi o flaen dy elynion? Neu tri diwrnod o bla drwy'r wlad? Meddwl yn ofalus cyn dweud wrtho i pa ateb dw i i'w roi i'r un sydd wedi f'anfon i.” 14 Dyma Dafydd yn ateb Gad, “Mae'n ddewis caled! Ond mae'r  Arglwydd mor drugarog! Byddai'n well gen i gael fy nghosbi ganddo fe na gan ddynion.”

15 Felly'r bore hwnnw dyma'r  Arglwydd yn anfon haint ar wlad Israel wnaeth bara am dri diwrnod, a buodd saith deg mil o bobl o bob rhan o'r wlad farw. 16 Ond wrth i'r angel bwyntio ei fys at Jerwsalem i'w difa, dyma'r  Arglwydd yn teimlo'n sori am y niwed oedd yn cael ei wneud. A dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r angel oedd wrthi'n difa'r bobl, “Dyna ddigon! Stopia nawr!” (Ar y pryd roedd yr angel yn sefyll wrth ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.)

17 Pan welodd Dafydd yr angel yn taro'r bobl, dyma fe'n dweud, “ Arglwydd, fi sydd wedi pechu a gwneud y drwg! Wnaeth y bobl ddiniwed
24:17 bobl ddiniwed Hebraeg, “defaid”
yma ddim byd o'i le. Cosba fi a'm teulu!”

Dafydd yn codi allor i'r  Arglwydd

18 Y diwrnod hwnnw dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud wrtho, “Dos, a chodi allor i'r  Arglwydd ar lawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.” 19 Felly dyma Dafydd yn mynd a gwneud beth roedd yr  Arglwydd wedi ei ddweud wrth Gad. 20 Pan welodd Arafna y brenin a'i weision yn dod ato, dyma fe'n mynd ato ac ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr. 21 “Pam mae fy meistr, y brenin, wedi dod yma ata i?” meddai. A dyma Dafydd yn ateb, “I brynu dy lawr dyrnu di. Dw i eisiau codi allor i'r  Arglwydd i stopio'r pla yma ladd y bobl.” 22 Dyma Arafna'n ateb, “Syr, cymer beth bynnag wyt ti eisiau. Cymer yr ychen i'w llosgi'n aberth, a defnyddia'r sled dyrnu a iau'r ychen yn goed tân. 23 Dw i am roi'r cwbl i'm meistr, y brenin. Gobeithio bydd yr  Arglwydd dy Dduw yn derbyn beth wyt ti'n wneud.” 24 Ond dyma'r brenin yn ei ateb, “Na, mae'n rhaid i mi dalu'r pris llawn i ti. Dw i ddim yn mynd i gyflwyno aberthau i'w llosgi i'r  Arglwydd sydd wedi costio dim byd i mi.”

Felly dyma Dafydd yn prynu'r llawr dyrnu a'r ychen am bum deg darn arian. 25 Wedyn adeiladodd allor i'r  Arglwydd yno, a chyflwyno arni aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r  Arglwydd. A dyma'r  Arglwydd yn ateb ei weddi a stopio'r pla oedd yn mynd trwy'r wlad.

Copyright information for CYM