cSalm 89:20 a 1 Samuel 13:14
eEseia 55:3 (LXX)
fSalm 16:10 (LXX)
gHabacuc 1:5 (LXX)
hcyfeiriad at Eseia 42:6; 49:6

Acts 13

Barnabas a Saul yn cael eu hanfon i ffwrdd

Roedd nifer o broffwydi ac athrawon yn yr eglwys yn Antiochia: Barnabas, Simeon (y dyn du), Lwcius o Cyrene, Manaen (oedd yn ffrind i Herod Antipas pan roedd yn blentyn), a Saul. Pan oedden nhw'n addoli Duw ac yn ymprydio, dyma'r Ysbryd Glân yn dweud, “Mae gen i waith arbennig i Barnabas a Saul ei wneud, a dw i am i chi eu rhyddhau nhw i wneud y gwaith hwnnw.” Felly ar ôl ymprydio a gweddïo, dyma nhw'n rhoi eu dwylo ar y ddau i'w comisiynu nhw, ac yna eu hanfon i ffwrdd.

Taith Genhadol Gyntaf Paul

Ar Ynys Cyprus

Dyma'r Ysbryd Glân yn eu hanfon allan, a dyma'r ddau yn mynd i lawr i borthladd Antiochia, sef Selwsia, ac yn hwylio drosodd i Ynys Cyprus. Ar ôl cyrraedd Salamis dyma nhw'n mynd ati i gyhoeddi neges Duw yn synagogau'r Iddewon. (Roedd Ioan gyda nhw hefyd fel cynorthwywr.)

Dyma nhw'n teithio drwy'r ynys gyfan, ac yn dod i Paffos. Yno dyma nhw'n dod ar draws rhyw Iddew oedd yn ddewin ac yn broffwyd ffug. Bar-Iesu oedd yn cael ei alw, ac roedd yn gwasanaethu fel aelod o staff y rhaglaw Sergiws Pawlus. Roedd y rhaglaw yn ddyn deallus, ac anfonodd am Barnabas a Saul am ei fod eisiau clywed beth oedd y neges yma gan Dduw. Ond dyma Elymas ‛y dewin‛ (dyna ydy ystyr ei enw yn yr iaith Roeg) yn dadlau yn eu herbyn ac yn ceisio troi'r rhaglaw yn erbyn y ffydd. Dyma Saul (oedd hefyd yn cael ei alw'n Paul), yn llawn o'r Ysbryd Glân, yn edrych i fyw llygad Elymas, ac yn dweud, 10 “Plentyn i'r diafol wyt ti! Gelyn popeth da! Rwyt ti mor dwyllodrus a llawn castiau! Pryd wyt ti'n mynd i stopio gwyrdroi ffyrdd yr Arglwydd? 11 Mae Duw yn mynd i dy gosbi di! Rwyt ti'n mynd i fod yn ddall am gyfnod – fyddi di ddim yn gallu gweld golau dydd!” Yr eiliad honno daeth rhyw niwl a thywyllwch drosto! Roedd yn ymbalfalu o gwmpas, yn ceisio cael rhywun i afael yn ei law. 12 Pan welodd y rhaglaw beth ddigwyddodd, daeth i gredu. Roedd wedi ei syfrdanu gan yr hyn oedd yn cael ei ddysgu iddo am yr Arglwydd.

Yn Antiochia Pisidia

13 Yna dyma Paul a'r lleill yn gadael Paffos a hwylio yn eu blaenau i Perga yn Pamffilia
13:13-14 Ardaloedd yn y wlad dŷn ni'n ei hadnabod fel Twrci oedd Pamffilia a Pisidia.
. Dyna lle gadawodd Ioan Marc nhw i fynd yn ôl i Jerwsalem.
14 Ond aethon nhw yn eu blaenau i Antiochia Pisidia. Ar y dydd Saboth dyma nhw'n mynd i'r gwasanaeth yn y synagog. 15 Ar ôl i rannau o Gyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi gael eu darllen, dyma arweinwyr y synagog yn cael rhywun i ofyn iddyn nhw, “Frodyr, teimlwch yn rhydd i siarad os oes gynnoch chi air o anogaeth i'r bobl.”

16 Dyma Paul yn sefyll ac yn codi ei law i dawelu'r bobl, ac meddai: “Gwrandwch, bobl Israel, a chithau o genhedloedd eraill sydd yma'n addoli Duw. 17 Ein Duw ni, Duw Israel ddewisodd ein hynafiaid ni yn bobl iddo'i hun. Gwnaeth i'w niferoedd dyfu pan roedden nhw yn yr Aifft, ac yna eu harwain allan o'r wlad honno mewn ffordd rymus iawn. 18 Goddefodd eu hymddygiad
13:18 neu, yn ôl llawysgrifau eraill gofalodd amdanyn nhw; gw. Deuteronomium 1:31.
yn yr anialwch am tua pedwar deg o flynyddoedd.
19 Yna dinistrio saith cenedl yn Canaan a rhoi eu tir i'w bobl Israel ei etifeddu. 20 Digwyddodd hyn i gyd dros gyfnod o ryw 450 o flynyddoedd. Yn dilyn hynny rhoddodd Duw farnwyr iddyn nhw i'w harwain hyd gyfnod y proffwyd Samuel. 21 Dyna pryd y gofynnodd y bobl am frenin, a rhoddodd Duw Saul fab Cis (o lwyth Benjamin) iddyn nhw, a buodd yn frenin am bedwar deg mlynedd. 22 Ar ôl cael gwared â Saul, dyma Duw yn gwneud Dafydd yn frenin arnyn nhw. Dyma ddwedodd Duw am Dafydd: ‘Mae Dafydd fab Jesse yn ddyn sydd wrth fy modd; bydd yn gwneud popeth dw i am iddo'i wneud.’ c 

23 “Un o ddisgynyddion Dafydd ydy'r un anfonodd Duw yn Achubwr i Israel, sef Iesu. 24 Roedd Ioan Fedyddiwr wedi bod yn pregethu i bobl Israel cyn i Iesu ddod, ac yn galw arnyn nhw i droi cefn ar bechod a chael eu bedyddio. 25 Pan oedd gwaith Ioan bron â dod i ben, dwedodd fel hyn: ‘Dych chi'n meddwl mai fi ydy'r Meseia? Na, dim fi ydy e. Mae'n dod ar fy ôl i, a dw i ddim yn haeddu bod yn gaethwas i ddatod carrai ei sandalau hyd yn oed!’

26 “Frodyr a chwiorydd – chi sy'n blant i Abraham, a chithau o genhedloedd eraill sy'n addoli Duw hefyd, mae'r neges yma am achubiaeth wedi ei hanfon aton ni. 27 Wnaeth pobl Jerwsalem a'u harweinwyr mo'i nabod e. Wrth ei gondemnio i farwolaeth roedden nhw'n gwneud yn union beth roedd y proffwydi sy'n cael eu darllen bob Saboth yn ei ddweud! 28 Er bod ganddyn nhw ddim achos digonol yn ei erbyn i gyfiawnhau'r gosb eithaf, dyma nhw'n gofyn i Peilat ei ddienyddio. 29 Ar ôl gwneud iddo bopeth oedd wedi ei broffwydo, dyma nhw yn ei dynnu i lawr o'r pren a'i roi mewn bedd. 30 Ond dyma Duw yn dod ag e'n ôl yn fyw! 31 Am gyfnod o rai wythnosau cafodd ei weld gan y bobl oedd wedi teithio gydag e o Galilea i Jerwsalem. Maen nhw'n lygad-dystion sy'n gallu dweud wrth y bobl beth welon nhw.

32 “Dŷn ni yma gyda newyddion da i chi: Mae'r cwbl wnaeth Duw ei addo i'n cyndeidiau ni 33 wedi dod yn wir! Mae wedi codi Iesu yn ôl yn fyw. Dyna mae'r ail Salm yn ei ddweud:

‘Ti ydy fy Mab i;
heddiw des i yn Dad i ti.’ d 

34 Mae Duw wedi ei godi yn fyw ar ôl iddo farw, a fydd ei gorff byth yn pydru'n y bedd! Dyna ystyr y geiriau yma:

‘Rhof i ti y bendithion sanctaidd a sicr
gafodd eu haddo i Dafydd.’ e 

35 Ac mae Salm arall yn dweud:

‘Fyddi di ddim yn gadael i'r un sydd wedi ei gysegru i ti bydru yn y bedd.’ f 

36 “Dydy'r geiriau yma ddim yn sôn am Dafydd. Buodd Dafydd farw ar ôl gwneud popeth roedd Duw am iddo ei wneud yn ei gyfnod. Cafodd ei gladdu ac mae ei gorff wedi pydru. 37 Ond wnaeth corff yr un gododd Duw yn ôl yn fyw ddim pydru!

38 “Felly, frodyr a chwiorydd, dw i am i chi ddeall fod maddeuant pechodau ar gael i chi o achos beth wnaeth Iesu. 39 Trwyddo fe mae pawb sy'n credu yn cael perthynas iawn gyda Duw. Dydy Cyfraith Moses ddim yn gallu rhoi'r berthynas iawn yna i chi. 40 Felly, gwyliwch fod yr hyn soniodd y proffwydi amdano ddim yn digwydd i chi:

41  ‘Edrychwch, chi sy'n gwawdio,
rhyfeddwch at hyn, a gwywo!
Oherwydd bydda i'n gwneud yn eich dyddiau chi
rywbeth fyddwch chi ddim yn ei gredu,
hyd yn oed petai rhywun yn dweud wrthoch chi!’” g 

42 Wrth i Paul a Barnabas adael y synagog, dyma'r bobl yn gofyn iddyn nhw ddod yn ôl i ddweud mwy y Saboth wedyn. 43 Pan roedd y cyfarfod drosodd, dyma nifer dda o Iddewon a phobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig yn mynd ar ôl Paul a Barnabas. Dyma'r ddau yn pwyso arnyn nhw i ddal gafael yn y ffaith fod Duw mor hael.

44 Y Saboth wedyn roedd fel petai'r ddinas i gyd wedi dod i glywed neges yr Arglwydd. 45 Ond pan welodd yr arweinwyr Iddewig cymaint o dyrfa oedd yno, roedden nhw'n genfigennus; a dyma nhw'n dechrau hyrddio enllibion at Paul, a dadlau yn erbyn popeth roedd yn ei ddweud.

46 Ond roedd ateb Paul a Barnabas yn ddi-flewyn-ar-dafod: “Roedd rhaid i ni gyhoeddi neges Duw i chi gyntaf. Ond gan eich bod chi'n gwrthod gwrando, ac felly'n barnu eich hunain yn anaddas i gael bywyd tragwyddol, awn ni at bobl y cenhedloedd eraill. 47 Achos dyma wnaeth Duw ei orchymyn i ni:

‘Dw i wedi dy wneud di yn olau i'r cenhedloedd,
er mwyn i bobl o ben draw'r byd gael eu hachub.’” h 

48 Roedd pobl y cenhedloedd wrth eu boddau pan glywon nhw hyn, a dyma nhw'n canmol neges yr Arglwydd. Dyma pob un oedd i fod i gael bywyd tragwyddol yn dod i gredu. 49 Felly aeth neges yr Arglwydd ar led drwy'r ardal i gyd.

50 Ond yna dyma'r arweinwyr Iddewig yn creu cynnwrf ymhlith y gwragedd o'r dosbarth uwch oedd yn ofni Duw, a dynion pwysig y ddinas. A dyma nhw'n codi twrw a pheri i Paul a Barnabas gael eu taflu allan o'r ardal. 51 Ar ôl ysgwyd y llwch oddi ar eu traed fel arwydd o brotest, dyma'r ddau yn mynd yn eu blaen i Iconium. 52 Ond roedd y disgyblion yno yn fwrlwm o lawenydd ac yn llawn o'r Ysbryd Glân.

Copyright information for CYM