Acts 16

Timotheus yn ymuno â Paul a Silas

Aeth Paul ymlaen i Derbe ac yna i Lystra, lle roedd disgybl o'r enw Timotheus yn byw. Roedd ei fam yn Iddewes ac yn credu, ond ei dad yn Roegwr. Dim ond pethau da oedd gan Gristnogion Lystra ac Iconium i'w dweud am Timotheus, felly roedd Paul am iddo fynd gyda nhw ar y daith. Trefnodd i Timotheus gael ei enwaedu rhag i'r Iddewon yn yr ardal gael eu tramgwyddo. Roedden nhw'n gwybod fod tad Timotheus yn Roegwr. Wrth deithio o un dref i'r llall roedden nhw'n dweud beth oedd yr apostolion a'r arweinwyr eraill yn Jerwsalem wedi penderfynu ei ofyn gan gredinwyr o genhedloedd eraill. Felly roedd ffydd yr eglwysi yn cryfhau a nifer y bobl ynddyn nhw'n tyfu bob dydd.

Paul yn cael gweledigaeth o ddyn o Macedonia

Teithiodd Paul a'i ffrindiau ymlaen ar hyd cyrion Phrygia a Galatia, gan fod yr Ysbryd Glân wedi eu stopio nhw rhag mynd i dalaith Asia i rannu eu neges. Dyma nhw'n cyrraedd ffin Mysia gyda'r bwriad o fynd ymlaen i Bithynia
16:6-7 Roedd Phrygia, Galatia, Asia, Mysia, a Bithynia yn ardaloedd gwahanol yn y wlad dŷn ni'n ei hadnabod fel Twrci.
, ond dyma Ysbryd Glân Iesu yn eu stopio nhw rhag mynd yno hefyd.
Felly dyma nhw'n mynd trwy Mysia i lawr i ddinas Troas. Y noson honno cafodd Paul weledigaeth – roedd dyn o Macedonia yn sefyll o'i flaen, yn crefu arno, “Tyrd draw i Macedonia i'n helpu ni!” 10 Felly, o ganlyniad i'r weledigaeth yma, dyma ni'n
16:10 Roedd Luc, awdur llyfr yr Actau, gyda Paul ar y daith yma.
paratoi i fynd i Macedonia ar unwaith. Roedden ni wedi dod i'r casgliad mai yno roedd Duw am i ni fynd i gyhoeddi'r newyddion da.

Lydia yn cael tröedigaeth yn Philipi

11 Dyma ni'n hwylio o borthladd Troas a chroesi'n syth ar draws i ynys Samothrace, cyn glanio yn Neapolis y diwrnod wedyn. 12 O'r fan honno aethon ni ymlaen i Philipi sy'n dref Rufeinig – y ddinas fwyaf yn y rhan honno o Macedonia. Buon ni yno am rai dyddiau.

13 Ar y dydd Saboth dyma ni'n mynd allan o'r ddinas at lan yr afon, lle roedden ni'n deall fod pobl yn cyfarfod i weddïo. Dyma ni'n eistedd i lawr a dechrau siarad â'r gwragedd oedd wedi dod at ei gilydd yno. 14 Roedd un wraig yno o'r enw Lydia – gwraig o ddinas Thyatira oedd â busnes gwerthu brethyn porffor drud. Roedd hi'n un oedd yn addoli Duw. Wrth wrando, agorodd yr Arglwydd ddrws ei chalon hi, a dyma hi'n ymateb i neges Paul. 15 Cafodd hi a rhai eraill o'i thŷ eu bedyddio, a rhoddodd wahoddiad i ni i aros yn ei thŷ. “Os dych chi'n derbyn mod i wedi dod i gredu yn yr Arglwydd,” meddai, “dewch i aros yn fy nghartre i.” A llwyddodd i'n perswadio ni i wneud hynny.

Paul a Silas yn y carchar

16 Rhyw ddiwrnod arall pan oedden ni ar ein ffordd i'r lle gweddi, dyma ni'n cyfarfod caethferch oedd ag ysbryd ynddi yn ei galluogi i ragweld y dyfodol. Roedd hi'n ennill arian mawr i'w pherchnogion drwy ddweud ffortiwn. 17 Dechreuodd ein dilyn ni, gan weiddi, “Mae'r dynion yma yn weision i'r Duw Goruchaf! Maen nhw'n dweud wrthoch chi sut i gael eich achub!”

18 Aeth hyn ymlaen am ddyddiau lawer. Yn y diwedd, roedd hi wedi mynd ar nerfau Paul cymaint nes iddo droi rownd a dweud wrth yr ysbryd drwg oedd ynddi, “Yn enw Iesu y Meseia, tyrd allan ohoni!” A dyma'r ysbryd yn ei gadael hi yr eiliad honno.

19 Pan welodd ei meistri fod pob gobaith o wneud elw trwyddi wedi mynd hefyd, dyma nhw'n gafael yn Paul a Silas a'u llusgo o flaen yr awdurdodau yn sgwâr y farchnad. 20 “Mae'r Iddewon hyn yn codi twrw yn y dre,” medden nhw wrth yr ynadon 21 “ac maen nhw'n annog pobl i wneud pethau sy'n groes i'n harferion ni Rufeiniaid.”

22 Ymunodd y dyrfa yn yr ymosod ar Paul a Silas, a dyma'r ynadon yn gorchymyn tynnu dillad y ddau a'u curo â ffyn. 23 Wedyn ar ôl eu curo'n ddidrugaredd, dyma nhw'n eu taflu nhw i'r carchar. Cafodd swyddog y carchar orchymyn i'w gwylio nhw'n ofalus, 24 felly rhoddodd y ddau ohonyn nhw yn y gell fwyaf diogel a rhoi eu traed mewn cyffion.

25 Tua hanner nos roedd Paul a Silas wrthi'n gweddïo ac yn canu emynau o fawl, ac roedd y carcharorion eraill i gyd yn gwrando. 26 Yna'n sydyn dyma ddaeargryn mawr yn ysgwyd y carchar i'w sylfeini. Dyma'r drysau i gyd yn agor, a'r cadwyni yn disgyn i ffwrdd oddi ar bawb! 27 Pan ddeffrodd swyddog y carchar a gweld y drysau ar agor, roedd yn meddwl fod y carcharorion wedi dianc. Gafaelodd yn ei gleddyf gan fwriadu lladd ei hun. 28 Ond dyma Paul yn gweiddi, “Paid! Dŷn ni i gyd yma!”

29 Galwodd y swyddog am oleuadau, a rhuthro i mewn i gell Paul a Silas, a syrthio i lawr o'u blaenau yn crynu mewn ofn. 30 Yna aeth a nhw allan a gofyn iddyn nhw, “Beth sydd raid i mi ei wneud i gael fy achub?”

31 Dyma nhw'n ateb, “Credu yn yr Arglwydd Iesu, dyna sut mae cael dy achub – ti a phawb arall yn dy dŷ.” 32 A dyma nhw'n rhannu'r newyddion da am yr Arglwydd Iesu gyda'r swyddog a phawb arall yn ei dŷ. 33 Yna aeth y swyddog â nhw yng nghanol y nos i lanhau eu briwiau. Wedyn cafodd e a phawb arall yn ei dŷ eu bedyddio. 34 Yna aeth â nhw i'w gartref a rhoi pryd o fwyd iddyn nhw. Roedd pawb yn ei dŷ mor hapus eu bod nhw wedi credu yn Nuw.

35 Yn gynnar y bore wedyn dyma'r ynadon yn anfon plismyn i'r carchar i ddweud wrth y swyddog am ollwng Paul a Silas yn rhydd. 36 Dyma'r swyddog yn dweud wrth Paul, “Mae'r ynadon wedi dweud eich bod chi'ch dau yn rhydd i fynd.” 37 Ond meddai Paul wrth y plismyn: “Maen nhw wedi'n curo ni'n gyhoeddus a'n taflu ni i'r carchar heb achos llys, a ninnau'n ddinasyddion Rhufeinig! Ydyn nhw'n meddwl nawr eu bod nhw'n gallu cael gwared â ni'n ddistaw bach? Dim gobaith! Bydd rhaid iddyn nhw ddod yma eu hunain i'n hebrwng ni allan!”

38 Dyma'r plismyn yn mynd i ddweud wrth yr ynadon beth oedd wedi digwydd. Pan glywon nhw fod Paul a Silas yn ddinasyddion Rhufeinig roedden nhw wedi dychryn. 39 Felly dyma nhw'n dod i'r carchar i ymddiheuro. Ar ôl mynd â nhw allan o'r carchar, dyma nhw'n pwyso ar y ddau dro ar ôl tro i adael y ddinas. 40 Felly dyma Paul a Silas yn mynd i dŷ Lydia i gyfarfod y credinwyr a'u hannog nhw i ddal ati, ac wedyn dyma nhw'n gadael Philipi.

Copyright information for CYM