Ecclesiastes 5

Dangos parch at Dduw

Gwylia beth rwyt ti'n ei wneud wrth fynd i addoli Duw. Dos yno i wrando, ddim i gyflwyno offrwm ffyliaid, oherwydd dydy'r rheiny ddim yn gwybod eu bod nhw'n gwneud rhywbeth o'i le.

Paid bod yn rhy barod dy dafod, ac ar ormod o frys i ddweud dy farn wrth Dduw. Mae Duw yn y nefoedd a thithau ar y ddaear. Dylet ti bwyso a mesur dy eiriau.

“Mae breuddwydion yn dod wrth boeni gormod,
a siarad ffôl wrth ddweud gormod.”

Pan wyt ti'n gwneud adduned i Dduw, paid oedi cyn ei chyflawni. Dydy Duw ddim yn cael ei blesio gan ffyliaid. Gwna beth rwyt ti wedi addo'i wneud. Mae'n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf na gwneud un ac wedyn peidio'i chyflawni! a  Paid gadael i dy eiriau wneud i ti bechu, ac wedyn ceisio dadlau o flaen yr offeiriad, “camgymeriad oedd e!” Paid digio Duw, a gwneud iddo ddinistrio popeth rwyt wedi gweithio amdano!

“Mae gormod o freuddwydio
ac o wneud addewidion gwag.”

Dangos di barch at Dduw.

Gormes ac anghyfiawnder

Os wyt ti'n gweld pobl dlawd yn cael eu gormesu, hawliau'n cael eu gwrthod ac anghyfiawnder mewn rhyw wlad, paid rhyfeddu at y peth! Mae pob swyddog yn atebol i'w oruchwyliwr, ac mae rhai uwch fyth dros y rheiny wedyn. Mae cynnyrch y tir i fod i bawb – ac mae'r brenin i fod i feithrin hyn!
5:9 Un ystyr posib. Hebraeg yn aneglur iawn.

Nid arian ydy'r ateb

10 “Dydy rhywun sydd ag obsesiwn am arian
byth yn fodlon fod ganddo ddigon;
na'r un sy'n caru cyfoeth
yn hapus gyda'i enillion.”

Dydy e'n gwneud dim sens!

11 “Po fwya'r llwyddiant,
mwya'r bobl sydd i'w cynnal ganddo.”

Felly beth mae'r perchennog yn ei ennill heblaw fod ganddo rywbeth i edrych arno?

12 “Mae gorffwys yn felys i weithiwr cyffredin,
faint bynnag sydd ganddo i'w fwyta,
ond mae'r ffaith fod gan y cyfoethog fwy na digon
yn ei rwystro rhag cysgu'n dawel.”

13 Dyma rywbeth ofnadwy dw i wedi sylwi arno, ond mae'n digwydd o hyd: Pobl yn cadw eu cyfoeth iddyn nhw eu hunain rhag ofn i rhyw anffawd ddigwydd. 14 Ond yna mae'n colli'r cwbl drwy ryw bwl o anlwc. Er ei fod wedi cael mab, does ganddo ddim i'w basio ymlaen i'r mab hwnnw. 15 Mae plentyn yn cael ei eni i'r byd heb ddim, ac mae'n gadael y byd heb ddim. Does neb yn gallu mynd a'i gyfoeth gydag e. 16 Mae'n beth trist ofnadwy. Yn union fel mae'n dod i'r byd heb ddim, mae'n gadael heb ddim. Felly faint gwell ydy e? Beth ydy'r pwynt ymdrechu i ddim byd? 17 Mae'n treulio ei fywyd i gyd dan gwmwl marwolaeth! – yn rhwystredig, yn dioddef o salwch ac yn flin.

Cyngor yr Athro – mwynhau bywyd

18 Dim ond un peth dw i'n ei weld sy'n dda ac yn llesol go iawn: fod rhywun yn bwyta ac yn yfed ac yn mwynhau ei waith caled yn y byd yma am yr ychydig amser mae Duw wedi ei roi iddo. Dyna ei wobr. 19 Ac os ydy Duw wedi rhoi cyfoeth ac eiddo iddo, a'r gallu i'w mwynhau, derbyn ei wobr a chael pleser yn y cwbl mae'n ei wneud – rhodd gan Dduw ydy'r pethau yma i gyd. 20 Pan mae Duw wedi llenwi ei fywyd â llawenydd, dydy rhywun felly ddim yn poeni rhyw lawer fod bywyd mor fyr.

Copyright information for CYM