Ecclesiastes 9

Yr un dynged i bawb

Felly ystyriais y cwbl yn fanwl, i geisio deall trefn popeth. A dod i'r casgliad fod y bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn (y rhai doeth a'r cwbl maen nhw'n ei wneud) yn llaw Duw. Fyddan nhw'n cael eu caru neu eu casáu? Does neb yn gwybod beth sydd o'u blaenau nhw. A'r un dynged sy'n disgwyl pawb: y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn, a'r rhai drwg, y rhai sy'n barod i addoli, a'r rhai sydd ddim; yr un sy'n cyflwyno aberth i Dduw, a'r un sydd ddim yn aberthu. Mae'r un peth yn digwydd i'r bobl sy'n plesio Duw ac i'r rhai sydd ddim; i'r un sy'n tyngu llw i Dduw, a'r un sy'n gwrthod gwneud hynny. Dyna sydd mor annheg am yr hyn sy'n digwydd yn y byd: yr un dynged sy'n wynebu pawb! Mae pawb fel petaen nhw am wneud drwg; mae'r ffordd maen nhw'n byw yn wallgof! A beth sy'n dod wedyn? – marwolaeth! Does dim eithriadau! O leia mae gan rywun sy'n fyw rywbeth i edrych ymlaen ato – “Mae ci byw yn well ei fyd na llew marw”. Mae'r byw yn gwybod eu bod nhw'n mynd i farw, ond dydy'r meirw'n gwybod dim byd! Does dim gwobr arall yn eu disgwyl nhw, ac mae pawb yn eu hanghofio nhw. Beth oedden nhw'n ei garu, beth oedden nhw'n ei gasáu, a'r hyn oedd yn eu gwneud nhw'n genfigennus – mae'r cwbl wedi hen fynd! Does ganddyn nhw ddim rhan byth eto yn yr hyn sy'n digwydd yn y byd.

Cyngor yr Athro – mwynhau bywyd

Dos, mwynha dy fwyd ac yfa dy win yn llawen! Dyna mae Duw am i ti ei wneud. Gwisga dy ddillad gorau,
9:8 Hebraeg, “gwisga ddillad gwynion bob amser.”
a pharatoi dy hun i fynd allan i fwynhau.
9:8 Hebraeg, “a rho ddigon o olew ar dy ben.”
Mwynha fywyd gyda'r wraig rwyt ti'n ei charu am y cyfnod byr wyt ti yn y byd dryslyd yma. Mae'n rhodd Duw i ti am dy holl waith caled ar y ddaear. 10 Gwna dy orau glas beth bynnag wyt ti'n ei wneud. Fydd dim cyfle i weithio na myfyrio, dim gwybodaeth na doethineb ym myd y meirw lle rwyt ti'n mynd.

Sylwadau ar fywyd

11 Yna, ystyriais eto yr hyn sy'n digwydd yn y byd:

Dydy'r cyflymaf ddim bob amser yn ennill y ras,
Na'r cryfaf yn ennill y frwydr;
Dydy'r doethaf ddim yn llwyddo bob tro,
Na'r clyfraf yn cael y cyfoeth,
Dydy'r un sy'n nabod eraill ddim bob amser yn cael ei ffafrio.
Mae damweiniau'n gallu digwydd i bawb.
12 Does neb yn gwybod pryd ddaw ei amser.
Fel pysgod yn cael eu dal mewn rhwyd,
neu adar mewn magl,
mae rhyw anffawd yn gallu dod ar draws pobl yn gwbl ddirybudd.

13 Dyma enghraifft o rywbeth welais i'n digwydd, gafodd effaith mawr arna i: 14 Roedd tref fechan lle nad oedd llawer o bobl yn byw. Daeth brenin cryf i ymosod arni, ei hamgylchynu ac adeiladu rampiau mawr i warchae yn ei herbyn. 15 Ond roedd dyn tlawd oedd yn ddoeth iawn yn byw yn y dref. Dyma fe'n llwyddo i achub y dref drwy ei ddoethineb. Ac eto doedd neb yn ei gofio!

16 Dw i wedi dweud:

“Mae doethineb yn well na grym.”

Mae hynny'n wir hyd yn oed os ydy doethineb y dyn tlawd yn cael ei ddirmygu a'i eiriau'n cael eu diystyru.

Doethineb a Ffolineb

17 Mae'n well gwrando ar eiriau pwyllog y doeth
nac ar lywodraethwr yn gweiddi yng nghanol ffyliaid.
18 Mae doethineb yn well nag arfau rhyfel
ond mae un weithred ffôl yn gallu dinistrio llawer o dda.
Copyright information for CYM