Esther 9

Yr Iddewon yn trechu eu gelynion

Roedd gorchymyn y brenin i gael ei weithredu ar y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis (sef Mis Adar). Dyna'r diwrnod roedd gelynion yr Iddewon wedi tybio eu bod nhw'n mynd i gael eu trechu nhw. Ond y gwrthwyneb ddigwyddodd – cafodd yr Iddewon drechu eu gelynion. Dyma'r Iddewon yn casglu at ei gilydd yn y trefi drwy'r holl daleithiau roedd y Brenin Ahasferus yn eu rheoli. Roedden nhw'n barod i ymosod ar unrhyw un oedd yn bwriadu gwneud drwg iddyn nhw. Ond roedd ofn yr Iddewon wedi gafael yn y bobl i gyd, a doedd neb yn gallu sefyll yn eu herbyn nhw. Roedd swyddogion y taleithiau, y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr a pawb oedd yn gwasanaethu'r brenin, yn helpu'r Iddewon, am fod ganddyn nhw i gyd ofn Mordecai. Roedd Mordecai yn ddyn pwysig iawn yn y palas, ac roedd pawb drwy'r taleithiau i gyd wedi clywed amdano wrth iddo fynd yn fwy a mwy dylanwadol.

Dyma'r Iddewon yn taro eu gelynion i gyd, eu lladd a'u dinistrio. Roedden nhw'n gwneud fel y mynnon nhw. Cafodd pum cant o bobl eu lladd yn y gaer ddinesig yn Shwshan. Cafodd deg mab Haman eu lladd, sef Parshandatha, Dalffon, Aspatha, Poratha, Adalia, Aridatha, Parmashta, Arisai, Aridai a Faisatha. Ond wnaethon nhw ddim cymryd eu heiddo nhw.

11 Yr un diwrnod, dyma rywun yn dweud wrth y brenin faint o bobl oedd wedi cael eu lladd yn Shwshan. 12 A dyma'r brenin yn dweud wrth Esther, “Mae'r Iddewon wedi lladd pum cant o bobl yn y gaer yma yn Shwshan yn unig, a deg mab Haman hefyd. Beth maen nhw wedi ei wneud yn y taleithiau eraill, tybed? Gofyn am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe'i cei. Beth wyt ti eisiau i mi ei wneud? Dyna gei di!”

13 A dyma Esther yn ateb, “Os ydy'r brenin yn gweld yn dda, rho ganiatâd i'r Iddewon yn Shwshan wneud yr un peth yfory ag a wnaethon nhw heddiw; a gad i gyrff deg mab Haman gael eu hongian ar y crocbren.”

14 Felly dyma'r brenin yn gorchymyn i hynny gael ei wneud. Cafodd cyfraith ei phasio ar gyfer tref Shwshan, a cafodd cyrff meibion Haman eu hongian yn gyhoeddus. 15 Dyma'r Iddewon yn Shwshan yn casglu at ei gilydd ar y pedwerydd ar ddeg o fis Adar, a dyma nhw'n lladd tri chant arall. Ond wnaethon nhw ddim cymryd eu heiddo nhw.

16 Roedd gweddill Iddewon y taleithiau wedi dod at ei gilydd y diwrnod cynt i amddiffyn eu hunain, a cawson nhw lonydd gan eu gelynion. Roedden nhw wedi lladd saith deg pum mil o elynion i gyd, ond wnaethon nhw ddim cymryd eu heiddo nhw. A'r diwrnod wedyn, ar y pedwerydd ar ddeg o fis Adar, cawson nhw orffwys. Cafodd y diwrnod hwnnw ei wneud yn ddydd Gŵyl, i ddathlu a chynnal partïon. 18 Ond roedd Iddewon yn Shwshan wedi dod at ei gilydd i ymladd ar y trydydd ar ddeg a'r pedwerydd ar ddeg, felly dyma nhw'n gorffwys ar y pymthegfed, a gwneud hwnnw yn ddydd Gŵyl i ddathlu a chynnal partïon. 19 (A dyna pam mae'r Iddewon sy'n byw yng nghefn gwlad ac mewn pentrefi gwledig yn cadw'r pedwerydd ar ddeg o fis Adar fel diwrnod sbesial i fwynhau eu hunain a partïo, i gael gwyliau a rhoi anrhegion o fwyd i'w gilydd.)

Gŵyl Pwrim

20 Ysgrifennodd Mordecai hanes popeth oedd wedi digwydd. Wedyn anfonodd lythyrau at yr Iddewon ym mhobman, drwy'r holl daleithiau oedd o dan reolaeth y Brenin Ahasferus, 21 yn cadarnhau eu bod nhw i gymryd gwyliau bob blwyddyn ar y pedwerydd ar ddeg a'r pymthegfed o fis Adar. 22 Ar y dyddiadau yna y cawson nhw lonydd gan eu gelynion – pan drodd eu trafferthion yn llawenydd a'u galar yn ddathlu. Roedden nhw i fod yn ddyddiau o bartïo a chael hwyl, rhoi anrhegion o fwyd i'w gilydd, a rhannu gyda phobl dlawd oedd mewn angen.

23 Felly dyma'r Iddewon yn ymrwymo i wneud yr un peth bob blwyddyn, a cadw'r Ŵyl fel roedd Mordecai wedi dweud yn ei lythyr. 24 Roedd gelyn pob Iddew, sef Haman fab Hammedatha o dras Agag, wedi cynllwynio yn erbyn yr Iddewon i'w lladd nhw. Roedd wedi mynd trwy'r ddefod o daflu'r pŵr (sef math o ddeis) gyda'r bwriad o'i dinistrio a'u lladd nhw. 25 Ond pan glywodd y brenin am y cynllwyn, dyma fe'n gorchymyn mewn ysgrifen fod y pethau drwg roedd Haman wedi eu bwriadu yn erbyn yr Iddewon i ddigwydd i Haman ei hun. A dyma fe a cyrff ei feibion yn cael eu crogi. 26 A'r rheswm pam mae'r Ŵyl yn cael ei galw yn Pwrim, ydy ar ôl y gair pŵr. O achos yr hyn oedd wedi ei ysgrifennu yn y llythyr, a'r cwbl roedden nhw wedi mynd trwyddo, 27 dyma'r Iddewon yn ymrwymo y bydden nhw a'u disgynyddion, a pawb arall oedd eisiau ymuno gyda nhw, yn cadw'r ddau ddiwrnod yma yn wyliau bob blwyddyn. 28 Roedd y dyddiau yma i'w cofio a'u dathlu bob blwyddyn gan bob teulu ym mhob cenhedlaeth drwy'r taleithiau a'r trefi i gyd. Roedd yr Iddewon i wneud yn siŵr eu bod nhw a'u disgynyddion yn cadw gwyliau'r Pwrim bob amser.

29 A dyma'r Frenhines Esther ferch Afichaïl, gyda help Mordecai yr Iddew, yn ysgrifennu llythyr i gadarnhau beth oedd yn yr ail lythyr am Ŵyl Pwrim. 30 Cafodd llythyrau eu hanfon i'r Iddewon yn y cant dau ddeg saith talaith oedd dan reolaeth y Brenin Ahasferus, yn galw am heddwch a sefydlogrwydd. 31 Roedd y llythyrau yma yn dweud pryd yn union roedd Gŵyl Pwrim i gael ei chynnal. Roedd Mordecai yr Iddew wedi rhoi'r gorchymyn, a'r Frenhines Esther wedi cadarnhau y mater. A dyma'r bobl yn ymrwymo ar eu rhan eu hunain a'i disgynyddion i'w cadw, yn union fel roedden nhw wedi ymrwymo i gadw'r dyddiau i ymprydio a galaru. 32 Felly roedd gorchymyn Esther wedi cadarnhau trefniadau'r Pwrim, a cafodd y cwbl ei ysgrifennu i lawr.

Copyright information for CYM