Exodus 12

Paratoi y Pasg

Dyma'r  Arglwydd yn dweud wrth Moses ac Aaron yn yr Aifft, “Y mis yma
12:2 Y mis yma Abib (sydd hefyd yn cael ei alw yn Nisan), sef mis cyntaf y calendr Hebreig, o tua canol Mawrth i ganol Ebrill.
fydd mis cynta'r flwyddyn i chi.
Dwedwch wrth bobl Israel: Ar y degfed o'r mis rhaid i bob teulu gymryd oen neu fyn gafr i'w ladd. Os ydy'r teulu'n rhy fach i fwyta'r anifail cyfan, dylen nhw ei rannu gyda'u cymdogion. Mae'n dibynnu faint o bobl sydd yn y teulu, a faint mae pawb yn gallu ei fwyta. Rhaid iddo fod yn anifail gwryw, blwydd oed, heb ddim o'i le arno. Gall fod yn oen neu'n fyn gafr. Rhaid ei gadw ar wahân hyd y pedwerydd ar ddeg o'r mis. Yna, y noson honno, ar ôl i'r haul fachlud, bydd pobl Israel i gyd yn lladd yr oen neu'r myn gafr sydd ganddyn nhw. Wedyn maen nhw i gymryd peth o'r gwaed a'i roi ar ochrau ac ar dop ffrâm y drws i'r tŷ lle byddan nhw'n ei fwyta. Rhaid iddyn nhw ei rostio y noson honno, a'i fwyta gyda bara heb furum ynddo a llysiau chwerw. Rhaid rhostio'r anifail cyfan, gyda'i ben, ei goesau a'i berfeddion. Peidiwch bwyta'r cig os nad ydy e wedi ei goginio'n iawn, neu dim ond wedi ei ferwi. 10 Does dim ohono i fod wedi ei adael ar ôl y bore wedyn. Rhaid i unrhyw sbarion gael eu llosgi.

11 “A dyma sut mae i gael ei fwyta: Rhaid i chi fod wedi gwisgo fel petaech ar fin mynd ar daith, gyda'ch sandalau ar eich traed a'ch ffon gerdded yn eich llaw. Rhaid ei fwyta ar frys. Pasg yr  Arglwydd ydy e. 12 Dw i'n mynd i fynd trwy wlad yr Aifft y noson honno, a taro pob mab hynaf, a phob anifail gwryw oedd yn gyntaf i gael ei eni. Dw i'n mynd i farnu ‛duwiau‛ yr Aifft i gyd! Fi ydy'r  Arglwydd. 13 Mae'r gwaed fydd ar ffrâm drysau eich tai chi yn arwydd i chi. Pan fydda i'n gweld y gwaed, bydda i'n pasio heibio i chi. Fydd y pla yma ddim yn eich lladd chi pan fydda i'n taro gwlad yr Aifft. 14 Bydd yn ddiwrnod i'w gofio. Byddwch yn ei ddathlu bob blwyddyn drwy gadw gŵyl i'r  Arglwydd – dyna fydd y drefn bob amser.

Gŵyl y Bara Croyw

15 “Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo. Ar y diwrnod cyntaf rhaid cael gwared ag unrhyw beth yn y tŷ sydd â burum ynddo. Yn ystod y saith diwrnod yna, bydd unrhyw un sydd yn bwyta bara wedi ei wneud gyda burum yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel.

16 “Bydd cyfarfodydd arbennig i addoli yn cael eu cynnal ar y diwrnod cyntaf ac ar y seithfed diwrnod. A does dim gwaith i gael ei wneud ar y dyddiau hynny, ar wahân i baratoi bwyd i bawb.

17 “Dyna sut ydych chi i ddathlu Gŵyl y Bara Croyw. Dyma'r diwrnod wnes i eich arwain chi allan o'r Aifft, ac felly bydd yn rhan o'r drefn bob amser eich bod yn dathlu'r digwyddiad yn flynyddol. 18 Dim ond bara heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta o fachlud haul ar y pedwerydd ar ddeg hyd fachlud haul ar yr unfed ar hugain o'r mis cyntaf. 19 Does dim burum i fod yn eich tai o gwbl am saith diwrnod. Os bydd unrhyw un (un o bobl Israel neu rywun o'r tu allan) yn bwyta rhywbeth wedi ei wneud gyda burum, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel. 20 Peidiwch bwyta unrhyw beth wedi ei wneud gyda burum – dim ond bara heb furum ynddo.”

Y Pasg Cyntaf

21 Yna dyma Moses yn galw arweinwyr Israel at ei gilydd, ac yn dweud wrthyn nhw, “Ewch i ddewis oen neu fyn gafr i'ch teulu, i'w lladd fel aberth y Pasg. 22 Rhoi gwaed yr anifail mewn powlen, yna cymryd swp o frigau isop a'i dipio yn y gwaed a'i frwsio ar dop ac ochrau ffrâm y drws. Yna does neb i fynd allan o'r tŷ tan y bore wedyn. 23 Bydd yr  Arglwydd yn mynd trwy wlad yr Aifft yn taro'r bobl. Ond pan fydd e'n gweld y gwaed ar ffrâm drws unrhyw dŷ, bydd yn pasio heibio'r tŷ hwnnw. Fydd e ddim yn gadael i farwolaeth ddod i mewn a taro eich teulu chi.

24 “Gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch plant yn gwneud hyn. Dyna fydd y drefn bob amser. 25 Pan fyddwch yn cyrraedd y wlad mae'r  Arglwydd wedi addo ei rhoi i chi, byddwch yn dal i gadw'r ddefod yma. 26 Pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Pam ydych chi'n gwneud hyn?’ 27 dwedwch wrthyn nhw, ‘Aberth y Pasg i'r  Arglwydd ydy e, i gofio sut wnaeth e basio heibio tai pobl Israel ac achub ein teuluoedd pan wnaeth e daro gwlad yr Aifft.’”

A dyma'r bobl oedd yn gwrando ar Moses yn plygu i lawr yn isel i addoli. 28 Wedyn dyma nhw'n mynd i ffwrdd a gwneud yn union fel roedd yr  Arglwydd wedi dweud wrth Moses ac Aaron.

Gadael yr Aifft

29 Yna digwyddodd y peth! Ganol nos y noson honno dyma'r  Arglwydd yn taro meibion hynaf yr Eifftiaid, o fab hynaf y Pharo ar ei orsedd i fab hyna'r carcharor yn ei gell, a hyd yn oed pob anifail oedd y cyntaf i gael ei eni. 30 A dyma'r Pharo yn deffro ganol nos, a'i swyddogion a pobl yr Aifft i gyd yr un fath. Roedd wylofain drwy'r wlad i gyd, am fod rhywun o bob teulu wedi marw. 31 A dyma'r Pharo yn galw am Moses ac Aaron yng nghanol y nos, a dweud wrthyn nhw, “Ewch o ma! I ffwrdd â chi! Gadewch lonydd i'm pobl! – chi a pobl Israel! Ewch i addoli'r  Arglwydd fel roeddech chi eisiau. 32 Ewch â'ch anifeiliaid i gyd fel roeddech chi eisiau. I ffwrdd â chi! Ond cofiwch ofyn am fendith arna i.”

33 Roedd yr Eifftiaid yn benderfynol bellach fod rhaid i bobl Israel adael y wlad, a hynny ar frys. Roedden nhw'n meddwl, “Os arhosan nhw, byddwn ni i gyd wedi marw!”

34 Dyma bobl Israel yn cymryd y toes oedd heb furum ynddo yn eu powlenni cymysgu, eu lapio mewn dillad, a'u cario ar eu hysgwyddau. 35 Ac roedden nhw wedi gwneud beth ddwedodd Moses wrthyn nhw hefyd – roedden nhw wedi gofyn i'r Eifftiaid am bethau o aur ac arian, ac am ddillad. 36 Roedd yr  Arglwydd wedi gwneud i'r Eifftiaid roi anrhegion i bobl Israel. Roedden nhw'n cael beth bynnag oedden nhw'n gofyn amdano. Dyma nhw'n cymryd popeth oddi ar bobl yr Aifft!

37 Felly dyma bobl Israel yn teithio o Rameses i Swccoth. Roedd tua 600,000 o ddynion yn cerdded ar droed, heb sôn am y gwragedd a'r plant. 38 Roedd tyrfa gymysg o bobl wedi mynd gyda nhw, a lot fawr iawn o anifeiliaid – defaid a geifr a gwartheg. 39 Roedden nhw'n gwneud bara i'w fwyta o'r toes wnaethon nhw ei gario o'r Aifft – bara heb furum ynddo. Roedden nhw wedi cael eu gyrru allan o'r Aifft ar gymaint o frys, doedd dim amser i baratoi bwyd cyn mynd. 40 Roedd pobl Israel wedi bod yn yr Aifft ers pedwar cant tri deg o flynyddoedd.

41 Ar ddiwedd y pedwar cant tri deg o flynyddoedd, dyma bobl yr  Arglwydd yn gadael yr Aifft mewn rhengoedd trefnus fel byddin. 42 Roedd yr  Arglwydd wedi cadw'r noson yma'n arbennig i'w harwain nhw allan o wlad yr Aifft. Felly, o hyn ymlaen, ar y noson yma, mae pobl Israel i gyd i fod i gadw gwylnos i'r  Arglwydd.

Sut i ddathlu'r Pasg

43 Dyma'r  Arglwydd yn dweud wrth Moses ac Aaron, “Dyma reolau'r Pasg. Dydy pobl o'r tu allan ddim i gael bwyta ohono – 44 dim ond caethweision sydd wedi eu prynu ac wedi bod trwy'r ddefod o gael eu henwaedu. 45 Dydy mewnfudwyr neu weithwyr sy'n derbyn cyflog ddim i gael bwyta ohono. 46 Rhaid ei fwyta yn y tŷ, a peidio mynd â dim o'r cig allan. A does dim un o'i esgyrn i gael ei dorri. 47 Mae pobl Israel i gyd i gadw'r Ŵyl yma.

48 “Os ydy mewnfudwyr eisiau dathlu Pasg yr  Arglwydd, rhaid i'r dynion a'r bechgyn fynd trwy ddefod enwaediad gyntaf. Wedyn byddan nhw'n gallu cymryd rhan – byddan nhw'n cael eu hystyried fel un o'ch pobl chi. Ond does neb sydd heb gael ei enwaedu i gael bwyta o'r Pasg. 49 Mae'r rheol hon yr un fath i bawb – Israeliaid a mewnfudwyr fel ei gilydd.”

50 Felly dyma bobl Israel yn gwneud yn union fel roedd yr  Arglwydd wedi dweud wrth Moses ac Aaron. 51 Ar yr union ddiwrnod yma dyma'r  Arglwydd yn dod a pobl Israel allan o'r Aifft, yn drefnus fel byddin.

Copyright information for CYM