Exodus 13

Dyma'r  Arglwydd yn dweud wrth Moses: “Rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi piau nhw.”

Gŵyl y Bara Croyw

Dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Mae'r diwrnod yma pan ddaethoch chi allan o'r Aifft, yn ddiwrnod i'w gofio. Roeddech chi'n gaethion yno, a dyma'r  Arglwydd yn defnyddio ei nerth i'ch rhyddhau chi. Ond peidiwch bwyta bara wedi ei wneud gyda burum pan fyddwch chi'n dathlu. Dyma'r diwrnod, ym mis Abib, pan aethoch chi allan. A pan fydd yr  Arglwydd wedi dod â chi i'r wlad wnaeth e addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi – gwlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Hefiaid, a Jebwsiaid; gwlad ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo – byddwch yn dathlu ar y mis yma bob blwyddyn. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo, yna ar y seithfed diwrnod cadw gŵyl i'r  Arglwydd. Rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod. Does dim bara wedi ei wneud gyda burum, na hyd yn oed y burum ei hun i fod yn unman. Yna dych chi i esbonio i'ch plant, ‘Dŷn ni'n gwneud hyn i gofio beth wnaeth yr  Arglwydd droson ni pan ddaethon ni allan o'r Aifft.’ Bydd fel arwydd ar eich llaw neu farc ar eich talcen, yn eich atgoffa chi i siarad am beth roedd yr  Arglwydd wedi ei ddysgu i chi. Roedd e wedi defnyddio ei nerth i ddod â chi allan o'r Aifft. 10 Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn ar yr amser iawn bob blwyddyn.

Cysegru'r mab cyntaf i gael ei eni

11 “Pan fydd yr  Arglwydd wedi dod â chi i wlad y Canaaneaid, fel gwnaeth e addo i'ch hynafiaid chi, 12 rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi, yr  Arglwydd sydd piau nhw. 13 Gellir prynu'n ôl pob asyn cyntaf i gael ei eni drwy roi oen neu fyn gafr yn ei le. Os nad ydy e'n cael ei brynu rhaid ei ladd drwy dorri ei wddf. A rhaid i fab cyntaf pob gwraig gael ei brynu'n ôl hefyd. 14 Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy ystyr hyn?’ dych chi i'w hateb, ‘yr  Arglwydd wnaeth ddefnyddio ei nerth i ddod â ni allan o'r Aifft, lle roedden ni'n gaethion. 15 Roedd y Pharo yn gwrthod ein gollwng ni'n rhydd, felly dyma'r  Arglwydd yn lladd pob mab hynaf a phob anifail gwryw oedd gyntaf i gael ei eni. Dyna pam dŷn ni'n aberthu pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni i'r  Arglwydd. Ond dŷn ni'n prynu'n ôl pob mab sydd y cyntaf i gael ei eni.’ 16 Bydd fel arwydd ar eich llaw neu rywbeth yn cael ei wisgo ar y talcen, i'ch atgoffa fod yr  Arglwydd wedi defnyddio ei nerth i ddod â ni allan o'r Aifft.”

Y daith at y Môr Coch

17 Pan wnaeth y Pharo adael i'r bobl fynd, wnaeth Duw ddim eu harwain nhw i wlad y Philistiaid, er mai dyna fyddai'r ffordd gyntaf. Doedd gan Dduw ddim eisiau i'r bobl newid eu meddyliau a mynd yn ôl i'r Aifft pan oedd y Philistiaid yn bygwth rhyfela yn eu herbyn nhw. 18 Felly dyma Duw yn mynd â'r bobl drwy'r anialwch at y Môr Coch.
13:18 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”.
Aeth pobl Israel allan o'r Aifft fel byddin yn ei rhengoedd.

19 Dyma Moses yn mynd ag esgyrn Joseff gyda nhw. Roedd Joseff wedi gwneud i bobl Israel addo, “Dw i'n gwybod y bydd Duw yn gofalu amdanoch chi. Dw i eisiau i chi fynd â'm hesgyrn i gyda chi o'r lle yma.”

20 Dyma nhw'n gadael Swccoth ac yn gwersylla yn Etham wrth ymyl yr anialwch. 21 Roedd yr  Arglwydd yn arwain y ffordd mewn colofn o niwl yn ystod y dydd, a cholofn o dân yn y nos. Felly roedden nhw'n gallu teithio yn y dydd neu'r nos. 22 Roedd y golofn o niwl gyda nhw bob amser yn y dydd, a'r golofn o dân yn y nos.

Copyright information for CYM