Exodus 15

Y Gân wrth y Môr Coch

Dyma Moses a pobl Israel yn canu'r gân yma i'r  Arglwydd:

“Dw i am ganu i'r  Arglwydd
a dathlu ei fuddugoliaeth:
Mae e wedi taflu'r ceffylau
a'u marchogion i'r môr!
Yr  Arglwydd sy'n rhoi nerth a chân i mi!
Fe sydd wedi fy achub i.
Dyma'r Duw dw i'n ei addoli –
Duw fy nhad, a dw i'n mynd i'w ganmol!
Yr  Arglwydd ydy ei enw e.
Mae'r  Arglwydd yn rhyfelwr.
Mae wedi taflu cerbydau y Pharo
a'i fyddin i gyd i'r môr!
Cafodd eu swyddogion gorau
eu boddi yn y Môr Coch.
15:4 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”.

Daeth y dŵr dwfn drostyn nhw,
a dyma nhw'n suddo i'r gwaelod fel carreg.
Mae dy law gref yn rhyfeddol,  Arglwydd;
dy law gref di wnaeth ddryllio'r gelyn.
Am dy fod mor aruthrol fawr,
rwyt ti'n bwrw i lawr y rhai sy'n codi yn dy erbyn –
Ti'n dangos dy fod yn ddig,
ac maen nhw'n cael eu difa fel bonion gwellt.
Wrth i ti chwythu dyma'r dŵr yn codi'n bentwr,
y llif yn sefyll fel argae,
a'r dŵr dwfn wedi caledu yng nghanol y môr.
Dyma'r gelyn yn dweud,
‘Ar eu holau nhw! Dalia i nhw,
a rhannu'r ysbail!
Dw i'n mynd i gael amser da!
Fydd neb ar ôl i'r cleddyf ei daro –
dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr!’
10 Ond dyma ti'n chwythu,
a dyma'r môr yn llifo drostyn nhw!
Dyma nhw'n suddo fel plwm yn y tonnau gwyllt!
11 Pa un o'r duwiau sy'n debyg i ti,  Arglwydd?
Does neb tebyg i ti –
mor wych, ac mor sanctaidd,
yn haeddu dy barchu a dy foli;
ti'n gwneud gwyrthiau rhyfeddol!
12 Dyma ti'n codi dy law gref
a dyma'r ddaear yn llyncu'r gelyn!
13 Yn dy gariad byddi'n arwain
y bobl rwyt wedi eu rhyddhau;
byddi'n eu tywys yn dy nerth
i'r lle cysegredig lle rwyt yn byw.
14 Bydd y bobloedd yn clywed ac yn crynu –
bydd pobl Philistia yn poeni,
15 ac arweinwyr Edom wedi brawychu.
Bydd dynion cryf Moab yn crynu,
a pobl Canaan yn poeni.
16 Bydd ofn a braw yn dod drostyn nhw –
mae dy gryfder di yn eu gwneud yn fud
fel carreg.
Fyddan nhw'n gwneud dim nes bydd dy bobl
wedi pasio heibio,  Arglwydd;
y bobl wnest ti eu prynu wedi pasio heibio.
17 Ond byddi'n mynd â nhw i mewn
ac yn eu plannu ar dy fynydd dy hun –
ble rwyt ti wedi dewis byw,  Arglwydd;
y cysegr rwyt ti wedi ei sefydlu.
18 Yr  Arglwydd sy'n teyrnasu am byth bythoedd!
19 Pan aeth ceffylau y Pharo, a'i gerbydau a'i filwyr i'r môr,
dyma'r  Arglwydd yn gwneud i ddŵr y môr lifo'n ôl drostyn nhw.
Ond roedd pobl Israel wedi cerdded ar dir sych drwy ganol y môr.”

Miriam a'r merched yn dawnsio

20 Yna dyma Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, yn gafael mewn drwm llaw, a dyma'r merched i gyd yn codi drymiau a mynd ar ei hôl gan ddawnsio.

21 A dyma Miriam yn canu'r gytgan:

“Canwch i'r  Arglwydd
i ddathlu ei fuddugoliaeth!
Mae e wedi taflu'r ceffylau
a'u marchogion i'r môr!”

Dŵr chwerw Mara

22 Dyma Moses yn cael pobl Israel i symud ymlaen oddi wrth y Môr Coch. Dyma nhw'n mynd allan i Anialwch Shwr. Buon nhw'n cerdded yn yr anialwch am dri diwrnod heb ddod o hyd i ddŵr. 23 Yna dyma nhw'n cyrraedd Mara, ond roedden nhw'n methu yfed y dŵr yno am ei fod mor chwerw. (Dyna pam roedd yn cael ei alw yn Mara – sef “Chwerw.”) 24 Dyma'r bobl yn dechrau troi yn erbyn Moses. “Beth ydyn ni'n mynd i'w yfed?” medden nhw. 25 Dyma Moses yn gweddïo'n daer am help, a dyma'r  Arglwydd yn ei arwain at ddarn o bren. Ar ôl i Moses ei daflu i'r dŵr roedd y dŵr yn iawn i'w yfed.

Yn Mara dyma'r  Arglwydd yn rhoi rheol iddyn nhw, er mwyn profi pa mor ffyddlon oedden nhw:
26 “Os byddwch chi'n ufudd i'r  Arglwydd eich Duw, a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg e, gwrando ar beth mae'n ei ddweud a chadw at ei reolau, fydd dim rhaid i chi ddiodde'r afiechydon wnes i daro'r Eifftiaid gyda nhw. Fi ydy'r  Arglwydd sy'n eich iacháu chi.”

27 Yna dyma nhw'n cyrraedd Elim, lle roedd un deg dwy o ffynhonnau a saith deg o goed palmwydd. A dyma nhw'n gwersylla yno wrth ymyl y ffynhonnau.

Copyright information for CYM