Exodus 16

Yna dyma bobl Israel yn gadael Elim, a cyrraedd Anialwch Sin sydd rhwng Elim a Sinai, ar y pymthegfed diwrnod o'r ail fis ers iddyn nhw adael gwlad yr Aifft. Pan oedden nhw yn yr anialwch dyma nhw i gyd yn dechrau ymosod ar Moses ac Aaron unwaith eto. “Byddai'n well petai'r  Arglwydd wedi gadael i ni farw yn yr Aifft! O leia roedd gynnon ni ddigon o gig a bwyd i'w fwyta yno. Ond rwyt ti wedi dod â ni i gyd allan i'r anialwch yma i lwgu i farwolaeth!”

Y manna a'r soflieir

Yna dyma'r  Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Dw i'n mynd i wneud i fara ddisgyn o'r awyr fel glaw arnoch chi. Bydd rhaid i'r bobl fynd allan i gasglu yr hyn sydd ei angen arnyn nhw bob dydd. Bydda i'n eu profi nhw i weld os gwnân nhw wrando ar beth dw i'n ddweud ai peidio. Ar chweched diwrnod pob wythnos maen nhw i gasglu dwywaith cymaint ag roedden nhw wedi ei gasglu bob diwrnod arall.”

Felly dyma Moses ac Aaron yn dweud wrth bobl Israel, “Erbyn gyda'r nos heno, byddwch chi'n gwybod mai'r  Arglwydd sydd wedi dod â chi allan o wlad yr Aifft. A bore yfory byddwch chi'n gweld ysblander yr  Arglwydd. Mae e wedi eich clywed chi'n ymosod arno. Dŷn ni'n neb. Fe ydy'r un dych chi wedi bod yn ymosod arno, nid ni.” Ac meddai Moses, “Byddwch chi'n deall yn iawn pan fydd yr  Arglwydd yn rhoi cig i chi ei fwyta gyda'r nos, a digonedd o fara yn y bore. Mae'r  Arglwydd wedi eich clywed chi'n ymosod arno. Dŷn ni'n neb. Yr  Arglwydd ydy'r un dych chi wedi bod yn ymosod arno, nid ni!”

Yna dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Galw'r dyrfa o bobl Israel i gyd at ei gilydd. Dywed wrthyn nhw, ‘Dewch yma i sefyll o flaen yr  Arglwydd. Mae e wedi eich clywed chi'n ymosod arno.’”

10 Tra roedd Aaron yn annerch pobl Israel i gyd, dyma nhw'n edrych i gyfeiriad yr anialwch a gweld ysblander yr  Arglwydd yn disgleirio o'r golofn niwl. 11 A dyma'r  Arglwydd yn dweud wrth Moses: 12 “Dw i wedi clywed fel mae pobl Israel yn ymosod arna i. Dywed wrthyn nhw, ‘Byddwch yn cael cig i'w fwyta gyda'r nos, ac yn y bore byddwch yn cael llond eich bol o fara. Byddwch yn deall wedyn mai fi ydy'r  Arglwydd eich Duw chi.’”

13 Gyda'r nos dyma soflieir yn dod ac yn glanio yn y gwersyll – roedden nhw dros bobman! Yna yn y bore roedd haenen o wlith o gwmpas y gwersyll. 14 Pan oedd y gwlith wedi codi roedd rhyw stwff tebyg i haen denau o farrug yn gorchuddio'r anialwch. 15 Pan welodd pobl Israel e, dyma nhw'n gofyn i'w gilydd, “Beth ydy e?” Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd e. A dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Dyma'r bara mae'r  Arglwydd wedi ei roi i chi i'w fwyta. 16 A dyma beth mae'r  Arglwydd wedi ei orchymyn: ‘Mae pawb i gasglu'r hyn sydd ei angen ar eu teulu nhw – tua dau chwart y person. Dylech gasglu digon i bawb sy'n aros yn eich pabell.’”

17 Felly dyma bobl Israel yn mynd allan i'w gasglu – rhai ohonyn nhw yn casglu mwy na'i gilydd. 18 Ond wrth iddyn nhw fesur faint oedd pawb wedi ei gasglu, doedd dim byd dros ben gan y rhai gasglodd lawer, a doedd y rhai gasglodd ychydig ddim yn brin. Roedd gan bawb faint oedd ei angen arnyn nhw.

19 Yna dyma Moses yn dweud, “Peidiwch cadw dim ohono dros nos.” 20 Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Roedd rhai wedi ceisio cadw peth ohono dros nos, ac erbyn y bore wedyn roedd cynrhon ynddo ac roedd yn drewi. Roedd Moses wedi gwylltio gyda nhw.

21 Felly, roedd y bobl yn mynd allan bob bore, i gasglu faint roedden nhw ei angen. Ond wrth i'r haul gynhesu roedd yn toddi. 22 Ar y chweched diwrnod roedden nhw'n casglu dwywaith cymaint, sef pedwar chwart y person. A dyma arweinwyr y bobl yn mynd i ofyn pam i Moses. 23 A dyma fe'n ateb, “Dyma ddwedodd yr  Arglwydd: ‘Rhaid i chi beidio gweithio yfory, mae'n Saboth wedi ei gysegru i'r  Arglwydd. Beth bynnag ydych chi am ei bobi neu ei ferwi, gwnewch hynny heddiw. Wedyn cadw beth bynnag sydd dros ben at yfory.’”

24 Felly dyma nhw'n cadw beth oedd dros ben tan y bore, fel roedd Moses wedi dweud. Wnaeth e ddim drewi, a doedd dim cynrhon ynddo. 25 Ac meddai Moses, “Dyna sydd i'w fwyta heddiw, gan fod y diwrnod yma yn Saboth i'r  Arglwydd. Fydd dim ohono i'w gael allan ar lawr heddiw. 26 Gallwch ei gasglu am chwe diwrnod, ond fydd dim yna ar y seithfed, sef y Saboth.” 27 Ond er hynny, ar y seithfed diwrnod dyma rai pobl yn mynd allan i'w gasglu, ond doedd dim byd yno. 28 A dyma'r  Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Am faint ydych chi'n mynd i wrthod gwrando arna i a gwneud beth dw i'n ddweud? 29 Am fod yr  Arglwydd wedi rhoi'r Saboth i chi, dyna pam mae e'n rhoi digon o fwyd i chi am ddau ddiwrnod ar y chweched dydd. Dylech chi i gyd eistedd i lawr, a peidio mynd allan ar y seithfed diwrnod.” 30 Felly dyma'r bobl yn gorffwys ar y seithfed diwrnod.

31 Galwodd pobl Israel y stwff yn “manna.” Roedd yn edrych fel hadau coriander, yn wyn, ac yn blasu fel bisgedi wedi eu gwneud gyda mêl. 32 A dyma Moses yn rhoi'r gorchymyn yma gan yr  Arglwydd iddyn nhw: “Cadwch ddau chwart ohono i'w gadw am byth, er mwyn i bobl yn y dyfodol gael gweld y bwyd wnes i ei roi i chi yn yr anialwch, pan ddes i â chi allan o wlad yr Aifft.” 33 A dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Cymer jar, a rhoi dau chwart llawn o'r manna ynddo, a'i osod o flaen yr  Arglwydd, i'w gadw'n saff ar hyd y cenedlaethau.” 34 A dyna wnaeth Aaron, yn union fel roedd yr  Arglwydd wedi dweud wrth Moses. Dyma fe'n ei osod o flaen Arch y Dystiolaeth, i'w gadw'n saff.

35 Bu pobl Israel yn bwyta'r manna am bedwar deg o flynyddoedd, nes iddyn nhw gyrraedd gwlad Canaan ble gwnaethon nhw setlo i lawr. 36 (Omer oedd y mesur o ddau chwart oedd yn cael ei ddefnyddio, sef un rhan o ddeg o effa.)

Copyright information for CYM