Exodus 33

Duw yn gorchymyn i'r bobl adael Mynydd Sinai

Dyma'r  Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Dos di yn dy flaen – ti a'r bobl wnest ti eu harwain allan o wlad yr Aifft. Ewch i'r wlad wnes i addo i Abraham, Isaac a Jacob, ‘Dw i'n mynd i'w rhoi hi i'ch disgynyddion chi.’ Dw i'n mynd i anfon angel o'ch blaen chi, a gyrru allan y Canaaneaid, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Ond dw i ddim am fynd gyda chi. Dych chi'n bobl ystyfnig, a falle y bydda i'n eich dinistrio chi ar y ffordd.”

Dyna oedd newyddion drwg! Pan glywodd y bobl hynny, dyma nhw'n dechrau galaru. Doedd neb yn gwisgo tlysau, am fod yr  Arglwydd wedi dweud wrth Moses, “Dywed wrth bobl Israel, ‘Dych chi'n bobl ystyfnig. Petawn i'n mynd gyda chi dim ond am foment, falle y byddwn i'n eich dinistrio chi. Felly tynnwch eich tlysau i ffwrdd, i mi benderfynu beth i'w wneud gyda chi.’” Felly dyma bobl Israel yn tynnu eu tlysau i gyd i ffwrdd pan oedden nhw wrth Fynydd Sinai.
33:6 Sinai Hebraeg, “Horeb”, sef enw arall ar Fynydd Sinai

Y babell tu allan i'r gwersyll

Byddai Moses yn cymryd y babell, ac yn ei chodi tu allan i'r gwersyll, gryn bellter i ffwrdd. Galwodd hi yn babell cyfarfod Duw. Os oedd rhywun eisiau gwybod rhywbeth gan yr  Arglwydd, byddai'n mynd at y babell yma tu allan i'r gwersyll.

Pan fyddai Moses yn mynd allan i'r babell, byddai'r bobl i gyd yn sefyll tu allan i'w pebyll eu hunain, ac yn gwylio Moses nes iddo fynd i mewn i'r babell. Bob tro y byddai Moses yn mynd i mewn iddi, byddai colofn o niwl yn dod i lawr ac yn sefyll tu allan i'r fynedfa tra roedd yr  Arglwydd yn siarad â Moses. 10 Pan oedd pawb yn gweld y golofn o niwl yn sefyll wrth y fynedfa, bydden nhw'n dod i sefyll wrth fynedfa eu pebyll eu hunain, ac yn addoli. 11 Byddai'r  Arglwydd yn siarad wyneb yn wyneb gyda Moses, fel byddai rhywun yn siarad â ffrind. Yna byddai Moses yn dod yn ôl i'r gwersyll. Ond roedd ei was, y bachgen ifanc Josua fab Nwn, yn aros yn y babell drwy'r amser.

Duw yn addo bod gyda'i bobl

12 Dyma Moses yn dweud wrth yr  Arglwydd, “Ti wedi bod yn dweud wrtho i, ‘Tyrd â'r bobl yma allan,’ ond dwyt ti ddim wedi gadael i mi wybod pwy fydd yn mynd hefo fi. Rwyt ti hefyd wedi dweud, ‘Dw i wedi dy ddewis di, ac wedi bod yn garedig atat ti.’ 13 Os ydy hynny'n wir, dangos i mi beth rwyt ti am ei wneud, i mi ddeall yn well a dal ati i dy blesio di. A cofia mai dy bobl di ydy'r rhain.”

14 Dyma'r  Arglwydd yn ei ateb, “Bydda i fy hun yn mynd, ac yn gwneud yn siŵr y byddi di'n iawn.” 15 A dyma Moses yn ei ateb, “Wnawn ni ddim symud cam os na ddoi di gyda ni. 16 Sut arall mae pobl yn mynd i wybod mor garedig rwyt ti wedi bod ata i a dy bobl? Sut arall maen nhw i wybod ein bod ni'n sbesial ac yn wahanol i bawb arall drwy'r byd i gyd?”

17 Dyma'r  Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Iawn, bydda i'n gwneud beth rwyt ti'n ei ofyn. Ti wedi fy mhlesio i, a dw i wedi dy ddewis di.”

18 Dyma Moses yn dweud, “Dangos dy ysblander i mi.” 19 A dyma'r  Arglwydd yn ateb, “Dw i am adael i ti gael cipolwg bach o mor dda ydw i. A dw i'n mynd i gyhoeddi fy enw, ‘yr  Arglwydd’ o dy flaen di. Fi sy'n dewis pwy i drugarhau wrthyn nhw, a phwy dw i'n mynd i dosturio wrthyn nhw.” 20 Yna dwedodd, “Ond gei di ddim gweld fy wyneb i. Does neb yn edrych arna i ac yn byw wedyn.”

21 A dyma'r  Arglwydd yn dweud, “Edrych, mae yna le i ti sefyll ar y graig yn y fan yma. 22 Pan fydd fy ysblander i'n mynd heibio, bydda i'n dy guddio di mewn hollt yn y graig, a rhoi fy llaw drosot ti wrth i mi fynd heibio. 23 Wedyn bydda i'n cymryd fy llaw i ffwrdd, a gadael i ti edrych ar fy nghefn i. Does neb yn cael gweld fy wyneb i.”

Copyright information for CYM