Exodus 34

Y ddwy lechen garreg newydd

(Deuteronomium 10:1-5)

Dyma'r  Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Cerfia ddwy lechen garreg fel y rhai cyntaf. Gwna i ysgrifennu arnyn nhw beth oedd ar y llechi wnest ti eu malu. Bydd barod i ddringo mynydd Sinai yn y bore, a sefyll yno ar ben y mynydd i'm cyfarfod i. Does neb arall i ddod gyda ti. Does neb arall i ddod yn agos at y mynydd. Paid hyd yn oed gadael i'r defaid a'r geifr a'r gwartheg bori o flaen y mynydd.”

Felly dyma Moses yn cerfio dwy lechen garreg fel y rhai cyntaf. Yna'n gynnar y bore wedyn aeth i fyny i ben Mynydd Sinai, fel roedd yr  Arglwydd wedi dweud wrtho. Aeth â'r ddwy lechen gydag e. A dyma'r  Arglwydd yn dod i lawr yn y cwmwl, sefyll yna gydag e, a chyhoeddi mai ei enw ydy yr  Arglwydd. Dyma'r  Arglwydd yn pasio heibio o'i flaen a chyhoeddi, “Yr  Arglwydd! Yr  Arglwydd! mae'n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a'i haelioni a'i ffyddlondeb yn anhygoel! Mae'n dangos cariad di-droi-nôl am fil o genedlaethau, ac yn maddau beiau, gwrthryfel a phechod. Ond dydy e ddim yn gadael i'r euog fynd heb ei gosbi. Bydd yn ymateb i bechodau'r tadau sy'n gadael eu hôl ar eu plant a'u plant hwythau – am dair neu bedair cenhedlaeth.” Ac ar unwaith dyma Moses yn ymgrymu yn isel i addoli, a dweud, “Meistr, os ydw i wedi dy blesio di, wnei di, Meistr, fynd gyda ni? Mae'r bobl yma yn ystyfnig, ond plîs wnei di faddau ein beiau a'n pechod ni, a'n derbyn ni yn bobl arbennig i ti dy hun?”

Yr  Arglwydd yn adnewyddu ei ymrwymiad

(Exodus 23:14-19; Deuteronomium 7:1-5; 16:1-17)

10 Atebodd Duw, “Iawn. Dw i'n gwneud ymrwymiad. Dw i'n mynd i wneud pethau rhyfeddol does neb yn unman wedi eu dychmygu o'r blaen. Bydd y bobl rwyt ti'n byw yn eu canol nhw yn gweld beth mae'r  Arglwydd yn ei wneud. Dw i'n gwneud rhywbeth anhygoel gyda ti. 11 Gwna'n siŵr dy fod ti'n gwneud beth dw i'n ddweud wrthot ti heddiw.

“Dw i'n mynd i yrru allan o'ch blaen chi yr Amoriaid, Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. 12 Gwyliwch chi eich bod chi ddim yn gwneud cytundeb gwleidyddol gyda'r bobl hynny sy'n byw yn y wlad lle dych chi'n mynd, rhag iddyn nhw eich baglu chi. 13 Dw i eisiau i chi ddinistrio eu hallorau, malu'r colofnau cysegredig, a thorri polion y dduwies Ashera i lawr. 14 Peidiwch plygu i addoli unrhyw dduw arall. Mae'r  Arglwydd yn Dduw eiddigeddus – Eiddigedd ydy ei enw e. 15 Gwyliwch eich bod chi ddim yn gwneud cytundeb gwleidyddol gyda'r bobl sy'n byw yn y wlad. Y peryg wedyn ydy y byddwch chi'n derbyn gwahoddiad i fwyta gyda nhw pan fyddan nhw'n addoli ac yn aberthu i'w duwiau. 16 Byddwch chi'n gadael i'ch meibion briodi eu merched nhw. Bydd y rheiny yn addoli eu duwiau, ac yn cael eich meibion chi i fod yn anffyddlon i mi a gwneud yr un fath. 17 Peidiwch gwneud duwiau o fetel tawdd.

18 “Rhaid i chi gadw Gŵyl y Bara Croyw. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo, fel gwnes i orchymyn i chi. Mae hyn i ddigwydd ar yr amser iawn ym Mis Abib, am mai dyna pryd ddaethoch chi allan o'r Aifft. 19 Mae mab cyntaf pob gwraig, a pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, yn perthyn i mi – o'r gwartheg, defaid a geifr. 20 Mae'r asyn bach cyntaf i gael ei eni i gael ei brynu yn ôl gydag oen. Os nad ydy e'n cael ei brynu, rhaid ei ladd drwy dorri ei wddf.

“Rhaid i fab cyntaf pob gwraig gael ei brynu'n ôl. A does neb i ddod ata i heb rywbeth i'w offrymu. 21 Cewch weithio am chwe diwrnod, ond rhaid i chi orffwys ar y seithfed. Rhaid i chi orffwys hyd yn oed os ydy hi'n amser i aredig neu i gasglu'r cnydau.

22 “Rhaid i chi gadw Gŵyl y Cynhaeaf
34:22 Gŵyl y Cynhaeaf Hebraeg, “Gŵyl yr Wythnosau”
– gyda ffrwyth cyntaf y cynhaeaf gwenith – a Gŵyl Casglu'r Cynhaeaf ar ddiwedd y flwyddyn.

23 “Felly, dair gwaith bob blwyddyn mae'r dynion i gyd i ddod o flaen y Meistr, yr  Arglwydd, sef Duw Israel. 24 Dw i'n mynd i yrru allan bobloedd o dy flaen di a rhoi mwy eto o dir i ti. Ac os byddi di'n ymddangos o flaen yr  Arglwydd dy Dduw dair gwaith bob blwyddyn, fydd neb yn dod ac yn ceisio dwyn dy dir oddi arnat ti.

25 Rhaid peidio offrymu gwaed anifail sydd wedi ei aberthu gyda bara sydd â burum ynddo. A does dim o aberth Gŵyl y Pasg i fod wedi ei adael ar ôl y bore wedyn.
26 Tyrd â ffrwyth cyntaf gorau dy dir i deml yr  Arglwydd dy Dduw.
Paid berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.”

27 Yna dyma'r  Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Ysgrifenna hyn i gyd i lawr. Dyma amodau'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda ti a phobl Israel.”

28 Roedd Moses yno gyda Duw am bedwar deg diwrnod, ddydd a nos. Wnaeth e ddim bwyta nac yfed o gwbl. A dyma fe'n ysgrifennu amodau'r ymrwymiad ar y llechi – sef y Deg Gorchymyn.

Moses yn dod i lawr o ben Mynydd Sinai

29 Pan ddaeth Moses i lawr o ben Mynydd Sinai gyda dwy lechen y dystiolaeth yn ei law, doedd e ddim yn sylweddoli fod ei wyneb wedi bod yn disgleirio wrth i'r  Arglwydd siarad gydag e. 30 Pan welodd Aaron a phobl Israel Moses yn dod, roedd ei wyneb yn dal i ddisgleirio, ac roedd ganddyn nhw ofn mynd yn agos ato. 31 Ond dyma Moses yn galw arnyn nhw, a dyma Aaron a'r arweinwyr eraill yn dod yn ôl i siarad gydag e. 32 Wedyn dyma'r bobl i gyd yn dod draw ato, a dyma Moses yn dweud wrthyn nhw beth oedd y gorchmynion roedd Duw wedi ei roi iddo ar Fynydd Sinai.

33 Pan oedd Moses wedi gorffen siarad â nhw, byddai'n rhoi gorchudd dros ei wyneb. 34 Ond pan fyddai'n mynd i mewn i siarad â'r  Arglwydd byddai'n tynnu'r gorchudd i ffwrdd nes byddai'n dod allan eto. Wedyn byddai'n dweud wrth bobl Israel beth roedd yr  Arglwydd wedi ei orchymyn iddo, 35 a byddai pobl Israel yn gweld wyneb Moses yn disgleirio. Yna byddai'n rhoi'r gorchudd yn ôl dros ei wyneb nes byddai'n mynd yn ôl i siarad â'r  Arglwydd eto.

Copyright information for CYM