Ezekiel 19

Cân i alaru am Israel

“Dw i am i ti ganu cân i alaru am arweinwyr Israel. Dywed fel hyn:

‘Sut un oedd dy fam di?
Onid llewes gyda'r llewod,
yn gorwedd gyda'r llewod ifanc
ac yn magu ei chenawon?
Magodd un o'i chenawon,
a thyfodd i fod yn llew ifanc cryf.
Dysgodd sut i hela a rhwygo ei ysglyfaeth;
roedd yn bwyta cnawd dynol.
Clywodd y gwledydd o'i gwmpas amdano,
a chafodd ei ddal yn eu trap.
Dyma nhw'n ei gymryd gyda bachau
yn gaeth i'r Aifft.
Pan welodd y fam ei fod wedi mynd,
a bod ei gobaith wedi chwalu,
cymerodd un arall o'i chenawon,
a'i fagu i fod yn llew ifanc cryf.
Cerddodd yng nghanol y llewod,
wedi tyfu i fod yn llew ifanc cryf.
Dysgodd sut i hela a rhwygo ei ysglyfaeth;
roedd yn bwyta cnawd dynol.
Cymerodd y gweddwon iddo'i hun
a dinistrio'r trefi'n llwyr.
Pan oedd yn rhuo,
roedd yn codi ofn ar bawb drwy'r wlad.
Daeth byddinoedd y gwledydd o'i gwmpas
i ymosod arno.
Dyma nhw'n taflu eu rhwyd drosto
a'i ddal yn eu trap;
rhoi coler a bachyn am ei wddf,
a mynd ag e at frenin Babilon.
Cafodd ei ddal yn gaeth yn y carchar
fel bod ei ruo i'w glywed ddim mwy
ar fynyddoedd Israel.
10 Roedd dy fam fel gwinwydden gyda brigau hirion
wedi ei phlannu ar lan y dŵr.
Roedd ei changhennau yn llawn ffrwyth
am fod digon o ddŵr iddi.
11 Tyfodd ei changhennau'n ddigon cryf
i wneud teyrnwialen brenin ohonyn nhw.
Tyfodd yn uchel at y cymylau;
roedd pawb yn ei gweld am ei bod mor dal ac mor ganghennog.
12 Ond cafodd ei thynnu o'r gwraidd
a'i thaflu ar lawr.
Chwythodd gwynt poeth y dwyrain
a chrino ei changhennau ffrwythlon.
Llosgodd yn y tân.
13 Bellach mae wedi ei phlannu yn yr anialwch
mewn tir sych, cras.
14 Lledodd y tân o'i changen gref
a'i llosgi o'i gwraidd i'w brigau.
Doedd dim cangen ddigon cryf ar ôl
i wneud teyrnwialen ohoni.’
Dyma gân i alaru! Cân ar gyfer angladd ydy hi!”
Copyright information for CYM