cLefiticus 18:5 (gw. hefyd Eseciel 20:13,21)

Ezekiel 20

Gwrthryfel Israel

Roedd hi'r seithfed flwyddyn ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y degfed diwrnod o'r pumed mis.
20:1 degfed diwrnod o'r pumed mis Awst 14, 591 CC mae'n debyg.
A dyma rai o arweinwyr Israel yn dod ac yn eistedd o'm blaen i a gofyn am arweiniad gan yr  Arglwydd.

Dyma'r  Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, dywed wrth arweinwyr Israel, ‘Dyma mae'r  Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dych chi eisiau i mi roi arweiniad i chi, ydych chi? Wel, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, gewch chi ddim arweiniad gen i, meddai'r Meistr, yr  Arglwydd.’

“Ddyn, wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn? Wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn, a'u cael nhw i wynebu'r pethau ffiaidd wnaeth eu hynafiaid? Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r  Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Pan ddewisais Israel a cyflwyno fy hun i ddisgynyddion Jacob, dyma fi'n tyngu llw ac yn addo iddyn nhw, “Fi ydy'r  Arglwydd, eich Duw chi.” Dyma fi'n addo eu rhyddhau nhw o wlad yr Aifft, a'u harwain nhw i wlad roeddwn i wedi ei dewis yn arbennig ar eu cyfer. b  Tir lle roedd llaeth a mêl yn llifo! Y wlad harddaf o'r cwbl i gyd! Dywedais, “Rhaid i chi gael gwared â'r eilun-dduwiau ffiaidd dych chi'n eu haddoli. Stopiwch lygru'ch hunain gydag eilunod yr Aifft. Fi ydy'r  Arglwydd, eich Duw chi.” Ond roedden nhw'n tynnu'n groes i mi, ac yn gwrthod gwrando. Wnaethon nhw ddim cael gwared â'i heilun-dduwiau ffiaidd, na throi cefn ar eilunod yr Aifft. Dyma fi'n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw, a dangos faint roeddwn i wedi gwylltio pan oedden nhw'n dal yn yr Aifft, ond wnes i ddim. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl o'u cwmpas nhw. Roeddwn i am ddangos sut un oeddwn i drwy ddod â nhw allan o'r Aifft.

10 “‘A dyna wnes i. Dod â nhw allan o wlad yr Aifft, a'i harwain nhw i'r anialwch. 11 Rhois reolau iddyn nhw, a dweud sut roeddwn i eisiau iddyn nhw fyw. Byddai'r rhai fyddai'n gwneud y pethau yma yn cael byw go iawn. c  12 Dyma fi'n rhoi ‛Sabothau‛
20:12 Sabothau h.y. dyddiau arbennig i orffwys
iddyn nhw hefyd, i'w hatgoffa nhw o'r berthynas rhyngon ni. Roeddwn i eisiau iddyn nhw ddeall fy mod i, yr  Arglwydd, wedi eu gwneud nhw'n wahanol, yn bobl sbesial i mi.

13 “‘Ond dyma bobl Israel yn gwrthryfela yn yr anialwch. Wnaethon nhw ddim cadw fy rheolau na byw fel ron i eisiau. (Byddai'r rhai sy'n gwneud y pethau yna wedi cael byw go iawn!) A dyma nhw'n diystyru'r dyddiau Saboth yn llwyr hefyd. Ro'n i'n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw yn y fan a'r lle; eu dinistrio nhw'n llwyr yn yr anialwch! 14 Ond wnes i ddim. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl oedd wedi fy ngweld i'n dod â nhw allan o'r Aifft. 15 Ond dyma fi'n tyngu ar lw yn yr anialwch, a dweud na fyddwn i'n eu harwain nhw i'r wlad oedd gen i ar eu cyfer nhw – tir lle roedd llaeth a mêl yn llifo! Y wlad harddaf o'r cwbl i gyd! 16 Roedden nhw wedi gwrthod cadw fy rheolau, wedi gwrthod byw fel ron i eisiau, ac wedi diystyru'r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw. Pam? Am fod eu calonnau'n dal i ddilyn yr eilunod! 17 Ac eto, bod yn garedig atyn nhw wnes i. Wnes i ddim eu dinistrio nhw'n llwyr yn yr anialwch.

18 “‘Dyma fi'n dweud wrth eu plant yn yr anialwch: “Peidiwch byw yr un fath â'ch rhieni. Peidiwch dilyn eu ffyrdd nhw, a llygru eich hunain yn addoli eu heilun-dduwiau. 19 Fi ydy'r  Arglwydd, eich Duw chi. Dw i eisiau i chi fyw fel dw i'n dweud a chadw fy rheolau i. 20 A dw i eisiau i chi gadw'r dyddiau Saboth yn sbesial, i'ch atgoffa chi o'r berthynas sydd rhyngon ni. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r  Arglwydd eich Duw chi.”

21 “‘Ond dyma'r plant yn gwrthryfela yn fy erbyn i hefyd. Wnaethon nhw ddim cadw fy rheolau na byw fel ron i eisiau (Byddai'r rhai sy'n gwneud y pethau yna wedi cael byw go iawn.) A dyma nhw'n diystyru'r dyddiau Saboth yn llwyr hefyd. Ro'n i'n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw yn y fan a'r lle, yn yr anialwch. 22 Ond dyma fi'n dal yn ôl. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl oedd wedi fy ngweld i'n dod â nhw allan o'r Aifft. 23 Ond dyma fi'n tyngu ar lw yn yr anialwch, a dweud y byddwn i'n eu gyrru nhw ar chwâl i'r cenhedloedd, a'u gwasgaru nhw drwy'r gwledydd i gyd. 24 Roedden nhw wedi gwrthod cadw fy rheolau, wedi gwrthod byw fel roeddwn i eisiau, ac wedi diystyru'r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw. Pam? Am fod eu calonnau'n dal i ddilyn yr eilunod! 25 Felly dyma fi'n gadael iddyn nhw ddilyn rheolau oedd ddim yn dda iddyn nhw a canllawiau oedd ddim yn rhoi bywyd go iawn. 26 Dyma fi'n gadael iddyn nhw lygru eu hunain gyda'r rhoddion roedden nhw'n ei cyflwyno i'w duwiau – roedden nhw'n llosgi eu plentyn cyntaf yn aberth! Dylen nhw fod wedi gweld mor erchyll oedd y fath beth. Ro'n i eisiau iddyn nhw wybod mai fi ydy'r  Arglwydd.’

27 “Ddyn, dw i eisiau i ti fynd i siarad gyda phobl Israel a dweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r  Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Mae eich hynafiaid wedi dal ati i ddangos dirmyg ata i a bod yn anffyddlon. 28 Roedden nhw wedi cael dod i'r wlad roeddwn i wedi ei haddo iddyn nhw. Ond y funud roedden nhw'n dod ar draws bryn uchel neu goeden ddeiliog, roedden nhw'n aberthu ac yn cyflwyno offrymau oedd yn fy nigio i. Roedden nhw'n llosgi arogldarth i'w duwiau ac yn tywallt offrymau o ddiod iddyn nhw. 29 A dyma fi'n gofyn iddyn nhw, “Beth ydy'r allor baganaidd yma dych chi'n heidio ati?”’” (Dyna pam mae'r lle'n cael ei alw "Yr Allor"
20:29 "Yr Allor" Hebraeg,  Bamah sef y gair am gysegr neu allor leol i addoli duwiau paganaidd.
hyd heddiw.)

30 “Felly, dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r  Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Chithau hefyd? Ydych chi'n mynd i lygru'ch hunain fel gwnaeth eich hynafiaid? Ydych chi'n mynd i buteinio drwy addoli eilun-dduwiau ffiaidd? 31 Bob tro dych chi'n cyflwyno rhoddion i'ch duwiau a llosgi'ch plentyn cyntaf yn aberth, dych chi'n llygru'ch hunain. Ydw i'n mynd i adael i chi ofyn am arweiniad gen i, bobl Israel? Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, meddai'r Meistr, yr  Arglwydd, gewch chi ddim arweiniad gen i!’”

Duw yn cosbi ac yn maddau

32 “‘“Dŷn ni'n mynd i fod yr un fath â pawb arall,” meddech chi. “Fel pobl y gwledydd o'n cwmpas ni sy'n addoli duwiau o bren a charreg.” Ond fydd hynny byth yn digwydd. 33 Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r Meistr, yr  Arglwydd, ‘Fi fydd yn frenin arnoch chi, a bydda i'n tywallt fy llid, ac yn teyrnasu gyda nerth a chryfder rhyfeddol. 34 Bydda i'n dod â chi allan o ganol y bobloedd, ac yn eich casglu chi o'r gwledydd lle dych chi wedi eich gwasgaru. Ie, bydda i'n tywallt fy llid gyda nerth a chryfder rhyfeddol. 35 Bydda i'n dod â chi allan i anialwch y cenhedloedd, a bydd rhaid i chi wynebu cael eich barnu yno. 36 Yn union fel roedd rhaid i mi farnu eich hynafiaid yn anialwch yr Aifft, bydda i'n eich barnu chi,’ meddai'r Meistr, yr  Arglwydd. 37 ‘Bydda i'n edrych ar bob un ohonoch chi yn ei dro wrth i chi basio dan fy ffon fugail, ac yn eich dal chi at amodau'r ymrwymiad rhyngon ni. 38 Bydda i'n cael gwared â phawb sy'n gwrthryfela a tynnu'n groes i mi. Byddan nhw yn cael dod allan o'r wlad maen nhw ynddi ar hyn o bryd, ond gân nhw ddim mynd yn ôl i wlad Israel! Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r  Arglwydd.

39 “‘Bobl Israel, dyma mae'r  Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud wrthoch chi: “Ewch, bob un ohonoch chi – ewch i addoli'ch eilun-dduwiau! Ond wedyn, peidiwch sarhau fy enw sanctaidd i gyda'ch rhoddion a'ch eilunod. 40 Dim ond ar y mynydd dw i wedi ei gysegru – sef mynydd uchel Israel – y bydd pobl Israel yn fy addoli i, ie, pawb drwy'r wlad i gyd. Bydda i'n eu derbyn nhw yno. Dyna ble dych chi i ddod â chyflwyno rhoddion ac offrymau ac aberthau sanctaidd i mi. 41 Pan fydda i'n dod â chi allan o ganol y bobloedd a'ch casglu chi o'r gwledydd lle dych chi wedi eich gwasgaru, cewch eich derbyn gen i fel arogl hyfryd eich aberthau. A bydd pobl y gwledydd yn gweld mai fi ydy'r Duw sanctaidd sydd gyda chi. 42 Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r  Arglwydd, pan fydda i'n gadael i chi fynd yn ôl i wlad Israel, sef y wlad wnes i addo ei rhoi i'ch hynafiaid. 43 Byddwch chi'n edrych yn ôl ac yn gweld beth wnaethoch chi i lygru'ch hunain. Bydd gynnoch chi gywilydd eich bod wedi gwneud pethau mor ofnadwy. 44 A byddwch chi'n deall mai fi ydy'r  Arglwydd, am fy mod i wedi delio gyda chi mewn ffordd oedd yn diogelu fy enw da i, a dim fel roeddech chi'n ei haeddu am fod mor ddrwg a gwneud pethau mor ffiaidd!”’” Dyna neges y Meistr, yr  Arglwydd.

Proffwydoliaeth yn erbyn y De

45 Yna dyma'r  Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 46 “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu'r de, a pregethu yn erbyn y de drwy gyhoeddi proffwydoliaeth yn erbyn coedwig y Negef. 47 Dywed wrth goedwig y Negef, ‘Gwranda ar neges yr  Arglwydd i ti. Dyma mae'r  Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i gynnau tân yn dy ganol, a bydd yn llosgi'r coed gwyrdd yn ogystal â'r coed sydd wedi crino. Fydd y fflamau tanbaid ddim yn diffodd, a bydd y tir i gyd, o'r de i'r gogledd, wedi ei losgi'n ddu. 48 Bydd pawb yn gweld mai fi, yr  Arglwydd ddechreuodd y tân, ac na fydd yn diffodd.’”

49 “O  Arglwydd, fy meistr!” meddwn i, “Mae pawb yn cwyno fod beth dw i'n ddweud yn dim ond darluniau diystyr!”

Copyright information for CYM