Ezekiel 9
Lladd Addolwyr Eilunod
1 Wedyn dyma fi'n clywed Duw yn gweiddi'n uchel, “Dewch yma, chi sy'n mynd i ddinistrio'r ddinas! Dewch gyda'ch arfau i wneud eich gwaith!” 2 Gwelais chwe dyn yn dod o gyfeiriad y giât uchaf sy'n wynebu'r gogledd. Roedd gan bob un arf, sef pastwn, yn ei law. Roedd dyn arall gyda nhw, mewn gwisg o liain, ac roedd ganddo offer ysgrifennu wedi ei strapio am ei ganol. Dyma nhw'n dod i'r deml, ac yn sefyll wrth ymyl yr allor bres. 3 Dyma ysblander Duw Israel yn codi oddi ar y cerbyd a'r ceriwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. A dyma'r Arglwydd yn galw ar y dyn mewn gwisg o liain oedd yn cario'r offer ysgrifennu, 4 a dweud wrtho: “Dos o gwmpas dinas Jerwsalem, a rho farc
▼
▼
9:4 farc Hebraeg,
taf – llythyren oedd yn cael ei hysgrifennu ar ffurf croes mewn hen lawysgrifen Hebraeg.
ar dalcen pawb sy'n galaru'n drist am yr holl bethau ffiaidd sy'n digwydd yma.” 5 Wedyn clywais e'n dweud wrth y lleill: “Ewch o gwmpas y ddinas ar ei ôl a lladd pawb sydd heb eu marcio. Does neb i ddianc! Byddwch yn hollol ddidrugaredd! 6 Lladdwch nhw i gyd – yr hen a'r ifanc, gwragedd a phlant! Ond peidiwch cyffwrdd unrhyw un sydd â marc ar ei dalcen. Dechreuwch yma yn y deml.” Felly dyma nhw'n dechrau gyda'r arweinwyr oedd yn sefyll o flaen y deml.
7 “Gwnewch y deml yn lle sydd wedi ei lygru, gyda chyrff marw ar lawr ym mhobman! Wedyn ewch allan a lladd pobl drwy'r ddinas i gyd.” 8 Pan aethon nhw allan i'r ddinas ces fy ngadael yn sefyll yno ar fy mhen fy hun. A dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr, a gweddïo'n uchel ar Dduw, “O, na! Arglwydd, Feistr. Wyt ti'n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel drwy dywallt dy lid ar Jerwsalem fel yma?” 9 A dyma fe'n ateb, “Mae pobl Israel a Jwda wedi pechu yn ofnadwy yn fy erbyn i. Mae cymaint o dywallt gwaed drwy'r wlad, ac anghyfiawnder yn y ddinas. Ac mae pobl yn dweud, ‘Mae'r Arglwydd wedi troi cefn ar y wlad. Dydy e ddim yn gweld beth bynnag!’ b 10 Felly, dw i ddim yn teimlo'n sori drostyn nhw o gwbl. Fydd yna ddim trugaredd! Dw i'n mynd i dalu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi ei wneud!” 11 Wedyn dyma'r dyn mewn gwisg o liain oedd yn cario offer ysgrifennu yn cyrraedd yn ôl, a dweud, “Dw i wedi gwneud beth ddwedaist ti.”