Genesis 50

Dyma Joseff yn cofleidio corff ei dad. Roedd yn crïo ac yn ei gusanu. Wedyn gorchmynnodd i'w weision, y meddygon, falmeiddio'r corff. A dyna gafodd ei wneud i gorff Jacob. Cymerodd y broses yma bedwar deg diwrnod, achos dyna faint o amser roedd yn ei gymryd i falmeiddio corff. A bu cyfnod o alaru ar ei ôl drwy wlad yr Aifft am saith deg diwrnod.

Pan oedd y cyfnod o alar drosodd, dyma Joseff yn mynd at gynghorwyr y Pharo, a dweud: “Mae gen i ffafr i'w gofyn gan y Pharo. Wnewch chi ofyn iddo ar fy rhan i, plîs? Gwnaeth fy nhad i mi addo rhywbeth iddo ar lw. Dyma ddwedodd e: ‘Dw i ar fin marw, a dw i eisiau i ti fy nghladdu i yn y bedd dw i wedi ei dorri i mi fy hun yng ngwlad Canaan.’ Felly gofyn ydw i am ganiatâd i fynd yno i gladdu dad. Bydda i'n dod yn ôl yma wedyn.” Dyma'r Pharo'n dweud, “Dos i gladdu dy dad, fel gwnest ti addo iddo.”

Felly dyma Joseff yn mynd i gladdu ei dad. Aeth swyddogion y Pharo i gyd gydag e, a phobl bwysig y llys ac arweinwyr y wlad. Teulu Joseff i gyd, ei frodyr, a theulu ei dad hefyd. Dim ond y plant bach a'r anifeiliaid gafodd eu gadael yn ardal Gosen. Roedd cerbydau rhyfel a marchogion gyda nhw hefyd – tyrfa fawr iawn o bobl.

10 Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Atad (i'r dwyrain o Afon Iorddonen) dyma nhw'n cynnal cyfnod o alar angladdol. Buodd Joseff yn galaru yno am ei dad am wythnos. 11 Pan welodd pobl Canaan nhw yn galaru ar lawr dyrnu Atad, dyma nhw'n dweud, “Mae'r angladd yma'n ddigwyddiad trist iawn yng ngolwg yr Eifftiaid.” Felly cafodd y lle, sydd yr ochr draw i Afon Iorddonen, ei alw yn Abel-misraim
50:11 h.y. Galar yr Aifft.
.

12 Felly gwnaeth meibion Jacob beth roedd eu tad wedi ei ddweud wrthyn nhw. 13 Aethon nhw â'i gorff i wlad Canaan, a'i gladdu yn yr ogof yn Machpela ger Mamre, ar y tir oedd Abraham wedi ei brynu gan Effron yr Hethiad i fod yn fan claddu i'w deulu.

14 Ar ôl claddu ei dad aeth Joseff yn ôl i'r Aifft gyda'i frodyr a phawb arall oedd wedi bod yn yr angladd.

Joseff yn tawelu ofnau ei frodyr

15 Gan fod eu tad wedi marw, roedd brodyr Joseff yn dechrau ofni, “Beth os ydy Joseff yn dal yn ddig hefo ni? Beth os ydy e am dalu'r pwyth yn ôl am yr holl ddrwg wnaethon ni iddo?” 16 Felly dyma nhw'n anfon neges at Joseff: “Roedd dad wedi dweud wrthon ni cyn iddo farw, 17 ‘Dwedwch wrth Joseff: Plîs maddau i dy frodyr am y drwg wnaethon nhw, yn dy drin di mor wael.’ Felly dyma ni, gweision y Duw roedd dy dad yn ei addoli. O, plîs wnei di faddau i ni am beth wnaethon ni?” Pan glywodd Joseff hyn dyma fe'n dechrau crïo. 18 Yna daeth ei frodyr a syrthio o'i flaen, a dweud, “Byddwn ni'n gaethweision i ti.” 19 Ond dyma Joseff yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Ai Duw ydw i? 20 Roeddech chi am wneud drwg i mi, ond dyma Duw yn troi y drwg yn beth da. Roedd ganddo eisiau achub bywydau llawer o bobl, a dyna dych chi'n weld heddiw. 21 Felly peidiwch bod ag ofn. Gwna i ofalu amdanoch chi a'ch plant.” Felly rhoddodd Joseff dawelwch meddwl iddyn nhw wrth siarad yn garedig gyda nhw.

Marwolaeth Joseff

22 Arhosodd Joseff a theulu ei dad yn yr Aifft. Cafodd Joseff fyw i fod yn 110 oed. 23 Cafodd weld tair cenhedlaeth o deulu Effraim. Gwelodd blant Machir (mab Manasse) hefyd a'u derbyn nhw fel ei blant ei hun.

24 Wedyn dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr, “Dw i ar fin marw. Ond bydd Duw yn dod atoch chi ac yn eich cymryd chi yn ôl o'r wlad yma i'r wlad wnaeth e addo ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob.” 25 Felly dyma Joseff yn gwneud i bobl Israel addo, “Pan fydd Duw yn dod atoch chi, dw i am i chi fynd â fy esgyrn i o'r lle yma.” 26 A dyma Joseff yn marw yn 110 oed. Cafodd ei gorff ei falmeiddio a'i osod mewn arch yn yr Aifft.

Copyright information for CYM