Genesis 8

Y dŵr yn gostwng

Ond doedd Duw ddim wedi anghofio am Noa a'r holl anifeiliaid gwyllt a dof oedd gydag e yn yr arch. Felly gwnaeth i wynt chwythu, a dyma lefel y dŵr yn dechrau mynd i lawr. Dyma'r ffynhonnau dŵr tanddaearol a'r llifddorau yn yr awyr yn cael eu cau, a dyma hi'n stopio glawio. Dechreuodd y dŵr fynd i lawr. Bum mis union ar ôl i'r dilyw ddechrau
8:4 Bum mis … ddechrau Hebraeg, “ar yr ail ar bymtheg o'r seithfed mis.” gw. 7:11.
, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.
Ddau fis a hanner wedyn, wrth i'r dŵr ddal i fynd i lawr o dipyn i beth, daeth rhai o'r mynyddoedd eraill i'r golwg.

Pedwar deg diwrnod ar ôl i'r arch lanio, dyma Noa yn agor ffenest ac yn anfon cigfran allan. Roedd hi'n hedfan i ffwrdd ac yn dod yn ôl nes oedd y dŵr wedi sychu oddi ar wyneb y ddaear. Wedyn dyma Noa yn anfon colomen allan, i weld os oedd y dŵr wedi mynd. Ond roedd y golomen yn methu dod o hyd i le i glwydo, a daeth yn ôl i'r arch. Roedd y dŵr yn dal i orchuddio'r ddaear. Estynnodd Noa ei law ati a dod â hi yn ôl i mewn i'r arch. 10 Arhosodd am wythnos cyn danfon y golomen allan eto. 11 Y tro yma, pan oedd hi'n dechrau nosi, dyma'r golomen yn dod yn ôl gyda deilen olewydd ffres yn ei phig. Felly roedd Noa'n gwybod bod y dŵr bron wedi mynd. 12 Arhosodd am wythnos arall ac anfon y golomen allan eto, a'r tro yma ddaeth hi ddim yn ôl.

13 Pan oedd Noa yn 601 oed, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn roedd y llifogydd wedi mynd. Dyma Noa yn symud rhan o'r gorchudd ar do'r arch a gwelodd fod y ddaear bron wedi sychu. 14 Erbyn y seithfed ar hugain o'r ail fis roedd y ddaear yn sych.

15 A dyma Duw yn dweud wrth Noa, 16 “Dos allan o'r arch, ti a dy deulu. 17 Tyrd â phopeth allan – yr adar a'r anifeiliaid, a phob creadur bach arall – dw i eisiau iddyn nhw gael llawer iawn o rai bach, drwy'r ddaear i gyd.” 18 Felly dyma Noa a'i wraig, a'i feibion a'u gwragedd nhw, yn mynd allan o'r arch. 19 A dyma'r anifeiliaid i gyd, a'r ymlusgiaid, a'r adar yn dod allan yn eu grwpiau.

Noa yn aberthu i'r  Arglwydd

20 A dyma Noa'n codi allor i'r  Arglwydd ac yn aberthu rhai o'r gwahanol fathau o anifeiliaid ac adar oedd yn dderbyniol fel aberth i'w losgi. 21 Roedd yr aberth yn arogli'n hyfryd i'r  Arglwydd, ac meddai wrtho'i hun, “Dw i byth yn mynd i felltithio'r ddaear eto o achos y ddynoliaeth, er fod pobl yn dal i feddwl am ddim byd ond gwneud drwg hyd yn oed pan maen nhw'n blant ifanc. Wna i byth eto ddinistrio popeth byw fel dw i newydd wneud.

22 Tra mae'r byd yn bod,
bydd amser i blannu a chasglu'r cynhaeaf;
bydd tywydd oer a thywydd poeth,
haf a gaeaf, nos a dydd.”
Copyright information for CYM