Habakkuk 3

Habacuc yn addoli'r  Arglwydd

Gweddi'r proffwyd Habacuc. Ar “Shigionoth” .  Arglwydd, dw i wedi clywed beth rwyt ti'n gallu ei wneud.
Mae'n syfrdanol!
Gwna yr un peth eto yn ein dyddiau ni.
Dangos dy nerth yn ein dyddiau.
Er dy fod yn ddig, dangos drugaredd aton ni!
Dw i'n gweld Duw yn dod eto o Teman;
a'r Un Sanctaidd o Fynydd Paran.
3:3 Teman … Paran Teman: Tref bwysig yng ngogledd Edom, wedi ei henwi ar ôl ŵyr i Esau (gw. Genesis 36:10-11); Paran: ardal fynyddig ar ffin orllewinol Gwlff Acaba. Yn Barnwyr 5:4, mae'r  Arglwydd yn martsio o Edom i helpu ei bobl; yn Deuteronomium 33:2 mae cyfeiriad at Paran mewn cysylltiad â Duw yn ymddangos ar Sinai.


 Saib
Mae ei ysblander yn llenwi'r awyr,
ac mae'r ddaear i gyd yn ei foli.
Mae e'n disgleirio fel golau llachar.
Daw mellten sy'n fforchio o'i law,
lle mae'n cuddio ei nerth.
Mae'r pla yn mynd allan o'i flaen,
a haint yn ei ddilyn.
Pan mae'n sefyll mae'r ddaear yn crynu;
pan mae'n edrych mae'r gwledydd yn dychryn.
Mae'r mynyddoedd hynafol yn dryllio,
a'r bryniau oesol yn suddo,
wrth iddo deithio'r hen ffyrdd.
Dw i'n gweld pebyll llwyth Cwshan mewn panig,
a llenni pebyll Midian
3:7 llwyth Cwshan … Midian Llwythau o Anialwch Arabia oedd yn elynion i Israel.
yn crynu.
Ydy'r afonydd wedi dy gynhyrfu di,  Arglwydd?
Wyt ti wedi gwylltio gyda'r afonydd?
Wyt ti wedi digio gyda'r môr?
Ai dyna pam rwyt ti wedi dringo i dy gerbyd?
– cerbyd dy fuddugoliaeth.
Mae dy fwa wedi ei dynnu allan,
a dy saethau yn barod i ufuddhau i ti.

 Saib
Mae afonydd yn llifo ac yn hollti'r ddaear.
10 Mae'r mynyddoedd yn gwingo wrth dy weld yn dod.
Mae'n arllwys y glaw,
a'r storm ar y môr yn rhuo
a'r tonnau'n cael eu taflu'n uchel.
11 Mae'r haul a'r lleuad yn aros yn llonydd;
mae fflachiadau dy saethau,
a golau llachar dy waywffon yn eu cuddio.
12 Rwyt ti'n stompio drwy'r ddaear yn wyllt,
a sathru'r gwledydd dan draed.
13 Ti'n mynd allan i achub dy bobl;
i achub y gwas rwyt wedi ei eneinio.
Ti'n taro arweinydd y wlad ddrwg,
a'i gadael yn noeth o'i phen i'w chynffon.

 Saib
14 Ti'n trywanu ei milwyr gyda'u picellau eu hunain,
wrth iddyn nhw ruthro ymlaen i'n chwalu ni.
Roedden nhw'n chwerthin a dathlu
wrth gam-drin y tlawd yn y dirgel.
15 Roedd dy geffylau yn sathru'r môr,
ac yn gwneud i'r dŵr ewynnu.
16 Pan glywais y sŵn, roedd fy mol yn corddi,
a'm gwefusau'n crynu.
Roedd fy nghorff yn teimlo'n wan,
a'm coesau'n gwegian.
Dw i'n mynd i ddisgwyl yn dawel i ddydd trybini
ddod ar y bobl sy'n ymosod arnon ni.
17 Pan mae'r goeden ffigys heb flodeuo,
a'r grawnwin heb dyfu yn y winllan;
Pan mae'r coed olewydd wedi methu,
a dim cnydau ar y caeau teras;
Pan does dim defaid yn y gorlan,
nag ychen yn y beudy;
18 Drwy'r cwbl, bydda i'n addoli'r  Arglwydd
ac yn dathlu'r Duw sydd yn fy achub i!
19 Mae'r  Arglwydd, fy meistr, yn rhoi nerth i mi,
ac yn gwneud fy nhraed mor saff â'r carw
sy'n crwydro'r ucheldir garw.
I'r arweinydd cerdd: ar offerynnau llinynnol.
Copyright information for CYM