Isaiah 40

Cysuro pobl Dduw

“Cysurwch nhw; cysurwch fy mhobl i,” –
dyna mae eich Duw yn ei ddweud.
“Byddwch yn garedig wrth Jerwsalem,
a dweud wrthi fod y dyddiau caled drosodd;
mae hi wedi derbyn y gosb am ei drygioni.
Yn wir, mae'r  Arglwydd wedi gwneud iddi
dalu'n llawn am ei holl bechodau.”
Mae llais yn gweiddi'n uchel:
“Cliriwch y ffordd i'r  Arglwydd
yn yr anialwch;
gwnewch briffordd syth i Dduw
drwy'r diffeithwch!
Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi,
pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu.
Bydd y tir anwastad yn cael ei wneud yn llyfn,
a bydd cribau'r mynyddoedd yn wastatir.
Bydd ysblander yr  Arglwydd yn dod i'r golwg,
a bydd y ddynoliaeth gyfan yn ei weld yr un pryd.”

—mae'r  Arglwydd wedi dweud.
Mae'r llais yn dweud, “Gwaedda!”
Ac un arall yn gofyn, “Gweiddi be?”
“Mae pobl feidrol fel glaswellt,” meddai,
“a ffyddlondeb dynol fel blodyn gwyllt:
mae'r glaswellt yn crino, a'r blodyn yn gwywo
pan mae'r  Arglwydd yn chwythu arnyn nhw.”
Ie, glaswellt ydy'r bobl.
Mae'r glaswellt yn crino, a'r blodyn yn gwywo,
ond mae neges yr  Arglwydd yn aros am byth!
Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da,
dringa i ben mynydd uchel!
Ie, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da,
gwaedda'n uchel!
Gwaedda! Paid bod ag ofn!
Dywed wrth drefi Jwda:
“Dyma'ch Duw chi!”
10 Edrych! Mae'r Meistr, yr  Arglwydd,
yn dod fel milwr cryf
i deyrnasu gyda nerth.
Edrych! Mae ei wobr ganddo;
mae'n dod a'i roddion o'i flaen.
11 Bydd yn bwydo ei braidd fel bugail: a 
bydd yn codi'r ŵyn yn ei freichiau
ac yn eu cario yn ei gôl,
tra'n arwain y defaid sy'n eu magu.

Does neb tebyg i'r Duw byw

12 Pwy sydd wedi dal y moroedd yng nghledr ei law,
a mesur yr awyr rhwng ei fysedd?
Pwy sydd wedi dal pridd y ddaear mewn padell,
pwyso'r mynyddoedd mewn mantol
a'r bryniau gyda chlorian?
13 Pwy sydd wedi gosod ffiniau i ysbryd yr  Arglwydd,
neu roi arweiniad iddo fel ei gynghorydd personol?
14 Gyda pwy mae Duw'n trafod i gael gwybod beth i'w wneud?
Pwy sy'n ei ddysgu i wneud y peth iawn?
Pwy sy'n rhoi gwybodaeth iddo?
Pwy sy'n ei helpu i ddeall?
15 Dydy'r cenhedloedd ond diferyn mewn bwced;
dim mwy na llwch ar glorian!
Dydy'r ynysoedd yn ddim mwy na llwch mân.
16 Does dim digon o goed tân yn Libanus,
na digon o anifeiliaid chwaith,
i baratoi offrwm teilwng i'w losgi iddo.
17 Dydy'r gwledydd i gyd yn ddim o'i gymharu ag e –
maen nhw fel rhywbeth dibwys yn ei olwg,
yn llai na dim byd!
18 Felly, i bwy mae Duw yn debyg yn eich barn chi?
Gyda beth allwch chi ei gymharu?
19 Eilun? Cerfiwr sy'n siapio hwnnw,
a gof yn ei orchuddio ag aur
a gwneud bachau i'w ddal yn ei le!
20 Mae'r sawl sy'n rhy dlawd
yn dewis pren fydd ddim yn pydru,
ac yn edrych am y crefftwr gorau
i wneud eilun sydd ddim yn symud!
21 Ydych chi ddim yn gwybod?
Ydych chi ddim wedi clywed?
Oes neb wedi dweud wrthoch chi o'r dechrau?
Ydych chi ddim yn deall sut gafodd y ddaear ei sylfaenu?
22 Fe ydy'r Un sy'n eistedd uwchben y ddaear,
ac mae'r bobl sy'n byw arni fel ceiliogod rhedyn o'i flaen.
Fe ydy'r Un sy'n taenu'r awyr fel llenni,
ac yn ei lledu allan fel pabell i fyw ynddi.
23 Fe ydy'r un sy'n gwneud y pwysigion yn neb,
a'r rhai sy'n llywodraethu ar y ddaear yn ddim.
24 Prin eu bod wedi eu plannu,
prin eu bod wedi eu hau,
prin eu bod wedi bwrw gwreiddiau yn y tir –
mae e'n chwythu arnyn nhw ac maen nhw'n gwywo,
ac mae gwynt stormus yn eu cario i ffwrdd fel us.
25 “I bwy dw i'n debyg yn eich barn chi?
Oes rhywun arall cystal?”

—meddai'r Un Sanctaidd.
26 Edrychwch i fyny ar y sêr!
Pwy wnaeth eu creu nhw?
Pwy sy'n eu galw nhw allan bob yn un?
Pwy sy'n galw pob un wrth ei enw?
Mae e mor gryf ac mor anhygoel o nerthol –
does dim un ohonyn nhw ar goll.
27 Jacob, pam wyt ti'n dweud,
“Dydy'r  Arglwydd ddim yn gweld beth sy'n digwydd i mi”?
Israel, pam wyt ti'n honni,
“Dydy Duw yn cymryd dim sylw o'm hachos i”?
28 Wyt ti ddim yn gwybod?
Wyt ti ddim wedi clywed?
Yr  Arglwydd ydy'r Duw tragwyddol!
Fe sydd wedi creu y ddaear gyfan.
Dydy ei nerth e ddim yn pallu;
Dydy e byth yn blino.
Mae e'n rhy ddoeth i unrhyw un ei ddeall!
29 Fe sy'n gwneud y gwan yn gryf,
ac yn rhoi egni i'r blinedig.
30 Mae pobl ifanc yn pallu ac yn blino,
a'r rhai mwya ffit yn baglu ac yn syrthio;
31 ond bydd y rhai sy'n pwyso ar yr  Arglwydd
yn cael nerth newydd.
Byddan nhw'n hedfan i fyny fel eryrod;
yn rhedeg heb flino
a cerdded ymlaen heb stopio.
Copyright information for CYM