aEseia 13:1—14:23; Jeremeia 50:1; 51:64

Isaiah 47

Bydd Babilon yn syrthio

“I lawr â ti! Eistedd yn y llwch, a 
o wyryf, ferch Babilon.
Eistedd ar lawr ferch y Babiloniaid,
mae dy ddyddiau ar yr orsedd wedi darfod.
Gei di ddim dy alw
yn dyner ac yn dlos byth eto.
Gafael yn y felin law i falu blawd.
Tynn dy fêl, rhwyga dy wisg,
a dangos dy goesau
wrth gerdded drwy afonydd.
47:2 gerdded drwy afonydd Cyfeiriad at fynd i gaethglud mae'n debyg.

Byddi'n gwbl noeth, a bydd
dy rannau preifat yn y golwg.
Dw i'n mynd i ddial,
a fydd neb yn fy rhwysto i.”
Dyna mae'r un sy'n ein gollwng ni'n rhydd yn ei ddweud
—yr  Arglwydd holl-bwerus ydy ei enw—
Un Sanctaidd Israel.
“Eistedd yn dawel! Dos i'r tywyllwch,
ferch y Babiloniaid.
Gei di ddim dy alw
yn ‛Feistres y Teyrnasoedd‛ byth eto.
Roeddwn wedi digio gyda'm pobl,
felly cosbais fy etifeddiaeth;
rhoddais nhw yn dy ddwylo di,
ond wnest ti ddangos dim trugaredd atyn nhw.
Roeddet ti hyd yn oed yn cam-drin
pobl mewn oed.
‘Fi fydd y feistres am byth,’ meddet ti.
Wnest ti ddim meddwl am funud
beth fyddai'n digwydd yn y diwedd. c 
Felly, gwrando ar hyn, ti sy wedi dy sbwylio –
ti sy'n ofni neb na dim, ac yn meddwl,
‘Fi ydy'r un! – Does neb tebyg i mi! d 
Fydda i byth yn weddw,
nac yn gwybod beth ydy colli plant.’
Ond yn sydyn bydd y ddau beth
yn digwydd ar yr un diwrnod:
colli dy blant a chael dy hun yn weddw.
Byddi'n cael dy lethu'n llwyr ganddyn nhw,
er gwaetha dy holl ddewino
a'th swynion gorau.
10 Roeddet ti mor hunanfodlon yn dy ddrygioni,
ac yn meddwl, ‘Does neb yn fy ngweld i.’
Roedd dy ddoethineb a dy glyfrwch
yn dy arwain ar gyfeiliorn,
ac roeddet ti'n dweud wrthot ti dy hun,
‘Fi ydy'r un! – Does neb tebyg i mi!’
11 Ond mae dinistr yn dod,
a fydd dy holl swynion ddim yn ei gadw draw.
Mae trychineb ar fin disgyn,
a fyddi di ddim yn gallu ei droi i ffwrdd.
Yn sydyn bydd dinistr yn dod
arnat heb yn wybod.
12 Dal ati gyda dy swynion a'th ddewino –
rwyt wedi bod yn ymarfer ers yn blentyn!
Falle y cei di help!
Falle y byddi'n dychryn y gelyn!
13 Ti'n gwastraffu dy amser yn gwrando ar holl gynghorion
y rhai sy'n syllu i'r awyr ac yn darllen y sêr,
ac yn dweud o fis i fis beth sy'n mynd i ddigwydd i ti!
Gad iddyn nhw sefyll i fyny a dy achub di!
14 Maen nhw fel gwellt
yn cael ei losgi'n y tân.
Allan nhw ddim achub eu hunain
rhag gwres y fflamau cryfion.
Nid glo i dwymo wrtho ydy hwn,
neu dân i eistedd o'i flaen!
15 Dyna faint o help ydyn nhw i ti! –
y rhai buost ti'n delio gyda nhw ers yn blentyn.
Maen nhw i gyd wedi mynd eu ffordd eu hunain,
a does neb ar ôl i dy achub di!”
Copyright information for CYM