Isaiah 51

Yr  Arglwydd yn cysuro

1“Gwrandwch arna i, chi sy'n awyddus i wneud beth sy'n iawn,
ac yn ceisio'r  Arglwydd:
Ystyriwch y graig y cawsoch eich naddu ohoni,
a'r chwarel y cawsoch eich cloddio ohoni.
2Meddyliwch am Abraham, eich tad,
a Sara, y cawsoch eich geni iddi.
Roedd ar ei ben ei hun pan wnes i alw arno,
ond bendithiais e, a  a'i wneud yn llawer.
3Bydd yr  Arglwydd yn cysuro Seion,
bydd yn cysuro ei hadfeilion.
Bydd yn gwneud ei hanialwch fel Eden,
a'i diffeithwch fel gardd yr  Arglwydd.
Bydd llawenydd a dathlu i'w glywed ynddi,
lleisiau'n diolch a sŵn canu.
4Gwrandwch arna i, fy mhobl;
daliwch sylw, fy nghenedl.
Achos bydda i'n dysgu pobl,
a bydd fy nghyfiawnder yn olau i'r bobloedd.
5Dw i ar fin gwneud pethau'n iawn,
dw i ar fy ffordd i achub,
a bydd fy mraich gref yn rheoli pobloedd.
Bydd yr ynysoedd yn troi ata i,
ac yn disgwyl yn frwd i mi ddangos fy nerth.
6Edrychwch i fyny i'r awyr,
ac edrychwch ar y ddaear islaw:
Bydd yr awyr yn gwasgaru fel mwg,
y ddaear yn treulio fel dillad,
a'r bobl sy'n byw arni yn marw fel gwybed,
ond mae fy achubiaeth i yn aros am byth,
a'm cyfiawnder ddim yn pallu.
7Gwrandwch arna i, chi sy'n gwybod beth sy'n iawn,
y bobl sydd â'm cyfraith yn eu calonnau.
Peidiwch bod ag ofn pan mae pobl feidrol yn eich sarhau chi,
na digalonni pan maen nhw'n gwneud sbort.
8Bydd gwyfyn yn eu bwyta fel dilledyn,
a'r pryf dillad yn eu llyncu fel gwlân.
Bydd fy nghyfiawnder yn para am byth,
a'm hachubiaeth o un genhedlaeth i'r llall.”
9Deffra! Deffra! Dangos dy nerth
o fraich yr  Arglwydd!
Deffra, fel yn yr hen ddyddiau,
yn yr amser a fu!
Onid ti dorrodd Rahab
51:9 Rahab Anghenfil chwedlonol y môr, grym anhrefn a drygioni, oedd weithiau yn cynrychioli gwlad yr Aifft.
yn ddarnau,
a thrywanu'r ddraig?
10Onid ti sychodd y môr,
a dŵr y dyfnder mawr?
Onid ti wnaeth ddyfnder y môr
yn ffordd i'r rhai gafodd eu rhyddhau gerdded arni?
11Bydd y bobl ollyngodd yr  Arglwydd yn rhydd
yn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu!
Bydd y llawenydd sy'n para am byth
yn goron ar eu pennau!
Byddan nhw'n cael eu gwefreiddio
gan hwyl a gorfoledd,
am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.
12“Fi, fi ydy'r un sy'n eich cysuro chi!
Pam wyt ti'n ofni dyn meidrol –
pobl feidrol sydd fel glaswellt?
13Wyt ti wedi anghofio'r  Arglwydd sydd wedi dy greu di?
Yr un wnaeth ledu'r awyr a gosod sylfaeni'r ddaear!
Pam mae gen ti ofn am dy fywyd drwy'r amser
fod y gormeswr wedi gwylltio
ac yn barod i dy daro di i lawr?
Ble mae llid y gormeswr beth bynnag?
14Bydd yr un caeth yn cael ei ryddhau ar frys!
Fydd e ddim yn marw yn ei gell
nac yn llwgu.
15Fi ydy'r  Arglwydd dy Dduw di
sy'n corddi'r môr yn donnau mawrion
– yr  Arglwydd holl-bwerus ydy fy enw i.
16Dw i wedi rhoi neges i ti ei rhannu
ac wedi dy amddiffyn di dan gysgod fy llaw;
Fi roddodd yr awyr yn ei le a gwneud y ddaear yn gadarn!
A dw i wedi dweud wrth Seion: ‘Fy mhobl i ydych chi!’”

Rhybudd i Jerwsalem

17Deffra! Deffra!
Saf ar dy draed, Jerwsalem –
ti sydd wedi yfed o'r gwpan
roddodd yr  Arglwydd i ti yn ei lid!
Ti sydd wedi yfed y gwpan feddwol i'w gwaelod!
18Does yr un o'r meibion gafodd eu geni iddi yn ei harwain;
does dim un o'r meibion fagodd hi yn gafael yn ei llaw.
19Mae dau beth wedi digwydd i ti:
llanast a dinistr – pwy sy'n cydymdeimlo gyda ti?
newyn a'r cleddyf – sut alla i dy gysuro di?
20Mae dy blant wedi llewygu!
Maen nhw'n gorwedd ar gornel pob stryd,
fel antelop wedi ei ddal mewn rhwyd –
yn feddw gan ddigofaint yr  Arglwydd,
wedi eu ceryddu gan dy Dduw.
21Felly, gwrando ar hyn, ti'r un druenus
sydd wedi meddwi, ond ddim ar win!
22Dyma mae dy feistr, yr  Arglwydd, yn ei ddweud,
y Duw sy'n dadlau achos ei bobl:
“Edrych! Dw i wedi cymryd y cwpan meddwol o dy law di,
y gostrel rois i i ti yn fy llid.
Does dim rhaid i ti yfed ohoni byth eto!
23Bydda i'n ei rhoi yn nwylo'r rhai wnaeth dy ormesu
a dweud wrthot, ‘Gorwedd i lawr, i ni gerdded drosot ti’ –
Roedd rhaid i ti roi dy gefn i fod
fel stryd i bobl ei sathru.”
Copyright information for CYM