Isaiah 57

Pobl ffyddlon Duw yn dioddef

Mae rhywun cyfiawn yn marw,
a does neb yn malio.
Mae pobl ffyddlon yn cael eu cymryd,
a does neb yn sylweddoli
fod y cyfiawn yn cael eu symud
i'w harbed rhag y drwg sy'n dod.
Bydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn
yn profi heddwch,
ac yn cael gorffwys ar eu gwlâu.
Dewch yma, chi blant y rhai sy'n dweud ffortiwn;
disgynyddion y rhai sy'n godinebu ac yn puteinio!
Ar ben bwy ydych chi'n gwneud sbort?
Ar bwy ydych chi'n gwneud ystumiau
ac yn tynnu tafod?
Dych chi'n blant i rebeliaid,
yn ddisgynyddion rhai sy'n dweud celwydd;
a'ch nwydau rhywiol yn llosgi wrth addoli
dan bob coeden ddeiliog.
Chi sy'n aberthu plant yn y dyffrynnoedd,
ac yn hafnau'r creigiau.
Cerrig llithrig yr hafnau ydy dy gyfran di;
mentra di gyda nhw!
Iddyn nhw rwyt ti wedi tywallt dy offrwm o ddiod,
a chyflwyno dy offrwm o fwyd.
Ddylwn i ymatal rhag dial yn wyneb hyn i gyd?
Rwyt yn gwneud dy wely
ar ben pob mynydd uchel;
ac yn mynd yno i gyflwyno dy aberthau.
Er fod arwydd wedi ei osod
tu ôl i ffrâm drws dy dŷ, a 
ti wedi ngadael i
a gorwedd yn agored ar dy wely.
Ti wedi ymrwymo dy hun i'r duwiau,
wedi mwynhau gorweddian yn noeth
a dewis dilyn dy chwantau.
57:8 a dewis … chwantau Hebraeg, “a syllu ar eu pidyn”

Yna mynd i lawr i weld y brenin
gyda rhoddion o olew a llwyth o bersawr.
Anfonaist negeswyr at un oedd yn bell i ffwrdd,
hyd yn oed i Annwn!
57:9 Annwn Hebraeg,  Sheol, sef “y byd tanddaearol ble mae'r meirw yn mynd”

10 Er fod yr holl deithio'n dy flino,
wnest ti ddim rhoi i fyny!
Llwyddaist i gael digon o egni
i ddal ati.
11 Pwy oedd yn dy boeni
a gwneud i ti ofni a dweud celwydd?
Doeddet ti ddim yn meddwl amdana i
nac yn cymryd unrhyw sylw ohona i.
Ai'r rheswm wyt ti ddim yn fy ofni i
ydy mod i wedi bod yn ddistaw mor hir?
12 Gwna i ddweud beth dw i'n feddwl o dy weithredoedd da:
fydd y rheiny ddim yn gallu dy helpu!
13 A fydd dy gasgliad o dduwiau ddim yn dy helpu
pan fyddi di'n gweiddi –
does dim bywyd nag anadl ynddyn nhw!
Ond bydd y rhai sy'n troi ata i yn meddiannu'r tir
ac yn etifeddu fy mynydd cysegredig i.

Duw yn addo helpu ei bobl

14 Dyma fydd yn cael ei ddweud:

Adeiladwch! Adeiladwch! Cliriwch y ffordd!
Symudwch bob rhwystr o ffordd fy mhobl!
15 Dyma mae'r Un uchel iawn yn ei ddweud,
yr un sy'n aros am byth, a'i enw yn sanctaidd:
Dw i'n byw mewn lle uchel a sanctaidd,
ond dw i hefyd gyda'r rhai gostyngedig sydd wedi eu sathru –
dw i'n adfywio'r rhai gostyngedig,
ac yn codi calon y rhai sydd wedi eu sathru.
16 Dw i ddim yn mynd i ddadlau drwy'r adeg,
na dal dig am byth.
Dw i ddim eisiau i ysbryd y bobl ballu,
gan mai fi sy'n rhoi anadl iddyn nhw fyw.
17 Roeddwn i'n ddig am eu bod yn elwa trwy drais.
Dyma fi'n eu taro, a troi i ffwrdd wedi digio,
ond roedden nhw'n dal i fynd eu ffordd eu hunain!
18 Do, dw i wedi gweld beth mae nhw'n wneud,
ond dw i'n mynd i'w hiacháu nhw.
Dw i'n mynd i'w harwain a'u cysuro;
cysuro'r rhai sy'n galaru,
19 a rhoi lle iddyn nhw ddathlu:
Heddwch a llwyddiant i bawb yn bell ac agos!
Dw i'n mynd i'w hiacháu nhw,”

—meddai'r  Arglwydd.
20 “Ond bydd y rhai drwg fel môr stormus
sy'n methu bod yn dawel,
a'i ddŵr yn corddi'r llaid a'r baw.
21 Fydd dim heddwch i bobl ddrwg,” d 

—meddai fy Nuw.
Copyright information for CYM