Jeremiah 11

Pobl Jwda wedi gwrthod gwrando

Dyma neges arall roddodd yr  Arglwydd i Jeremeia: “Atgoffa bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem o amodau yr ymrwymiad wnes i gydag Israel. Dywed wrthyn nhw fod yr  Arglwydd, Duw Israel, yn dweud: ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n diystyru amodau'r ymrwymiad. a  Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o'r Aifft, o'r ffwrnais haearn b , dwedais wrthyn nhw, “Rhaid i chi wrando arna i a chadw'r amodau dw i'n eu gosod. Os gwnewch chi hynny, byddwch chi'n bobl i mi, a bydda i'n Dduw i chi.” Wedyn roeddwn i'n gallu rhoi beth wnes i addo iddyn nhw – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo. A dyna'r wlad ble dych chi'n byw heddiw.’” A dyma fi'n ateb, “Amen! Mae'n wir  Arglwydd!”

Yna dyma'r  Arglwydd yn dweud wrtho i: “Cyhoedda'r neges yma yn nhrefi Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem: ‘Gwrandwch ar amodau yr ymrwymiad rhyngon ni, a'u cadw nhw. Roeddwn i wedi rhybuddio'ch hynafiaid chi pan ddes i â nhw allan o'r Aifft. A dw i wedi dal ati i wneud hynny hyd heddiw, i'ch cael chi i wrando arna i. Ond doedd neb am wneud beth roeddwn i'n ddweud na cymryd unrhyw sylw. Roedden nhw'n ystyfnig, ac yn dal ati i ddilyn y duedd ynddyn nhw i wneud drwg. Felly, dw i wedi eu cosbi nhw, yn union fel roedd amodau'r ymrwymiad yn dweud – am wrthod gwneud beth roeddwn i'n ddweud.’”

A dyma'r  Arglwydd yn dweud wrtho i: “Mae pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem wedi cynllwynio yn fy erbyn i. 10 Maen nhw wedi mynd yn ôl a gwneud yr union bethau drwg roedd eu hynafiaid yn eu gwneud. Maen nhw wedi gwrthod gwrando arna i, ac wedi addoli duwiau eraill. Mae gwlad Israel a gwlad Jwda wedi torri amodau'r ymrwymiad wnes i gyda'i hynafiaid nhw. 11 Felly, dyma dw i, yr  Arglwydd, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw, a fyddan nhw ddim yn gallu dianc. A phan fyddan nhw'n gweiddi arna i am help, wna i ddim gwrando arnyn nhw. 12 Wedyn bydd pobl trefi Jwda a phobl Jerwsalem yn gweiddi am help gan y duwiau maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth iddyn nhw. Ond fydd y duwiau hynny yn sicr ddim yn gallu eu hachub nhw o'u trafferthion! 13 A hynny er bod gen ti, Jwda, gymaint o dduwiau ag sydd gen ti o drefi! Ac er bod gan bobl Jerwsalem gymaint o allorau ag sydd o strydoedd yn y ddinas, i losgi arogldarth i'r duw ffiaidd yna, Baal!’

14 “A ti Jeremeia, paid gweddïo dros y bobl yma. Paid galw arna i na gweddïo drostyn nhw. Paid pledio arna i i'w helpu nhw. Wna i ddim gwrando arnyn nhw pan fyddan nhw'n gweiddi am help o ganol eu trafferthion.

15 Pa hawl sydd gan fy mhobl annwyl i ddod i'm teml
ar ôl gwneud cymaint o bethau erchyll?
Ydy aberthu cig anifeiliaid yn mynd i gael gwared â'r drygioni?
Fyddwch chi'n gallu bod yn hapus wedyn?
16 Roeddwn i, yr  Arglwydd, wedi dy alw di
yn goeden olewydd ddeiliog gyda ffrwyth hyfryd arni.
Ond mae storm fawr ar y ffordd:
dw i'n mynd i dy roi di ar dân,
a byddi'n llosgi yn y fflamau gwyllt.
Fydd dy ganghennau di yn dda i ddim wedyn.

17 Mae'r  Arglwydd holl-bwerus, wnaeth dy blannu di yn y wlad, wedi cyhoeddi fod dinistr yn dod arnat ti. Mae'n dod am fod gwledydd Israel a Jwda wedi gwneud drwg, a'm gwylltio i drwy losgi arogldarth i Baal.”

Jeremeia mewn perygl

18 Dangosodd yr  Arglwydd – ron i'n gwybod wedyn;
dangosodd beth roedden nhw'n bwriadu ei wneud.
19 Ro'n i fel oen bach diniwed yn cael ei arwain i'r lladd-dy; c 
ddim yn sylweddoli mai yn fy erbyn roedd eu cynllwyn,
“Rhaid i ni ddinistrio'r goeden a'i ffrwyth!
Gadewch i ni ei ladd, a'i dorri o dir y byw,
a bydd pawb yn anghofio amdano.”
20 “O  Arglwydd holl-bwerus, rwyt ti'n barnu'n deg!
Ti'n gweld beth mae pobl yn ei feddwl a'i fwriadu.
Tala nôl iddyn nhw am beth maen nhw'n ei wneud.
Dw i'n dy drystio di i ddelio gyda'r sefyllfa.”

21 Felly, dyma mae'r  Arglwydd yn ei ddweud am y dynion o Anathoth
11:21 Anathoth Lle cafodd Jeremeia ei fagu (gw. 1:1).
sydd eisiau fy lladd i. (Roedden nhw wedi dweud y bydden nhw'n fy lladd i os nad oeddwn i'n stopio proffwydo fel roedd yr  Arglwydd yn dweud wrtho i).
22 Dyma mae'r  Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud amdanyn nhw: “Dw i'n mynd i'w cosbi nhw! Bydd eu bechgyn ifanc yn cael eu lladd yn y rhyfel, a bydd eu plant yn marw o newyn. 23 Fydd yna neb ar ôl yn fyw! Mae'r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.”

Copyright information for CYM